Tad yn adeiladu ar wybodaeth ac yn rhannu sgiliau prifysgol gyda’i deulu


24.06.2022

Ar ôl ymfudo o Bwlgaria 5 mlynedd yn ôl, adeiladodd Vasil Stoev fywyd newydd gyda'i bartner a'i ferch ifanc yn y DU. Dechreuodd astudio BA Rheolaeth Busnes ar gampws y Drindod Dewi Sant yn Birmingham, gan ddod o hyd i amser hefyd ar gyfer hobïau fel pysgota, gwersylla a chwarae gitâr.

Er i Vasil dreulio amser yn astudio gartref yn Bwlgaria, ni lwyddodd i orffen ei gwrs ar y pryd, ond mae bellach wedi ailgydio mewn addysg ar ôl bwlch hir. “Mae’n bwysig iawn mewn bywyd... Er mwyn helpu i gael swydd dda mae'n well cael gradd brifysgol," meddai.

Yn ystod ei gyfnod allan o addysg fe wnaeth ymroi i yrfa ym maes TG, gan ennill “dros 10 mlynedd o brofiad yn darparu cymorth TG i fusnesau canolig a mentrau, a 5 mlynedd o ddylunio a datblygu gwefannau.”

Ond nawr mae eisiau cymryd yr awenau ar ei brosiect ei hun: “Hoffwn i sefydlu fy musnes fy hun, ac rwy’n meddwl mai’r ffordd orau o ddysgu sut i wneud hynny yw drwy astudio cwrs rheoli busnes yn y brifysgol. Rwy’n anelu at gael fy nghwmni meddalwedd rheoli busnes fy hun, neu ddod yn rheolwr TG.”

“Hyd yn hyn ar y cwrs rwyf wedi astudio hanfodion cyfrifyddu, ymgysylltu â'r gymuned a'r gweithle modern," esbonia Vasil.  “Rwy wedi dysgu rhywfaint am gyfrifyddu sylfaenol yn ogystal ag adroddiadau ariannol lefel uwch. Roeddwn i’n hoff iawn o’r pwnc ‘y gweithle modern’ – buom yn astudio’r hyn sydd ei angen i fod yn rheolwr ac yn arweinydd, a sut i reoli eich hun yn gyntaf.

"Rwy'n bendant yn argymell y cwrs hwn gan ei fod yn darparu'r prif sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddod yn rheolwr neu i gael eich busnes llwyddiannus eich hun. I mi, fel tramorwr, yr iaith yw'r brif her oherwydd mae braidd yn anodd ysgrifennu mewn arddull ffurfiol ac academaidd briodol, yn ogystal â darllen y llenyddiaeth angenrheidiol ar gyfer fy astudiaethau. Ond mae’r athrawon yn barod iawn i helpu, maen nhw’n egluro popeth yn fanwl ac yn fy nghyfeirio at y prif bwyntiau y mae angen i mi eu darllen yn y llenyddiaeth a argymhellir.

“Mae’r cwrs wedi bod yn help mawr i mi i ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu a rheoli a’m sgiliau proffesiynol ar sawl lefel. Mae fy Saesneg wedi gwella’n sylweddol ac mae fy sgiliau rheoli amser a chynllunio yn llawer gwell nawr.”

Mae Vasil yn hoffi rhannu'r hyn y mae'n ei ddysgu gyda'i bartner gartref i'w helpu i adeiladu ei busnes ei hun, ac mae'n ei chael yn ddefnyddiol siarad â rhywun bob dydd am yr hyn y mae wedi'i ddysgu fel bod y pynciau a'r testunau’n ymwreiddio’n ddyfnach. “Mae'r Brifysgol nid yn unig yn newid fy mywyd i, ond hefyd bywyd fy nheulu, ac rydym yn ddiolchgar iawn am hynny.”

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk

Ffôn | Phone : 07384467078