Y Brifysgol a Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg yn creu Cadair Astudiaethau Basgeg i Gymru
11.04.2022
Bydd y Gymrodoriaeth ym maes sosioieithyddiaeth a pholisi a chynllunio iaith ac fe’i lleolir yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg wedi llofnodi cytundeb partneriaeth newydd i gefnogi cyfnewid academaidd rhwng Cymru a Gwlad y Basg ym maes sosioieithyddiaeth a pholisi a chynllunio iaith.
Bydd y Gymrodoriaeth, a enwir ar ôl yr ieithydd nodedig, y diweddar Dr Alan R. King, yn gyfle i ysgolhaig o Wlad y Basg ddod i Gymru i ymchwilio a chyfrannu at addysgu a chyfnewid gwybodaeth yn y meysydd hyn sydd mor allweddol i’r ddwy wlad a’i hieithoedd.
Alan R. King yn Hawai'i (llun: Begotxu Olaizola)
Detholir y Cymrawd yn flynyddol trwy alwad agored – manylion ar wefannau y Ganolfan ac Etxepare – gyda’r ymgeisydd llwyddiannus yn dod i Gymru yn hydref 2022.
Dywedodd Irene Larraza, Cyfarwyddwr Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg:
"Mae sefydlu'r bartneriaeth hon a Chadair Alan R King yn creu'r sefydlogrwydd strategol yr oedd ei angen ar gyfer y cydweithio academaidd ym maes sosioieithyddiaeth, polisi iaith a chynllunio rhwng Cymru a Gwlad y Basg. Mae hwn yn gam hanfodol tuag at sicrhau dyfodol amrywiaeth ieithyddol a’r prosesau adfywio ieithyddol sydd yn ein gwledydd."
Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:
"Mae'r Brifysgol yn falch iawn o gyhoeddi'r cydweithrediad arbennig hwn gyda Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg. Bydd Cymrodoriaeth Alan R. King yn gyfle gwych i ysgolheigion o Wlad y Basg ddod i Gymru i ymchwilio, i gyfrannu at ein rhaglenni dysgu ac i gymryd rhan mewn trafodaethau cyhoeddus a phroffesiynol ym maes sosioieithyddiaeth, polisi a chynllunio iaith. Mae hwn yn gam pwysig iawn i'r Brifysgol ac i Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg. Dyma'r unig Gymrodoriaeth gan Etxepare yn y maes hwn – maes sy'n flaenoriaeth uchel i Gymru ac i Wlad y Basg – ac mae ei gosod ar lefel Cadair yn ei rhoi yn un o ddeg sy’n derbyn cefnogaeth gan Etxepare eu cefnogi mewn prifysgolion ledled y byd, yn ogystal â bod yr unig un yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at groesawu'r Cymrawd cyntaf i Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn yr hydref."
Dywedodd Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd:
"Mae sefydlu’r Gymrodoriaeth hon yn creu conglfaen i ar gyfer y berthynas academaidd rhwng Cymru a Gwlad y Basg ym maes polisi a chynllunio iaith. Gwyddom pa mor hanfodol yw'r maes ymchwil hwn i'r ddwy wlad ac mae'n fraint gweithio gyda Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg ar y datblygiad strategol hwn.”
Yn ieithydd dawnus, cyfrannodd y diweddar Dr Alan R. King i'r maes hwn am gyfnod o bedwar degawd, ar sawl cyfandir ac fe ddysgodd dros ugain o ieithoedd gan gynnwys gynnwys Nawatl, Hawaieg, Hebraeg, Cymraeg a Basgeg. Drwy gydol ei oes, defnyddiodd ei ddawn ieithyddol ryfeddol i wneud dysgu ieithoedd yn haws i eraill drwy greu adnoddau ymarferol ar gyfer ieithoedd lleiafrifedig a ieithoedd o dan fygythiad. Ymhlith ei gyhoeddiadau yn Saesneg ar yr iaith Fasgeg mae ‘A Basque Course: A Complete Initiation to the Study of the Basque Language’ (1982), ‘The Basque Language: A practical Introduction’ (1994), ‘Colloquial Basque’ (1996), a’r olaf gyda Begotxu Olaizola, un a fu;n cyd-ddysgu Basgeg yn Aberystwyth gydag ef yn ystod y 1990au cynnar. Yn ystod y cyfnod hwn, dysgodd Gymraeg i lefel ryfeddol o ruglder a gwnaeth gyfraniad sylweddol dros flynyddoedd lawer i hwyluso’r berthynas rhwng Cymru a Gwlad y Basg.
Ef oedd yn gyfrifol am sefydlu lefel drothwy'r iaith Fasgeg yn yr 1980au, pan oedd yr Athro Medwin Hughes yn gweithio ar y lefel gyfatebol ar gyfer y Gymraeg. Fel aelod o Academi’r Iaith Fasgeg – Euskaltzaindia – cyfrannodd at gyhoeddi saith cyfrol ar ramadeg yr iaith Fasgeg.
Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan i gloi:
Mae'n briodol iawn bod y Gymrodoriaeth hon yn dwyn enw Alan R King. Rydym yn hynod ddiolchgar i'w deulu a'i ffrindiau agos am eu cefnogaeth ac edrychwn ymlaen yn fawr at gydweithio agos gydag ysgolheigion Basgeg yn sgil y datblygiad hwn.
Nodyn i'r Golygydd
Cyswllt: yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan. elin.jones@pcydds.ac.uk
1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Ymysg y meysydd ymchwil mae Ieithoedd Celtaidd Cynnar, Hagiograffeg, Llenyddiaeth Gymraeg y Canol Oesoedd, Rhamantiaeth a’r Ymoleuo yng Nghymru ac Ewrop, Enwau Lleoedd yng Nghymru a Phrydain, Geiriadureg. Cyfieithu llenyddol, Sosioieithyddiaeth Gyfoes a Pholisi a Cynllunio Iaith mewn Ieithoedd Lleiafrifedig. Dyma gartref Geiriadur Prifysgol Cymru a ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021.
2. Mae Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg yn hyrwyddo cydweithio ym meysydd diwylliant a'r byd academaidd gyda phartneriaid rhyngwladol (prifysgolion, endidau diwylliannol, gwyliau, canolfannau celfyddydol, ac ati), i gynyddu presenoldeb a gwelededd rhyngwladol yr iaith Basgeg a chreadigrwydd cyfoes Gwlad y Basg ac i hyrwyddo cydweithredu a chyfnewid rhyngwladol.
3. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk.
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076