Un o radd-prentisiaid PCYDDS yn defnyddio ei sgiliau a’i harbenigedd i hyrwyddo ei llwybr gyrfa
05.01.2022
Mae un o Radd-Brentisiaid PCYDDS, Jess Marfell, sy’n Rheolwr Gofal Cychwynnol gyda Gofal a Iechyd Digidol Cymru (GIDC) yn defnyddio ei sgiliau a’i harbenigedd i hyrwyddo ei gyrfa.
Dechreuodd Jess ei gyrfa o fewn y Diwydiant Harddwch a newidiodd ei llwybr gyrfa yn 2016 i ymuno â GIDC fel Profwr.
Mae ar hyn o bryd ym mhedwaredd flwyddyn ei hastudiaethau yn PCYDDS ac newydd gael baban, mae’n parhau gyda’i hastudiaethau ac yn mynychu darlithoedd yn ystod ei chyfnod mamolaeth.
Mae Jess yn canmol y brifysgol a’i chyflogwr am fod yn gefnogol drwy’r cyfan, gan ei galluogi i gyrraedd cydbwysedd gwaith/bywyd, ac am roi cyfle, sgiliau a’r hyder i ddatblygu iddi.
Meddai: “Bues i’n ffodus i weithio ar nifer o systemau clinigol gan gynnwys system labordai Cymru. Symudais ymlaen i ddod yn Ddadansoddwr Cymorth Busnes o fewn y tîm Integreiddio yn GIDC a reolodd negeseuon clinigol ar draws Cymru.
“Dyma pan dynnwyd fy sylw at y Radd-brentisiaeth a phenderfynais wneud cais am y ffrwd waith Systemau Data a Gwybodaeth gan ei bod yn addas ar gyfer data mawr a damcaniaethau ystadegol.
“Drwy gydol fy astudiaethau rwy’ wedi symud fy ngyrfa ymlaen ac wedi ennill dau ddyrchafiad o fewn y tîm Gofal Cychwynnol yn GIDC. Rwy’n dechrau fy rôl newydd fel Rheolwr Gofal Cychwynnol i gynorthwyo rheolaeth yr agenda TG mewn lleoliadau Gofal Cychwynnol ar draws Cymru.
“Rwy’ hefyd wedi parhau i astudio drwy gydol fy nghyfnod mamolaeth, a gyda chymorth y teulu wedi mynychu darlithoedd yn dilyn tair wythnos i ffwrdd o’r gwaith.”
Dwedodd Jess fod y rhaglen radd wedi bod yn hyblyg, a’i bod wedi ennill yr hyder i ddysgu technolegau newydd.
“Mae wedi rhoi cydbwysedd gwaith/bywyd i mi ac mae GIDC wedi fy nghefnogi drwy’r cyfan,” ychwanegodd.
“Rwy’ wedi mwynhau fy astudiaethau ac wedi defnyddio’r hyn a ddysgais yn fy ngyrfa. Mae ennill gwybodaeth ar sut i ddehongli a thynnu data wedi golygu fy mod wedi gallu rhoi hyn ar waith yn fy rôl Gofal Cychwynnol, ac wedi gwella ansawdd y data o fewn system Carchardai Cymru.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk