Un o Fyfyrwyr a Darlithydd Dylunio Set a Chynhyrchu Y Drindod Dewi Sant yn gweithio ar y Ffilm ‘Last Train To Christmas’.
11.04.2022
Gwnaeth un o fyfyrwyr a darlithydd cwrs BA Dylunio Set a Chynhyrchu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant chwarae rhan yng nghynhyrchiad diweddar Sky Cinema, ‘Last Train To Christmas’.
Roedd angen ar y ffilm ‘Last Train To Christmas,’ a gynhyrchwyd yn ddiweddar yn Stiwdios y Bae, Abertawe, fel rhan o’u cynllun cynhyrchu, gelficyn penodol iawn yr oedd hi’n anodd dod o hyd iddo, sef cwpan ‘MaxPax’ y Rheilffyrdd Cenedlaethol a oedd yn dyddio o’r 1980au. Mae gan Amgueddfa Caerefrog enghraifft wreiddiol ohono, ond nid oedd modd iddynt ei wneud ar gael mewn da bryd ar gyfer ffilmio, ac felly, gofynnodd y Cyfarwyddwr Celf, Gemma Clancy, i raglen radd Set a Chynhyrchu Diwydiannau Creadigol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a leolir yng Nghaerfyrddin, er mwyn gweld a oedd modd modelu un ohonynt a’i argraffu’n 3D.
Cynigiodd Dave Atkinson, Darlithydd Adeiladu Celfi a Golygfeydd, dderbyn y cyfle amhrisiadwy a chreu model CAD 3D o’r cwpan dymunol, ond cafodd ei rwystro ychydig gan y bu rhaid iddo wneud hynny drwy ddefnyddio ffotograffau yn unig. Yna, cafodd y cwpan ei argraffu’n fewnol a’u orffen yn gyflawn yn barod ar gyfer cael ei ddefnyddio fel celficyn gweithredol gan Michael Sheen.
Ar ôl gorffen a chreu y dyluniad, sefydlwyd cyswllt diwydiannol cydweithredol, a pharhaodd Dave i weithio ar y set fel gwneuthurwr celfi a golygfeydd.
Meddai Dave, “Erbyn hyn, mae cymaint o ffilmiau a chyfresi teledu yn cael eu gwneud yng Ngorllewin Cymru, rwy’n mwynhau’n fawr iawn cysylltu’r diwydiant â’r darpariaethau sydd gennym yma ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Rydym wedi ailddilysu’r darpariaethau sydd ar gael yng Nghaerfyrddin, a byddwn yn eu lansio ym mis Medi eleni, a gwnaiff hyn agor drysau i lawer mwy o gyfleoedd cyffrous ar gyfer gwneud cysylltiadau â diwydiant.
Hefyd, yn ystod y cynhyrchu, cynigiwyd lleoliad cyflogedig ar gyfer myfyriwr Dylunio Set a Chynhyrchu yn ei Ail Flwyddyn. Bu Kayla Pratt yn ddigon ffodus i gael ei gwahodd i weithio yn yr adran gelf ar draws pob maes sgiliau, o wisgo, i gelfi, bod wrth law ac adeiladu, drwy gydol ei gwyliau haf.
Ychwanegodd Kayla, “Pan oeddwn yn dewis prifysgol, roeddwn am astudio mewn man a allai fy helpu i gael profiad gwaith. Er gwaethaf y pandemig byd-eang, gwnaeth y cwrs prifysgol BA Dylunio Set a Chynhyrchu fy nghynorthwyo i gymryd camau i mewn i’r diwydiant. Gwnaeth fy nhiwtoriaid yn y brifysgol fy helpu i baratoi ar gyfer fy niwrnod cyntaf yn yr adran gelf a hyd at ddiwedd cynhyrchiad Julian Kemp o, Last Train to Christmas. Roedd pob dydd a dreuliwyd yn adran gelf y brif ffilm yn ddiwrnod gwych, a gwnaethant gynorthwyo fy nysgu gydag amrywiaeth o rolau ar, ac oddi ar y set drwy gydol y 6 wythnos y treuliais yn Stiwdios y Bae, Abertawe. Gwnaeth y profiad hwnnw nid dim ond fy helpu i ddatblygu fel artist, ond mae hefyd wedi tawelu fy meddwl a chadarnhau i mi mai dyma’r diwydiant yr wyf am weithio ynddo. Diolch i holl diwtoriaid y cwrs BA Dylunio Set a Chynhyrchu, rwyf bellach yn fwy hyderus i gymryd fy ngham nesaf fel artist yn y diwydiant.”
Dim ond un ymhlith llawer o enghreifftiau o gydweithrediad rhwng y Brifysgol a chwmni cynhyrchu yw hwn – enghraifft wych o bwysigrwydd addysgu, datblygu a hyrwyddo’r galluoedd digidol sydd i’w cael o fewn y diwydiannau creadigol ar Gampws Caerfyrddin, a gwnaiff buddsoddiad parhaol ddim ond cryfhau a datblygu ymhellach y math cysylltiadau. Gwnaiff y math hyn o dwf a chymorth alluogi myfyrwyr a graddedigion o’r Drindod Dewi Sant i ragori ar ddisgwyliadau’r diwydiant.
Meddai’r Cyfarwyddwr Celf Gemma Clancy:
“Hoffai’r holl dîm cynhyrchu fynegi ei ddiolch diffuant i’r Drindod Dewi Sant Caerfyrddin am helpu cynhyrchu’r ffilm Last Train To Christmas. Ymunodd Kayla Pratt a Dave Atkinson â thîm yr Adran Gelf a daethant â rhai sgiliau ffantastig gyda nhw. Roeddem wrth ein boddau yn cydweithio â nhw a gwnaethom werthfawrogi’n fawr eu gwybodaeth leol a’u galluoedd argraffu 3D!
“Kayla oedd un o aelodau mwyaf positif ein tîm, a byddai hi bob amser yn mynd i’r afael â thasgau’r dydd gyda brwdfrydedd a phendantrwydd. Y tro nesaf byddwn yn ffilmio yng Nghymru, byddwn yn bendant yn galw eto ar Y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin!”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476