Y Brifysgol yn croesawu Songs of Praise i Gampws Llambed


24.02.2022

Roedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o groesawu rhaglen y BBC Songs of Praise i gampws Llambed yn ddiweddar. Bydd y rhaglen, a gyflwynir gan y soprano Katherine Jenkins ac a gynhyrchir gan Avanti Media a Nine Lives Media ar gyfer y BBC, yn cael ei darlledu ar 27 Chwefror am 13.15 ar BBC One ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.

Songs of Praise on the Lampeter Campus to mark the Bicentenary

Yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor yn croesawu Kathryn Jenkins i gampws y Brifysgol yn Llambed

Mae campws Llambed y Brifysgol yn dathlu ei Ddaucanmlwyddiant eleni ac yn ystod y rhaglen bu Katherine Jenkins yn cyfweld â’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor yn ogystal â myfyrwyr a staff ar y campws. Ymhlith y rhai a gyfwelwyd roedd tri myfyriwr o St Vincent a’r Grenadines sy’n rhan o grŵp o fyfyrwyr sydd wedi derbyn ysgoloriaeth i astudio yn y Brifysgol.

“Rwy’n falch iawn bod Songs of Praise wedi ymweld â’n campws yn ystod blwyddyn ein daucanmlwyddiant,” meddai’r Athro Medwin Hughes. “Sefydlwyd y campws fel Coleg Dewi Sant gan yr Esgob Thomas Burgess i ddarparu addysg ryddfrydol i ddynion ifanc sy’n hyfforddi i fod yn offeiriaid Anglicanaidd. Dros y ddau gan mlynedd diwethaf mae’r campws wedi datblygu enw byd-enwog am y Dyniaethau ac addysg ryngddiwylliannol ac aml-ffydd”.

Meddai cynhyrchydd y rhaglen, Charlotte Hindle, “Fe wnaethon ni fwynhau ein ymweliad â’r Brifysgol yn Llambed yn fawr.  Cawsom groeso gan y staff a’r myfyrwyr ac rydym yn falch iawn bod Songs of Praise wedi gallu bod yn rhan o ddathliadau’r daucanmlwyddiant.

Mae’r dathliad daucanmlwyddiant yn coffau sefydlu Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan ar 12 Awst 1822 drwy osod y garreg sylfaen sy’n nodi dechrau addysg uwch yng Nghymru.