Trychineb personol yn ysbrydoli mam i roi rhywbeth yn ôl


14.06.2022

Arweiniodd y profiad dirdynnol o golli ei phlentyn ieuengaf oherwydd cymhlethdodau iechyd fam i  bedwar Noreen Akhtar i gampws Y Drindod Dewi Sant Birmingham i astudio Tyst AU Iechyd a Gofal Cymdeithasol  er mwyn helpu eraill.

Wrth fynd i mewn ac allan o ysbytai gyda'i babi a gweld eraill yn yr un sefyllfa drallodus, esbonia Noreen: "Wrth dreulio llawer o amser yn y system gofal iechyd gyda fy merch, a fu farw yn anffodus yn 14 mis, ces i weld llawer o bethau’n digwydd o'm cwmpas.

"Roeddwn i'n lwcus o gael fy nheulu i'm cefnogi drwy gydol y cyfnod hwn, ond gwelais i deuluoedd eraill yn cael trafferth heb gymorth ychwanegol. Rhoddodd hyn awydd i mi helpu a chefnogi teuluoedd fel y rhain a oedd yn mynd drwy gyfnod caled tebyg... I wneud hynny roedd yn rhaid i mi ddechrau yn rhywle, felly dechreuais i ar y cwrs hwn."

Dewisodd Noreen y Dystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 Iechyd a Gofal Cymdeithasol. "Pan ddechreuais i'r cwrs, roeddwn i eisiau bod yn weithiwr cymdeithasol i deuluoedd a phlant bregus. Ond yn ystod y trydydd tymor, penderfynais i y byddai'n well gen i weithio mewn ysbyty plant. Rwy'n teimlo y bydda i’n hapusach yn helpu i achub bywydau a rhoi gobaith i deuluoedd."

Mae jyglo bywyd teuluol prysur ochr yn ochr â'i hastudiaethau wedi bod yn anodd, ond mae Noreen yn dweud "mae cael teulu cefnogol wedi fy helpu i oresgyn rhai o'r heriau sy'n gysylltiedig ag astudio yn y brifysgol. Maen nhw’n fy helpu i reoli fy aseiniadau ac ymrwymiadau teuluol drwy helpu yn y tŷ a mynd â’r plant yn ôl ac ymlaen i’r ysgol.

"Roedd y darlithwyr hefyd yn fy nghefnogi a'm harwain i'r llwybr cywir i'm helpu i oresgyn fy anawsterau, ac roedd gweithio drwy bob her yn rhoi gwefr i mi – rwy bob amser am wneud fy ngorau a dod allan ar y brig."

Nid yw'r ansawdd hwn wedi dianc rhag y staff academaidd, ac mae Besty Jose, Rheolwr Rhaglen TystAU HSC yn dweud: "Mae Noreen yn fyfyriwr gweithgar, rhagweithiol a ddewisodd astudio ar y campws pan arhosodd llawer o fyfyrwyr eraill ar-lein. Mae hi wedi bod yn ymroddedig iawn i'w hastudiaethau ac mae bob amser yn cwblhau ei haseiniadau ymlaen llaw."

"Rwy wedi gallu cwrdd â llawer o wahanol bobl," mae Noreen yn parhau. "Nid oes neb wedi fy meirniadu na'm sarhau, ac roedd pob un o'm darlithwyr, fy nghyfoedion a hyd yn oed staff ar y safle i gyd yn barod i'm  gwthio i fyny bob cam o'r ffordd, gan fy helpu i adeiladu ar fy hyder a'm sgiliau cyfathrebu. Trwy wneud y cwrs hwn rwy wedi dysgu llawer amdanaf fy hun a lle galla i fy ngwthio fy hun i fynd ymhellach mewn bywyd. "

Dywedodd gan chwerthin ei bod hi "ar bigau’r draen i’w gweld ei hun yn ei gwisg", mae'n meddwl am gyffro "wynebau ei rhieni pan fydd hi'n cerdded ar draws y llwyfan i gasglu fy niploma" - tystysgrif a fydd yn caniatáu iddi ddilyn ei huchelgais i gael gyrfa mewn gofal iechyd a nyrsio. “Ac”, meddai, “rwy’n teimlo mor falch  bod fy narlithwyr i wedi gofyn i ddefnyddio fy ngwaith i helpu’r garfan nesaf o fyfyrwyr.

"Byddwn i’n argymell y cwrs hwn i bobl eraill. Mae wedi rhoi hapusrwydd i mi felly hoffwn i ei rannu â phobl eraill ac iddyn nhw deimlo’r un peth â fi: Y teimlad o hapusrwydd, y teimlad o fod yn llwyddiannus, a'r teimlad o ledaenu hapusrwydd."

Mae awydd Noreen i ledaenu hapusrwydd yn deillio o anawsterau personol enfawr y mae wedi gorfod eu goresgyn, ond drwy waith caled a dyfalbarhad, mae wedi dod o hyd i'w llwybr drwy'r Drindod Dewi Sant, ac yn annog eraill i wneud yr un peth.

"3 blynedd yn ôl, doeddwn i ddim yn gallu dychmygu fy hun yn gweithio tuag at yrfa wrth fy modd. Mae wedi rhoi'r hyder a'r ewyllys i mi gael breuddwydion uchelgeisiol, gan wybod y gallai  gyrraedd fy nodau ac y galla i wneud gwahaniaeth."

Mae'r cwrs ar gael i'w astudio ar gampws Birmingham Y Drindod Dewi Sant ar ddyddiau'r wythnos neu ar benwythnosau, a gall fod yn rhan o radd Baglor mewn Gwyddoniaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk