Un o raddedigion y Drindod Dewi Sant yn dychwelyd i’r campws wnaeth ei ysbrydoli i fod yn athro.
06.04.2022
Mae un o raddedigion y cwrs BA Addysg Gorfforol o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn dychwelyd yn wythnosol i gampws Caerfyrddin er mwyn dod â’i ddisgyblion ysgol am wersi nofio gan fyfyrwyr sy’n dilyn yr un cwrs y gwnaeth ef raddio arno.
Daeth Dafydd Jones i’r Drindod Dewi Sant i astudio am radd BA Addysg Gorfforol yng Nghaerfyrddin, ac ar ôl graddio, penderfynodd i barhau gyda’i astudiaethau yn y Brifysgol drwy astudio am gymhwyster TAR yn Abertawe. Penderfynodd astudio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant oherwydd teimlodd y byddai astudio cwrs sy’n ymwneud yn benodol ag Addysg Gorfforol, ac sy’n cynnig cyfleoedd ymarferol, yn addas ar ei gyfer.
Meddai Dafydd: “Doeddwn i ddim yn siŵr pa yrfa yr oeddwn am ei dilyn ar ôl bod yn y brifysgol, ond roeddwn yn aml yn meddwl am fynd i ddysgu. Gyda llawer o gyfleoedd amrywiol ar gael i addysgu gwahanol elfennau Addysg Gorfforol i blant, gwnaeth hyn fy helpu i wneud fy mhenderfyniad terfynol, sef roeddwn am fod yn athro.”
Gwnaeth Dafydd fwynhau yr amrywiaeth o fodylau yr oedd y cwrs yn ei gynnig. Roedd pob modwl yn unigryw, ac yn ei helpu ef yn aml i ddatblygu ei hun fel unigolyn. Yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr, teimlodd Dafydd fod y cwrs wedi’i alluogi ef i ddysgu am elfen wahanol o Addysg Gorfforol, ac fe wnaeth fwynhau yr elfennau ymarferol oherwydd, teimlodd ei fod yn dysgu wrth gymryd rhan.
Ychwanega Dafydd: “Gwnaeth fy ngradd israddedig fy natblygu mewn ffyrdd gwahanol, a’m helpu i drefnu fy amser llawer yn well. Gwnaeth hefyd ddatblygu fy sgiliau rhyngweithio â phobl, fy sgiliau addysgu, a gwella fy ngwybodaeth am sut i fyw bywyd iach.”
Fel rhan o’r rhaglen BA Addysg Gorfforol, caiff myfyrwyr brofiad gwerthfawr, megis addysgu gweithgareddau Addysg Gorfforol i ddisgyblion ysgolion cynradd lleol. Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr lefel 4 yn addysgu gweithgareddau nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Ysgol y Model, lle mae Dafydd erbyn hyn yn athro.
Meddai: “Roedd y tro cyntaf yn rhyfedd oherwydd mae’n dal i deimlo fel petai dim ond ddoe roeddwn yn addysgu nofio i’r ysgolion cynradd lleol. Mae’r amser wedi hedfan heibio ers i mi fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ond fy nod terfynol bob amser ar ôl fy mlwyddyn gyntaf o astudio oedd bod yn athro.”
Mae staff Y Drindod Dewi Sant yn hapus iawn i weld Dafydd yn datblygu o fod yn fyfyriwr i fod yn athro, ac maent yn falch ei weld yn dychwelyd yn wythnosol i’r campws.
Meddai Karin Thomas, Rheolwr y Pwll Nofio a Darlithydd Rhan Amser: “Roedd hi’n syrpréis hyfryd gweld Mr. Jones, (Dafydd) yn dychwelyd i’r Drindod Dewi Sant yn ei rôl newydd fel athro dosbarth Blwyddyn 4 yn Ysgol y Model. Roedd y myfyrwyr presennol hefyd wrth eu boddau wrth glywed, o ganlyniad gorffen y cwrs BA Addysg Gorfforol a’r cwrs TAR yn Abertawe, ei fod ef, ar ôl graddio, wedi ymuno â’r proffesiwn addysgu.”
Dywedodd Dylan Blain: “Mae hi bob amser yn wych gweld graddedigion a wnaeth astudio ein rhaglen BA Addysg Gorfforol yn symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. Dyna beth oedd syrpréis gwych, gweld Dafydd yn dychwelyd gyda’i ddisgyblion i gael yr un gwersi nofio y gwnaeth ef eu cyflwyno dim ond ychydig o flynyddoedd yn ôl fel rhan o’i astudiaethau. Mae hi hefyd yn beth da bod ein myfyrwyr presennol yn gallu siarad â, a dysgu oddi wrth rywun sydd wedi dod drwy’r rhaglen ac wedi dechrau’n ddiweddar ar ei yrfa addysgu.”
Wrth i Dafydd fwynhau ei yrfa fel athro, dymuna ef annog myfyrwyr y dyfodol i wneud yr un peth.
“Gwnewch yn fawr o’r cyfleoedd sydd gennych, maent yn syfrdanol. Os ydych yn ystyried ymgofrestru ym mis Medi, gwnewch hynny, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau, rwy’n sicr y byddai’r staff yn hapus iawn eu hateb a thrafod y cyfleoedd sydd ar gael gyda chi.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476