Tîm o’r Drindod Dewi Sant a ddatblygodd system cymorth anadlol i helpu i frwydro yn erbyn Covid 19 yn cyrraedd rhestr fer Gwobrau Dewi Sant 2022
17.02.2022
Mae tîm o beirianwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a ddatblygodd system cymorth anadlol jet argraffedig 3D i helpu’r GIG yn y frwydr yn erbyn Covid 19 wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobr Dewi Sant o dan y categori Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Mae Gwobrau Dewi Sant, a fydd yn dathlu eu nawfed flwyddyn yn 2022, yn cydnabod gorchest eithriadol pobl o bob cwr o Gymru.
Ym mis Mai 2020, penderfynodd Luca Pagano, Graham Howe, Professor Peter Charlton, John Hughes a Richard Morgan defnyddio eu harbenigedd i ddatblygu system cymorth anadlol jet argraffedig 3D hynod effeithlon wedi'i seilio ar Venturi fel rhan o ymdrech gydlynol i helpu'r GIG yn yr achosion cychwynnol o Covid-19.
Y prif amcan oedd datblygu dyfais y gellid ei gweithgynhyrchu'n rhad, yn gyflym ond, ar yr un pryd, yn hawdd ei defnyddio wrth gynnal lefelau perfformiad uchel. Cafodd y ddyfais ei optimeiddio i allu cyflawni swyddogaethau CPAP megis cynnal pwysau PEEP mewn sefyllfaoedd lle byddai ysbytai dan bwysau eithriadol a lle'r oedd y cyflenwad ocsigen yn gyfyngedig.
Dywedodd Luca Pagano o’r Drindod Dewi Sant, Uwch Beiriannydd Prosiectau Ymchwil yn Made Cymru: “Gwelwyd fod dyfeisiau CPAP safonol yn hynod aneffeithlon, ac yn lle hynny gallai ein dyfais ni weithredu gan ddefnyddio traean o’r ocsigen. Mae hefyd yn anghyffredin iawn i ddyfeisiau Venturi allu cynnal pwysau cadarnhaol yn hyderus o fewn llwybrau anadlu'r claf wrth gyflenwi cymysgeddau nwy cywir. Cyflawnwyd hyn trwy nifer o gamau ailadroddol rhwng modelu a phrofi.”
Gofynnodd Peiriannydd Biofeddygol Arweiniol yn Nepal a oedd wedi darllen y newyddion am y Venturi, a allai’r tîm rannu eu ffeiliau 3D i’w hargraffu yn ei ysbyty yn Pokhara lle'r oedd sefyllfa COVID-19 yn gwaethygu bob munud.
Ymatebodd y tîm yn gyflym gan roi cytundeb trwydded mewn lle ac yna darapru’r holl ddogfennaeth/ffeiliau technegol a chefnogi'r peirianwyr yn Nepal gydag unrhyw ymholiadau. Cynhyrchwyd y ddyfais yn llwyddiannus gydag argraffwyr bwrdd gwaith 3d a'i defnyddio i achub bywydau.
Ychwanegodd Graham Howe, Pennaeth Gweithredol Made Cymru: “Daeth Dr Steven Fielding â’r broblem gychwynnol i fy sylw 10 mlynedd yn ôl cyn i mi ymuno â’r Brifysgol, a bu ef a minnau’n gweithio ar y syniad, ynghyd â David Williams o Ysgol Gweithgynhyrchu a Logisteg y Drindod Dewi Sant a oedd yn astudio’n rhan amser ar gyfer MSc Gweithgynhyrchu Darbodus ac Ystwyth.
“Fe wnaethon ni ail edrych ar y mater yn ystod cyfnod cynnar Covid wrth i ni sylweddoli bod ganddo'r potensial i helpu, yn enwedig yng nghyd-destun cyflenwadau ocsigen prin. Ond roedd materion sylweddol i'w datrys o hyd o ran ei ffiseg fel bod modd ei weithgynhyrchu ledled y byd mewn llefydd fel Nepal.
“Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dewi Sant yn glod cyffrous i ni ac yn foment falch i’r tîm ac mae’n dangos yn glir sut y gall gwaith Ymchwil a Datblygu yn y Drindod Dewi Sant fynd i’r afael â heriau byd-eang hollbwysig.”
Wrth gyhoeddi'r teilyngwyr, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
Mae rhai o'r bobl sydd ar y rhestr fer wedi dangos dewrder a phenderfyniad eithriadol. Mae eraill wedi dangos ysbryd cymunedol anhygoel er gwaetha’r pwysau aruthrol o fyw drwy bandemig y coronafeirws.
Mae ein teilyngwyr yn bobl syfrdanol ac rydym yn ffodus iawn eu bod yn byw yng Nghymru. Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer a hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o’i amser i enwebu rhywun am wobr – yn anffodus mae’n amhosib rhoi pawb ar y rhestr fer.”
Dywedodd Barry Liles, OBE, Dirprwy Is-Ganghellor Sgiliau a Dysgu Gydol Oes Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: “Mae’r Brifysgol yn falch o weld y tîm hwn yn cael ei gydnabod am eu cydweithrediad; ymdrechion arloesol a wnaed ar anterth y pandemig. Wrth ymdrechu i gynnal eu llwyth gwaith o ddydd i ddydd, gyda’r holl gyfyngiadau a osododd Covid arnynt, buont yn gweithio y tu hwnt i’r disgwyl i ddod o hyd i ateb yn gyflym sydd wedi esgor ar fudd sylweddol. Daeth eu hangerdd a’u brwdfrydedd i’r amlwg wrth iddynt weithio tuag at sicrhau canlyniad cadarnhaol.
Categorïau'r gwobrau eleni yw: Dewrder, Busnes, Ysbryd y Gymuned, Gweithiwr Allweddol, Diwylliant, Pencampwr yr Amgylchedd, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Chwaraeon, Person Ifanc, a Gwobr Arbennig y Prif Weinidog.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ar Ebrill 7.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk