Un o Raddedigion Busnes y Drindod Dewi Sant yn dod yn adwerthwr dillad vintage wedi’i leoli yng nghanol Caerfyrddin


03.05.2022

Mae un o raddedigion Ysgol Fusnes Caerfyrddin, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi dechrau ar fenter fusnes newydd drwy agor siop dillad vintage newydd yng Nghaerfyrddin.

A graduate from The University of Wales Trinity Saint David, Carmarthen Business School has created a new business venture by opening a new vintage clothes store in Carmarthen.

Mathew Kilgariff yw perchennog ‘The Dandy Lion Vintage’ yng Nghaerfyrddin. Busnes annibynnol yw hwn sy’n arbenigo mewn dillad a chyfwisgoedd vintage, ond sydd hefyd yn gallu cynnig i gwsmeriaid steiliau unigryw, cynaliadwy a fforddiadwy.

Gwraidd y syniad oedd y ffaith, yn ôl Mathew, nad oedd siopau dillad vintage o safon uchel ar gael yn ardal Sir Gaerfyrddin (yn enwedig ar gyfer dynion). Roedd ef wedi ymweld â siopau dillad vintage ym Manceinion, Bryste a Chaerdydd ac wedi sylweddoli y gallai busnes tebyg yng Nghaerfyrddin weithio, a bod platfformau ar-lein poblogaidd, megis Depop a Vinted yn dystiolaeth bod galw am gynhyrchion vintage.

Dywedodd: “Credaf fod pobl yn gwerthfawrogi siopa’n gorfforol ar y stryd fawr oherwydd wrth wneud hynny, mae’n bosibl gweld a theimlo ansawdd a maint y cynnyrch, a sut mae’n ffitio (a hyd yn oed ei roi arno). Gall casgliad o ddillad sydd wedi cael eu dewis yn ofalus gynnig syniadau newydd, ac mae aelodau staff gwybodus ar law i roi cyngor ar yr hyn sy’n ffitio ac sy’n addas ar gyfer pob unigolyn.  

“Yn bersonol, nid wyf yn siopa mwyach mewn siopau dillad cadwyn oherwydd nid yw eu busnes ‘ffasiwn cyflym’ yn gynaliadwy, yn aml mae ansawdd eu dillad yn wael, ac nid oes unrhyw unigolrwydd yn perthyn iddynt”.

Oherwydd y magwyd Mathew yng Nghaerfyrddin, teimlodd ei fod yn gyfarwydd iawn â demograffeg y dref a bod Caerfyrddin, yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, wedi datblygu’n gyrchfan siopa ar gyfer pobl Sir Gaerfyrddin a hefyd pobl Sir Benfro.

“Mae llawer o’r siopau cadwyn mawr wedi ymdrechu’n galed i gadw eu hadeiladau ar agor oherwydd y cynnydd yn y nifer o brynwyr ar-lein gwybodus, ond mae hyn wedi rhoi cyfle i siopau annibynnol greu dynameg newydd ar y stryd fawr. Hefyd, gyda choleg celf a phrifysgol yn ffynnu ar garreg ein drws, credaf nad yw oedolion ifanc creadigol yn cael eu cynrychioli’n ddigonol gan siopau’r dref.”

Mathew Kilgariff is the owner of ‘The Dandy Lion Vintage’ in Carmarthen. It is an independent business that specialises in vintage/retro clothing and accessories, whilst also offering customers sustainable, affordable & unique styles.                                                  The idea originated from the fact that there were no good quality vintage clothing shops according to Mathew in the

Penderfynodd Mathew astudio am radd BA Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin, oherwydd roedd ef yn ymwybodol o’r ffaith bod gan y brifysgol adran fusnes sydd wedi ennill sawl gwobr.  

“Oherwydd roedd y dosbarthiadau’n fach, byddech chi’n cael eich addysgu’n un ac un mewn modd na fyddai prifysgol fwy yn gallu ei gynnig. Pan oeddwn yn siarad gyda fy narlithwyr, sylweddolais hefyd fod y cwrs yr oeddent yn ei redeg yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar gynaladwyedd, a byddai hyn o fantais i ni o gymharu â chyrsiau mwy traddodiadol. 

“Credaf fod y sgiliau ymarferol y gwnes i eu dysgu pan oeddwn yn astudio am radd, h.y. cadw cyfrifon, strategaethau marchnata, dadansoddi data ac ati, wedi bod o fudd mawr i mi wrth i mi redeg fy musnes fy hun, a gwnaeth y cymorth a roddwyd i mi gan fy narlithwyr fy helpu i fod yn hyderus wrth wireddu hyn.”

Mae’r darlithydd Jessica Shore yn falch o fenter Mathew ac yn dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol. 

“Mae wedi bod yn bleser i gymryd rhan yn nhaith addysgol Mathew. Roedd Mathew yn fyfyriwr rhagorol ac yn entrepreneur brwdfrydig. Mae’n wych gweld ei fod wedi gwireddu ei freuddwyd.”

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk