Symposiwm AtiC 2022: Cyflymu Arloesedd mewn Iechyd a Llesiant


17.10.2022

Cynhaliodd Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ei hail symposiwm hon (ddydd Iau, 13 Hydref), ar y thema Cyflymu Arloesedd mewn Iechyd a Llesiant.

The University of Wales Trinity Saint David’s (UWTSD) Assistive Technologies Innovation Centre (ATiC) held its second symposium this week (Thursday, October 13), on the theme of Accelerating Innovation in Health and Wellbeing.

Cynhaliwyd y digwyddiad, oedd am ddim, rhwng 9:30am a 5pm a hynny wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe ac yn ogystal cafodd ei ffrydio’n fyw.

Bu Symposiwm ATiC 2022 yn myfyrio ar effaith a gwaddol y rhaglen arloesol Cyflymu Cymru, gan arddangos sut mae Cymru’n cyflymu arloesedd drwy gydweithio rhwng y GIG a’r byd academaidd, ac yn grymuso cleifion drwy ymchwil sy’n seiliedig ar y defnyddiwr ac arloesi technolegau.

Partneriaid ATiC yn y rhaglen Cyflymu, sy’n cael ei hariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru, yw Cyflymydd Arloesedd Clinigol (CIA) Prifysgol Caerdydd, Canolfan Technoleg Gofal Iechyd (HTC) Prifysgol Abertawe a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sy’n arwain y rhaglen.  Gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’i Sefydliad TriTech, y mae ATic a HTC yn bartneriaid academaidd allweddol ynddo, hefyd ymuno â Cyflymu ar gyfer y Symposiwm hwn.

Amlygodd y digwyddiad sut mae Cyflymu wedi creu cyfleoedd cydweithredol a phartneriaethau newydd ar draws sectorau a sefydliadau.  Gwnaeth hefyd edrych i’r dyfodol, wrth i’r cam hwn o’r rhaglen Cyflymu ddirwyn i ben ddiwedd Rhagfyr 2022.

Ymhlith y prif siaradwyr a agorodd y digwyddiad roedd yr Athro Philip Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Roedd Sesiwn Un yn cynnwys cyflwyniadau ar y cyd gan arweinwyr pedwar sefydliad partner Cyflymu a’u mentrau astudiaethau achos.

Roedd Sesiynau Dau a Thri yn cynnwys cyflwyniadau gan yr Athro Chris Hopkins, Pennaeth Arloesedd a Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Chyfarwyddwr Clinigol (Gwyddoniaeth), ATIC, PCYDDS; yr Athro Alka S Ahuja, Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc, ac Arweinydd Clinigol Cenedlaethol, TEC Cymru; Dr Lorna Tasker, Pennaeth Peirianneg Adsefydlu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; ac o fyd diwydiant, Marcus Ineson, Prif Swyddog Marchnata NGPOD Global, a Jackie Crooks, Prif Swyddog Masnachol Kinsetsu Ltd.

Roedd Sesiwn Pedwar yn drafodaeth agored ynglŷn â’r camau nesaf yn y cyd-destun Prydeinig a Rhyngwladol o ran heriau gofal iechyd yn y dyfodol a gweithio gyda phartneriaid masnachol.

Cadeiriwyd y drafodaeth gan Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru; gyda Dafydd Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddorau Bywyd ac Arloesedd, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru; a’r Athro Keir Lewis, Arweinydd Clinigol, Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Chyfarwyddwr Meddygol Arloesedd Anadlol Cymru.

The discussion was chaired by Cari-Anne Quinn, Chief Executive Officer of Life Sciences Hub Wales; with Dafydd Evans, Deputy Director of Life Sciences and Innovation, Health and Social Services Group, Welsh Government; and Professor Keir Lewis, Clinical Lead, TriTech Institute, Hywel Dda University Health Board and Medical Director, Respiratory Innovation Wales.

Meddai’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant: “Roedd y Brifysgol yn falch iawn o gynnal y gynhadledd nodedig hon oedd yn ceisio arddangos yr arloesedd a’r ymchwil diweddaraf a gyflawnwyd drwy’r rhaglen Cyflymu.  

“Mae’n enghraifft o sut y gall cydweithio rhwng y brifysgol a sectorau gofal iechyd ddarparu gwir fanteision a deilliannau gwell i gleifion yn ogystal â symbylu twf economaidd. Mae’r dull cydweithredol a chymhwysol hwn yn ganolog i strategaeth ymchwil ac arloesi’r brifysgol.”

Meddai’r Athro Ian Walsh, Profost y Drindod Dewi Sant ar gampysau Abertawe a Chaerdydd a Chyfarwyddwr ATiC: “Gellir gweld gwir effaith ATiC a’i phartneriaid yn y rhaglen Cyflymu yn y nifer o fentrau a gefnogir i dyfu a datblygu eu busnesau. Mae’n amlygu’r rôl hanfodol mae prifysgolion yn ei chwarae wrth symbylu arloesedd yng Nghymru ac wrth sicrhau ein ffyniant i’r dyfodol.”

Meddai Dr Sean Jenkins, Athro Cysylltiol y Drindod Dewi Sant a Chyfarwyddwr Ymchwil ATiC: “Roedd yr ail symposiwm hwn gan ATiC yn adeiladu ar lwyddiant ein digwyddiad cyntaf yn 2019, ac yn myfyrio ar effaith a gwaddol y rhaglen Cyflymu ac yn dathlu’r partneriaethau newydd a datblygol a’r cynlluniau cydweithredu rydym yn eu meithrin i symbylu ymchwil, datblygu ac arloesi mewn iechyd a llesiant.

“Roeddem yn falch iawn o groesawu cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd, menter a’r byd academaidd, ar gyfer digwyddiad cyffrous oedd yn ysgogi’r meddwl – gan fyfyrio ar yr hyn sydd eisoes wedi’i gyflawni a’r hyn sydd eto i ddod.”

Meddai Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru sy’n arwain rhaglen Cyflymu: “Mae’r Rhaglen Cyflymu wedi bod yn rhan bwysig o genhadaeth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i wneud Cymru yn lle rhagorol ar gyfer arloesedd gofal iechyd. Bydd y partneriaethau a ddatblygir rhwng y byd academaidd, diwydiant, ac iechyd a gofal cymdeithasol drwy’r rhaglen hon yn parhau i ddarparu manteision am flynyddoedd lawer i ddod.

“Yn ddiweddar cyhoeddodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Adroddiad Effaith sy’n dathlu llwyddiant y rhaglen Cyflymu. Mae’r adroddiad yn amlygu sut mae Cyflymu wedi cefnogi busnesau newydd a busnesau bach a chanolig (BBaChau) i gyflymu’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu technoleg, cynnyrch a gwasanaethau newydd mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.” Darllenwch yr adroddiad yma…

Meddai’r Athro Chris Hopkins, Pennaeth Arloesedd a Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Chyfarwyddwr Clinigol (Gwyddoniaeth) ATIC, y Drindod Dewi Sant: “Mae llawer o ddatblygiadau dros y blynyddoedd diwethaf yn dangos yr hyn y gall gwir gydweithrediad ei gynnig ar draws y rhanbarth a ledled Cymru. Enghraifft o hyn yw’r bartneriaeth agos rydym wedi’i datblygu gyda’r Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ynghyd â’r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd (HTC) ym Mhrifysgol Abertawe.

“Fe wnaethon ni gyflwyno nifer o astudiaethau achos yn y Symposiwm lle mae’r GIG, partneriaid masnachol a’r byd academaidd wedi cydweithio i ddatblygu technolegau a dyfeisiau newydd a gwreiddiol. Mae’r partneriaethau hyn yn dangos sut y gall byrddau iechyd, y byd academaidd a diwydiant weithio mewn partneriaeth i ddatblygu a phrofi dyfeisiau arloesol i sicrhau gwell deilliannau i gleifion. Mae’r partneriaethau hyn o bartneriaid cydradd yn canolbwyntio’n llwyr ar gyfrannu at a gwella iechyd a llesiant pobl yng Nghymru.”

Wedi’i ariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, prifysgolion, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a’r byrddau iechyd, nod Cyflymu yn y pen draw yw creu gwerth economaidd parhaol i Gymru.

The event highlighted how Accelerate has generated new collaborative opportunities and partnerships across sectors and institutions.

Nodyn i'r Golygydd

Mae ATiC yn ganolfan ymchwil integredig sy'n rhoi dulliau meddwl ac arloesi strategol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar waith, drwy ei chyfleuster ymchwil arloesol i brofiad defnyddwyr (UX) a gwerthuso defnyddioldeb, sydd wedi’i lleoli yn Ardal Arloesi Abertawe yn SA1. Darllenwch ragor yma

Mae ATiC wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Gynau Gwyrdd y DU ac Iwerddon  eleni a gynhelir ym mis Tachwedd 2022, yn y categori ‘O Fudd i Gymdeithas’, am ei hymchwil cydweithredol arloesol gyda’r fenter eHealth Digital Media Ltd yn Abertawe.  Mae’r cwmni cyfathrebu digidol, eHealth Digital Media, yn cynhyrchu a darparu cynnwys newid ymddygiad megis ffilmiau gwybodaeth â chynnwys o ansawdd trwy ei blatfform sefydledig PocketMedic.

Roedd y prosiect Gweld dementia trwy eu llygaid nhw (Byw gyda Dementia) yn cynnwys ymchwil gan dîm AtiC dros gyfnod o ychydig dros flwyddyn yn sail i gyfres o 10 o ffilmiau newydd gan eHealth Digital Media.  Mae’r ffilmiau, am fywydau beunyddiol a heriau pobl sy’n byw gyda dementia, yn ffocysu ar ddarparu cymorth, hyfforddiant ac addysg ar gyfer cleifion dementia, eu teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd.  Darllenwch ragor yma…

Gwybodaeth Bellach

Bethan Evans

Swyddog Prosiect ATiC, Marchnata a Chyfathrebu

Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC)

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS)

Technium 1, Heol y Brenin, Abertawe SA1 8PH.

E-bost: bethan.evans@uwtsd.ac.uk