Un o raddedigion Y Gyfraith a Phlismona’r Drindod Dewi Sant yn barod i ffocysu ar yrfa ym maes Plismona
14.07.2022
Mae Shauna Curry, un o raddedigion Y Gyfraith a Phlismona’r Drindod Dewi Sant, yn cydnabod cyfraniad y Brifysgol wrth ei helpu ar ei thaith i ddod yn heddwas.
Daeth Shauna yn fyfyriwr-wirfoddolwr yr heddlu yn ei blwyddyn olaf a dywed bod y profiad o fywyd go iawn a gafodd wedi ei hysbrydoli a’i hannog i ymuno â Heddlu De Cymru.
Meddai: “Cefais dri chynni gan wahanol brifysgolion a dewisais Y Drindod am ei bod yn cynnig rhaglen radd gyfun yn cwmpasu’r Gyfraith a Phlismona. Ar ôl fy Safon Uwch yn Y Gyfraith nid oeddwn yn siŵr pa lwybr astudio i’w gymryd, felly trwy ddewis Y Drindod, cafodd fy opsiynau eu hehangu.
“Yn ogystal, roedd y berthynas rhwng Y Drindod a Heddlu De Cymru, ynghyd â’u henw da am fod yn gefnogol, yn allweddol wrth wneud fy mhenderfyniad.
“Roedd gen i ddiddordeb mewn cyfraith trosedd a gyda help Y Drindod, cefais gipolwg i mewn i weithdrefnau’r Llys Ynadon a Llys y Goron ar waith ac ym mlwyddyn olaf fy astudiaethau bues yn Fyfyriwr-wirfoddolwr yr Heddlu a wnaeth i mi sylweddoli bod arna’i eisiau ffocysu ar yrfa ym maes Plismona.”
Dywedodd Shauna bod y tair blynedd a dreuliodd yn Y Drindod yn heriol oherwydd ym mis Mai 2020 ei blwyddyn gyntaf, nid yn unig yr effeithiodd COVID ar ei phrofiad o fywyd myfyriwr, ond hefyd ar y ffordd roedd yn astudio.
Ond ychwanegodd: “Roedd y ffordd y gwnaeth Y Drindod ymdrin â’r pandemig yn rhagorol, gan ddarparu cefnogaeth lle’r oedd angen, ac roedd y darlithwyr ar gael drwy Microsoft Teams, ac e-bost yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad un i un pan roedd angen.
“Heb gefnogaeth fy narlithwyr a’r cyfeillgarwch gyda fy nghyd-fyfyrwyr, er bod hynny dros gyswllt fideo, ryw’n siŵr na fyddwn wedi cyflawni fy ngradd dosbarth cyntaf. Rwyf hefyd yn eithriadol o falch bod fy nhraethawd hir wedi’i ganmol a’i argymell i’w gyhoeddi.”
Dywed Shauna bod Y Drindod wedi ei helpu’n bersonol ac yn broffesiynol ac wedi ei galluogi i gyrraedd ei nodau.
“Ar ddydd Lun 4ydd Gorffennaf, ymunais â Heddlu De Cymru yn llawn amser ac ar hyn o bryd rwy’n hyfforddi i fod yn Heddwas... Diolch Y Drindod Dewi Sant!
“Ni allaf argymell y Brifysgol hon ddigon a byddaf yn gwneud fy ngorau i ddychwelyd yma i symud fy nhaith addysgol/proffesiynol ymlaen ymhellach.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk