“Trysorau: Casgliadau arbennig Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant” - Lansiad llyfr yn nodi daucanmlwyddiant Y Drindod Dewi Sant


09.08.2022

Lansiwyd llyfr i nodi daucanmlwyddiant Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.

A book to mark UWTSD’s bicentenary was launched at the National Eisteddfod in Tregaron last week.

Yn ystod digwyddiad arbennig ar stondin y Brifysgol ar faes yr Eisteddfod, lansiwyd yn swyddogol “Trysorau: Casgliadau Arbennig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant” dan olygyddiaeth yr Athro John Morgan-Guy.

Mae’r gyfrol newydd lawn darluniadau hon yn cynnwys detholiad o blith y miloedd lawer o drysorau a gedwir yn Llyfrgell Roderic Bowen ar gampws y brifysgol yn Llambe. Mae’r Casgliadau Arbennig yn cynnwys dros 35,000 o weithiau argraffedig, 8 llawysgrif o’r Oesoedd Canol, tua 100 o lawysgrifau o’r cyfnod wedi’r Oesoedd Canol a 69 o incwnabwla.

Yn dilyn lansiad y llyfr, dywedodd yr Athro John Morgan-Guy:

“Dyma’r sefydliad colegol addysg uwch hynaf yng Nghymru, ac yn ei ddau gan mlynedd o hanes mae wedi derbyn llawer o lawysgrifau hynod ddiddorol a phrin, llyfrau printiedig cynnar, cyfrolau darluniadol hardd, a chyhoeddiadau prin o ddalenni i gyfnodolion. Derbyniwyd y rhain yn bennaf trwy roddion hael nifer o gymwynaswyr, gan gynnwys sylfaenydd y sefydliad, yr Esgob Thomas Burgess o Dyddewi, gyda’r casgliad yn cael ei gadw heddiw yn Llyfrgell Roderic Bowen ar gampws Llambed.

Mae’r gyfrol lawn darluniadau hon yn cynnwys detholiad o blith y miloedd lawer o drysorau sy’n rhychwantu mwy na saith can mlynedd, gydag ysgrifau byrion sydd wedi’u hysgrifennu gan ysgolheigion sydd â gwybodaeth a gwerthfawrogiad dihafal o’r gwaith dan sylw. y mae eu gwybodaeth a’u gwerthfawrogiad o’r gweithiau heb eu hail, yn datgelu cyfoeth yr hyn a elwid unwaith yn ‘llyfrgell fach fwyaf Cymru’.”

Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd yr Athro Medwin Hughes DL:

“Ni’n lansio’r gyfrol yn ystod y flwyddyn allweddol hon o nodi daucanmlwyddiant sefydlu’r brifysgol.  Mae’r hyn sydd gyda ni yn dapestri o lawysgrifau a llyfrau sy’n allweddol i ddeall diwylliant a hanes Cymru. 

Mae’n gyfle i edrych yn ôl wrth gwrs ond yn bwysicach na hynny mae’n gyfle i edyrch at y dyfodol a gofyn y cwestiwn beth sydd angen felly ar Gymru i greu cyfleoedd a phartnariaethau newydd sy’n dathlu ein diwytlliant ac sy’n dehongli ein diwylliant ni mewn ffordd fodern ddigidol? Dyna’r her ac rwy’n siwwr y bydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn chwarae rôl yn hyn hefyd.”

Mae cyhoeddi’r llyfr hwn yn benllanw 4 blynedd o waith i’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu, Dywedodd Alison Harding, Pennaeth Gweithredol Llyfrgelloedd ac Adnoddau Dysgu y Drindod Dewi Sant:

“Rwyf am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bob aelod o’r tîm sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y prosiect.

Yn benodol, hoffwn nodi’r cydweithwyr hynny sydd wedi’u lleoli yn ein Casgliadau Arbennig ac Archifau, na fyddai’r llyfr hwn wedi bod yn bosibl hebddynt. Mae eu hymrwymiad rhyfeddol a’u proffesiynoldeb drwy gydol y prosiect hwn wedi amlygu gwerth eu gwaith, a’r rôl allweddol y maent yn ei chwarae wrth sicrhau bod y casgliadau hyn yn cael gofal a’u bod yn hygyrch i bawb.

Dyma hefyd oedd ein cyfle i arddangos llawenydd a harddwch y casgliadau hyn, a’u rôl wrth lunio’r brifysgol, y gymuned y mae’n ei gwasanaethu a’r genedl ehangach.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru, Natalie Williams:

“Mae’n anrhydedd mawr i Wasg Prifysgol Cymru gyhoeddi’r gyfrol drawiadol ac unigryw hon ar y cyfoeth a ddaliwyd yn llyfrgell Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan. Mae manylder a harddwch gweledol cymaint o weithiau a atgynhyrchir yn y llyfr hwn, ynghyd â’u hanes hynod ddiddorol o ardaloedd ar draws y byd, yn wirioneddol arbennig. Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gweithio gyda thîm mor wybodus i ddwyn y gyfrol hon i ffrwyth.”

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076