Un o raddedigion Dylunio a Chynhyrchu Theatr Y Drindod Dewi Sant yn dylunio celfi a golygfeydd ar gyfer y Gwobrau BRIT.
21.03.2022
Gwnaeth un o gyn-fyfyrwyr Dylunio a Chynhyrchu Theatr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant greu celfi a golygfeydd ar gyfer y Gwobrau BRIT a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Arena O2 Llundain.
Jake Linzey yw Rheolwr Gyfarwyddwr Leviathan Workshop, cwmni gwobrwyedig sy’n arbenigo mewn creu celfi theatr a phypedau. Ei gwmni ef oedd yn gyfrifol am gynhyrchu celfi a golygfeydd ar gyfer perfformiadau KSI, Anne-Marie a Digital Farm Animals yn ystod y Gwobrau BRIT. Ar ôl cael gwybod am y gwaith, gwnaeth Jake ofyn i‘w gydweithiwr yn y diwydiant, darlithydd celfi a golygfeydd Dave Atkinson o'r Drindod Dewi Sant, i’w helpu gydag adeiladu rhan o’r dyluniad ar gyfer y cynhyrchiad hwn.
Roedd Jake wedi gofyn i Dave i greu cyfres o siwtcesys a chistiau teithio gwahanol a fyddai wedyn yn cael eu gorchuddio â lledr ffug. Croesawodd Dave y cyfle hwn oherwydd mae’n enghraifft dda o’r sgiliau a addysgir i fyfyrwyr Dylunio Setiau a Chynhyrchu yn eu blwyddyn gyntaf. Hefyd, byddai hyn yn dangos bod y sgiliau trosglwyddadwy a ddefnyddir union yr un peth pe baech yn creu ar gyfer sioe theatr ar raddfa fechan neu ar gyfer digwyddiad cenedlaethol mawreddog a ddarlledir yn fyw ar y teledu.
Gwnaeth myfyrwyr yn eu hail flwyddyn hefyd helpu gydag adeiladu’r cesys, a chawsant brofiad amhrisiadwy o’r diwydiant ac o waith portffolio. Cludwyd y cesys i Arena O2, lle cawsant eu cydosod mewn codwr golygfaol a’u gwisgo gan dîm Leviathan a oedd ar y safle.
Dyma’r ail dro i Leviathan ofyn i Dave Atkinson i ddarparu cymorth ar gyfer y Gwobrau BRIT, wedi iddo weithio yn flaenorol ar Wobrau BRIT 2019 ar gyfer Little Mix. Meddai Jake Linzey:
“Mae gan y BRITs weithdroad anhygoel o gyflym, ac o ganlyniad, rhaid eich bod chi’n gallu dibynnu ar eich partneriaid creadigol i gyflawni, felly gofynnais i Dave a’r myfyrwyr ac fe wnaethant waith ffantastig."
Fel un o raddedigion y Drindod Dewi Sant, mae Jake wedi ymrwymo ei hun i ymwneud â’r cwrs ac wedi rhoi darlithoedd fel siaradwr gwadd, yn ogystal â gweithio ar brosiectau. O ganlyniad, dymuna ef roi rhywbeth yn ôl i’r brifysgol, gan ychwanegu:
“Rwy’n dal i fod y awyddus i gynnig profiad ymarferol yn y diwydiant fel perthynas weithiol rhwng Leviathan Workshop a Diwydiannau Creadigol y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin.”
Meddai Dave Atkinson, darlithydd Dylunio a Chynhyrchu Theatr y Drindod Dewi Sant:
“Mae ein cwrs BA Dylunio a Chynhyrchu Setiau yn enwog ledled y DU oherwydd galluoedd ymarferol a sgiliau trosglwyddadwy sy'n cael ei trosglwyddo i'r myfyrwyr. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddatblygu brand y Drindod Dewi Sant ymhlith y diwydiannau creadigol, a gwnaiff hyn yn ei dro, ehangu’r rhwydweithio rhwng y myfyrwyr ac arae o weithwyr proffesiynol y diwydiant.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476