Y Drindod Dewi Sant Abertawe yn croesawu artistiaid a gwneuthurwyr o'r UE ar gyfer preswyliadau Hwb Crefftau
14.03.2022
Bydd prosiect y Ganolfan Grefftau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) Abertawe yn croesawu artistiaid a gwneuthurwyr o bob cwr o Ewrop ar gyfer rhaglen o breswyliadau gwneuthurwyr yn ddiweddarach y mis hwn.
Dros gyfnod o bythefnos, o ddydd Llun, 21 Mawrth 2022 ymlaen, bydd Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant yn cynnal saith gweithiwr crefft proffesiynol, o wledydd gan gynnwys Iwerddon, yr Eidal, Sbaen a Norwy.
Bydd y gwneuthurwyr gwadd yn gweithio o fewn stiwdios Crefftau Dylunio a Dylunio Patrymau Arwyneb arbenigol y Brifysgol, gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfleusterau traddodiadol a blaengar, gyda chefnogaeth technegwyr arbenigol ac academyddion.
Meddai Shelley Doolan, cydlynydd prosiect Hwb Crefftau’r Drindod Dewi Sant: "Mae hwn yn gyfle gwych i'n staff a'n myfyrwyr ymgysylltu ag artistiaid a gwneuthurwyr sy'n ymarfer yn rhyngwladol ac amlwg. Yn ogystal â rhannu gwybodaeth ac arbenigedd technegol, mae'r preswyliad yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i'n myfyrwyr ymgysylltu ar bynciau gan gynnwys sut i sefydlu a chynnal ymarfer artistig ffyniannus.
"Bellach, efallai yn fwy felly nag erioed, mae gwerth ychwanegol creu cysylltiadau, cwlwm a chydymdeimlad â'n cymheiriaid yn Ewrop yn brofiad arbennig hynod deimladwy ac i'w groesawu."
Meddai Anna Lewis, Tîm Crefftau Dylunio Celf Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant: "Mae'r tîm academaidd a thechnegol ym maes Crefftau Dylunio yn llawn cyffro i groesawu amrywiaeth o wneuthurwyr rhyngwladol i'r adran, lle gallant weithio ochr yn ochr â'n myfyrwyr gradd gan fanteisio ar ein cyfleusterau anhygoel mewn gwydr, cerameg a gemwaith.
"Rydym wrth ein bodd gyda'r cyfnewid syniadau a sgiliau hwn, a bydd y myfyrwyr yn cael eu hysbrydoli cymaint i weld sut y gallent weithio"
Mae’r Hwb Crefftau yn brosiect Ewropeaidd, wedi'i gyd-ariannu dan Raglen Ewrop Greadigol, sy'n canolbwyntio ar Grefft yng nghyd-destun treftadaeth ddiwylliannol a'i berthnasedd parhaus mewn ymarfer cyfoes.
Mae gweithgareddau'r prosiect yn cynnwys ymchwilio a dogfennu sgiliau a phrosesau crefftau; y gwahanol ffyrdd o’u defnyddio mewn arfer creadigol ledled Ewrop; a chwestiynau am fanylion diwylliannol a chymhellion unigol ymarferwyr.
Ymdrinnir â hyn drwy raglen gynhwysfawr a chyffrous i’w gwneud yn bosibl creu gwaith crefftau newydd a chynnal ymchwiliadau arbrofol i broses a deunydd a gefnogir gan 42 o breswyliadau gwneuthurwr rhyngwladol, 305 o weithdai, creu llyfrgell berthnasol, un ŵyl, saith arddangosfa, a dwy gynhadledd.
Edrychwn ymlaen at rannu canlyniadau'r preswyliad a ddaw i'r amlwg a ffyrdd o gymryd rhan yng ngweithgareddau ehangach yr Hwb Crefftau. I gael gwybod mwy am Hwb Crefftau ac i gymryd rhan:
https://www.facebook.com/Crafthubeu
https://twitter.com/CrafthubEu
https://www.instagram.com/accounts/login/?next=/crafthubeu/
I gael rhagor o wybodaeth am raglen Crefftau Dylunio Coleg Celf Abertawe, ewch i https://www.uwtsd.ac.uk/art-design/design-crafts/.
Gwybodaeth Bellach
Bethan Evans
Swyddog Prosiect CATC, Marchnata a Chyfathrebu
Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (CATC)
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Technium 1
Heol y Brenin
Abertawe
SA1 8PH
E-bost bethan.evans@pcydds.ac.uk