Staff a myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen at gymryd rhan ym mhrosiect ‘Cragen Beca’
28.04.2022
Mae staff a myfyrwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen at gymryd rhan ym Mharêd 'Cragen Beca' a gynhelir yng Nghaerfyrddin ar y 1af o Fai. Mae’r Parêd yn rhan o brosiect aml-haen sy’n uno hanes a threftadaeth ag arfer celf cyfoes drwy gydweithio a phartneriaeth.
Trwmped cragen dro yw Cragen Beca. Yn ôl y sôn fe’i chwythwyd i alw’r cymeriad chwedlonol Beca a’i ‘Merched’ i weithredu yn ystod Terfysgoedd enwog Beca yn Sir Gaerfyrddin yng nghanol y 19eg ganrif (1839 - 43).
Prosiect gan yr artist Kathryn Campbell Dodd o orllewin Cymru yw Cragen Beca ac fe’i ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir Gâr, Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru a Chanolfan S4C Yr Egin mewn cydweithrediad ag Oriel Myrddin, Cof Gâr - Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Archif Posteri RED SHOES ac Oriel Bevan Jones.
Bydd yn arwain at gyfres o arddangosfeydd, digwyddiadau a pharêd yn nhref Caerfyrddin ddydd Sul 1 Mai 2022 gan ddechrau am 2pm (ymgasglu o 1:30pm). Fel rhan o'r prosiect, mae Kathryn Campbell Dodd wedi dylunio a chreu tair gwisg gyfoes ar gyfer Rebecca a fydd yn cael eu gwisgo fel rhan o Barêd Cragen Beca. Yna bydd y gwisgoedd yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin o 14 Mai 2022.
Mae'r artist Kathryn Campbell Dodd wedi bod yn gweithio gydag artistiaid, cerddorion a pherfformwyr i feddwl am bwysigrwydd Cragen Beca a'r hyn y gallai'r gwrthrych arwyddocaol hwn yn hanesyddol ei olygu i bobl Sir Gaerfyrddin heddiw.
Ar ddechrau'r tymor, daeth i siarad â myfyrwyr creadigol ar gampws Caerfyrddin i'w hysbrydoli i gymryd rhan yn y prosiect. Anogodd y myfyrwyr, drwy themâu hanesyddol y prosiect, i ystyried eu hymdeimlad eu hunain o hunaniaeth, cymuned, cyfiawnder a phrotestio.
Meddai,
"Bu'n bleser gweithio gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin a roddodd gefnogaeth amhrisiadwy i'r prosiect. Mae myfyrwyr a staff wedi dod ag ymagweddau a safbwyntiau newydd i'r gwaith sydd wedi helpu i fywiogi'r profiad a dod â'r straeon Cymreig hanesyddol hyn, sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn, i gyd-destun cyfoes.
“Mae'r materion a wthiodd poblogaeth wledig y 19eg Ganrif i’r pen gan arwain at Derfysgoedd Beca wedi newid eu ffocws dros oddeutu 180 o flynyddoedd, ond mae anghyfiawnder ac anghydbwysedd cymdeithasol yn parhau i fod yn rhy weladwy yn ein cymunedau. Un o'r sloganau o derfysgoedd myfyrwyr Paris yn 1968, oedd 'L'imagination au pouvoir' (Pŵer y dychymyg), ac mae'r syniad hwnnw hefyd wrth wraidd y prosiect hwn. Rwy’n gobeithio y gall ymwneud â phrosiectau fel Cragen Beca helpu i rymuso myfyrwyr y 2020au i ddychmygu ffyrdd newydd o gyfeirio’r diwylliannau a'r cymunedau yr hoffent eu creu ar gyfer y dyfodol, ac yn y pen draw helpu eu llunio.”
Bydd Jonathan Pugh, darlithydd yn y Drindod Dewi Sant, yn cymryd rhan yn y parêd fel un o’r tair Rebecca, gan wisgo dyluniadau unigryw Kathryn wedi'u hail-ddychmygu. Ychwanega,
“Mae'n wych dod o hyd i fywyd newydd mewn stori leol mor bwysig sy'n cael ei mynegi mewn ffordd hwylus a chyfoes. Mae perthnasedd 'pŵer y bobl ' yn parhau i fod yn amlwg ar draws ein ffrydiau newyddion heddiw, ac mae'r prosiect hwn yn ein hatgoffa'n fawr o bwysigrwydd codi a dathlu lleisiau'r gorthrymedig a’r rhai sydd wedi'u tangynrychioli.”
Mae Finlay Prydderch, myfyriwr BA Gwneud Ffilmiau, yn un o'r myfyrwyr sy'n cymryd rhan yn y prosiect hwn. Meddai,
“Ar gyfer prosiect Cragen Beca, fi oedd y ffotograffydd fu’n tynnu lluniau'r ffrogiau ar gyfer Instagram Kathryn a thudalen Instagram Oriel Myrddin. Roedd y prosiect hwn yn llawer o hwyl i weithio arno i gael profiad o dynnu lluniau proffesiynol ar gyfer achos gwych. Mae hyn yn rhywbeth arbennig y gallaf ei ychwanegu at fy CV, gan fy mod eisiau mynd i weithio fel gweithredwr camera yn fframio lluniau. Mae’n ffordd wych o ddatblygu llygad craff.”
Mae Reece Ford, myfyriwr arall, wedi mwynhau'r profiad o weithio ar y prosiect hwn, gan ddweud,
“Roedd yn brofiad gwerthfawr iawn cael gweithio o flaen y camera ar gyfer y sesiwn tynnu lluniau. Ac fe wnes i fwynhau gweithio gyda’r bobl hyn yn fawr iawn!”
Yn ôl y myfyriwr Actio Dominic Parker,
“Mae wedi bod yn broses greadigol ddifyr ac yn bleser bod yn rhan ohoni.”
Bydd y parêd yn dechrau o Oriel Myrddin ar hyd Stryd y Brenin ac i lawr i’r Clos Mawr. Bydd y parêd yn cael ei arwain gan bobl ifanc o Ysgol Bro Myrddin a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin a fydd yn gweithio gyda'r dawnsiwr Osian Meilir i ddatblygu'r perfformiad. Gwahoddir grwpiau cymunedol a gwylwyr i wisgo i fyny ac ymuno yn y digwyddiadau ar y diwrnod.
Ar ddiwedd y parêd yn y Clos Mawr bydd perfformiadau gan Dawnswyr Talog, un o grwpiau dawnsio gwerin mwyaf blaenllaw Cymru a Qwerin, perfformiad dawns gyfoes gan Osian sy'n estyn ffiniau’r ddawns werin draddodiadol Gymreig.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476