Un o raddedigion Y Drindod Dewi Sant sy’n cystadlu yn IRONMAN Cymru yn gobeithio ysbrydoli eraill


26.08.2022

Bydd un o raddedigion Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Sarah Arthurs yn cymryd rhan yn  nigwyddiad cyntaf IRONMAN Cymru ar 11 Medi.

University of Wales Trinity Saint David graduate Sarah Arthurs will take part in her first IRONMAN Wales event on September 11.

Astudiodd Sarah, am ei TAR ar gampws Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, a dod wedyn yn ddirprwy bennaeth ar Ysgolion Tafarn-sbeit a Thredeml yn Sir Benfro.

Mae gan y fenyw 42 oed raglen hyfforddi drawiadol ac mae hefyd yn cael cymorth gan Geraint Forster, Cyfarwyddwr Rhaglen BSc Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff yn Y Drindod Dewi Sant. Mae'r Brifysgol yn noddi Rhaglen Wirfoddoli eleni yn IRONMAN Cymru a'r digwyddiad IRONKIDS Cymru ar 10 Medi 10 yn rhan o'i phartneriaeth gydweithredol ag IRONMAN Cymru.

Meddai Sarah mai hon oedd yr her gorfforol a meddyliol fwyaf iddi hi ei chyflawni hyd yma ond mae'n awyddus i ysbrydoli eraill i hyfforddi a chystadlu yn y digwyddiad, sy'n enwog am ei galedwch yn ogystal ag am ei leoliad ysblennydd lle mae athletwyr yn cystadlu mewn triathlon dygnwch sy'n cynnwys nofio 2.4 milltir, ras feicio 112 milltir o amgylch de Sir Benfro a rhedeg 26.2 milltir o amgylch Dinbych-y-pysgod.

"Os galla i wneud e, gall unrhyw un ei wneud e," meddai'r fenyw 42 oed. "Rwy am i bobl wybod ei bod hi’n bosib hyd yn oed os yw hi'n hynod o heriol. Dwi hefyd eisiau ysbrydoli rhagor o fenywod i gymryd rhan."

Mae gŵr a brawd-yng-nghyfraith Sarah wedi cwblhau IRONMAN Cymru ill dau ac mae ei merch wedi ymuno ag IRONKIDS Wales.

"Rwy wedi bod yn adeiladu fy rhaglen hyfforddi ac mae'n rhaid i mi gyfaddef, hon yw’r her fwyaf i mi ei chael erioed (ac a ga i byth, fwy na thebyg!) ond rwy’n teimlo ei bod hi’n rhywbeth yr hoffwn i ei gyflawni."

Meddai Sarah bod gweithio'n agos gyda Geraint a'i dîm wedi helpu i wella ei dealltwriaeth o'i rhaglen hyfforddi. Ar ddechrau'r haf, ymwelodd â champws Caerfyrddin y Brifysgol i gael profion mewn labordy, dadansoddiad nofio a chael gwybodaeth am strategaethau maeth.

"Mae Geraint wedi helpu i wella fy nhechneg ac wedi fy ngalluogi i ddeall y wyddoniaeth sydd wrth wraidd y cyfan," ychwanegodd.

"Rwy wedi ystyried ei gyngor yn ofalus, ac yn gallu gweld y gwahaniaeth yn barod."

Mae hyfforddi gyda ffrind a chyd-fyfyrwraig raddedig TAR, Lauren Arthur, hefyd wedi helpu.  "Mae wedi bod yn wych hyfforddi gyda'n gilydd, sy'n ein cadw ni'n frwdfrydig ni’n dwy," ychwanegodd.

"Mae gwybod y bydd Lauren yna ar y diwrnod, naill ai o’m blaen i neu’r tu ôl i mi, yn gysur hefyd! Mae wedi bod yn anodd iawn codi ambell fore a mynd allan a dechrau hyfforddi ac mae hi wedi bod yn hwb mawr i mi gyda hynny.

"Mae wedi bod yn heriol, yn ceisio cael lle i hyfforddi o amgylch bywyd cartref a gwaith sydd eisoes yn brysur, ac mae’r teulu a’r ffrindiau wedi bod mor gefnogol, gan helpu i’m galluogi i wneud hyn."

Dwedodd Sarah ei bod hi’n gobeithio ysbrydoli disgyblion yn ein hysgolion hefyd.

Meddai: "Rwy'n gweld llawer o’m disgyblion a'u rhieni pan rydw i allan yn hyfforddi ac maen nhw mor galonogol sydd wedi bod yn brofiad hyfryd. Dwi'n gobeithio y caiff y plant eu hysbrydoli gan yr hyn dwi'n ei wneud, yn enwedig y merched. Mae'n bwysig eu bod nhw’n sylweddoli bod menywod yn gallu cyflawni hefyd."

Mae partneriaeth Y Drindod Dewi Sant ag IRONMAN Cymru yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr a staff gydweithio ag IRONMAN ar feysydd sy'n ymwneud â phortffolio'r Brifysgol, gan gynnwys chwaraeon, iechyd a lles, twristiaeth, lletygarwch, rheoli digwyddiadau yn ogystal â ffilm a’r cyfryngau.  Mae hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymchwil gymhwysol gan gynnwys y posibilrwydd o gynnal astudiaethau effaith ac adroddiadau i hysbysu IRONMAN Cymru yn ei strategaeth cynllunio busnes a'r strategaeth ar gyfer y dyfodol.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk