Uwchgynhadledd Y Drindod Dewi Sant i gefnogi Diwydiant Gweithgynhyrchu Cymru
08.06.2022
Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnal Uwchgynhadledd Diwydiant rhwng 21 a 23 Mehefin i drafod sut y gall busnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru droi’r heriau ar ôl Covid yn gyfleoedd drwy gydweithio â'r byd academaidd.
Caiff yr Uwchgynhadledd, sy'n dilyn digwyddiad llwyddiannus, tebyg a gynhaliwyd y llynedd, ei hagor gan Julie James, AS, y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, a fydd yn traddodi'r brif araith o'r enw 'Beth yw rôl diwydiant Cymru wrth fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd? A sut y gall bod yn gynaliadwy fod yn dda i fusnes? '
Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb rhad ac am ddim a gyflwynir gan siaradwyr blaenllaw yn y diwydiant gan gynnwys Gethin Roberts, Rheolwr Gyfarwyddwr, ITERATE, Chris Probert, Arbenigwr Arloesi, Llywodraeth Cymru, ac Eoin Bailey, Rheolwr Arloesedd y DU, Celsa Steel, yn Ardal Arloesi Glannau SA1 y Brifysgol ac AMRC Cymru, Sir y Fflint, gyda sesiynau ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys 'Cynaliadwyedd a Sero Net', 'Buddsoddi yn eich Dyfodol' a 'Chydweithio'.
Dywedodd Julie James AS, y Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd: "Roeddwn yn falch o gael fy ngwahodd i agor Uwchgynhadledd Diwydiant MADE Cymru. Mae'r digwyddiad hwn yn bwysig, nid yn unig oherwydd y sgyrsiau sy'n digwydd, ond yr etifeddiaeth gydweithredol y mae'n ei gosod mewn cynnig. Fel sector, gall gweithgynhyrchu chwarae rhan sylweddol yn y gwaith o fynd i'r afael â heriau newid yn yr hinsawdd. Gyda'n gilydd mae'n rhaid i ni weithio tuag at gyflawni Cymru sero-net ac mae'r digwyddiad hwn yn chwarae rhan yn y broses hon. Rwy'n edrych ymlaen at weld grym diwydiant, y byd academaidd a rhanddeiliaid allweddol yn cael eu cyfuno."
Mae cefnogi adferiad diwydiant o effaith y pandemig yn flaenoriaeth allweddol i'r Brifysgol, sydd â hanes amlwg o weithio gyda diwydiant drwy drosglwyddo gwybodaeth, arloesi ymchwil, datblygu'r gweithlu a thrwy ddarparu llif parod o fyfyrwyr a graddedigion medrus, mewn partneriaeth â chyflogwyr.
Sefydlwyd menter MADE CYMRU Y Drindod Dewi Sant i gefnogi diwydiannau gweithgynhyrchu yng Nghymru i addasu i heriau Diwydiant 4.0. Nod y fenter, a ariennir gan yr UE drwy Lywodraeth Cymru, yw cefnogi adferiad economaidd gweithgynhyrchwyr yng Nghymru drwy gynnig hyfforddiant wedi'i ariannu'n rhannol ac yn llawn i fusnesau i uwchsgilio staff, yn ogystal ag ymchwil a datblygu sy'n gwella prosesau a chynhyrchion i leihau gwastraff a chostau.
Mae'r Brifysgol hefyd yn cydweithio â phartneriaid yn y diwydiant i gyflwyno mentrau sgiliau a hyfforddiant sy'n dod i'r amlwg i gefnogi ymrwymiad llywodraethau'r DU a Chymru i gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr Sero Net erbyn 2050.
Yn ystod yr Uwchgynhadledd, bydd cyfle i gwrdd ag adrannau a phrosiectau eraill yn y Drindod Dewi Sant sy'n chwarae rhan yn y gwaith o gefnogi diwydiant Cymru. Trefnwyd cinio rhwydweithio rhwng 12p.m. a 2p.m. ddydd Mercher 22 Mehefin yn IQ, Y Drindod Dewi Sant, Heol y Brenin, Abertawe SA1 8EW, lle gallwch gwrdd â chynrychiolwyr o ATiC, CWIC, Yr Uned Brentisiaethau, AMSA, CBM Cymru a Chyflymydd Digidol CAMPUS.
Meddai Graham Howe, Pennaeth Gweithredol MADE Cymru yn Y Drindod Dewi Sant: "Roedd Uwchgynhadledd llynedd yn anhygoel. Roedd yn gyfuniad mor drawiadol o ddiwydiant, y byd academaidd a rhanddeiliaid. Sbardunodd rai sgyrsiau pwysig iawn am yr economi gylchol, gweithgynhyrchu darbodus, a gwydnwch y sector. Mae eleni'n addo bod yn fwy buddiol byth, ac rydym wedi cysylltu ag AMRC Cymru i gynnal rhai digwyddiadau yng Ngogledd Cymru – rydym yn gyffrous am hyn. Mae cydweithredu wrth wraidd popeth a wnawn, yn MADE Cymru a'r Drindod Dewi Sant, a gobeithiwn fod y digwyddiad hwn yn dangos ac yn dathlu'r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd."
I archebu lle ar unrhyw un o'r sesiynau ar-lein neu wyneb yn wyneb, ewch i:
https://www.madecymru.co.uk/event/made-cymru-industry-summit-celebrating-manufacturing-in-wales/
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk