Y Drindod Dewi Sant ar restr fer Gwobrau Whatuni Student Choice 2022
20.04.2022
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Darlithwyr ac Ansawdd Addysgu yng Ngwobrau Whatuni Student Choice (WUSCA) eleni, sef y brif seremoni wobrwyo ym maes addysg uwch sy’n seiliedig yn llwyr ar ddewis myfyrwyr.
Bob blwyddyn, mae tîm WUSCA yn derbyn tua 35,000 o adolygiadau wedi’u dilysu yn deillio o ymweliadau â champysau ledled y wlad a chyflwyniadau ar-lein drwy wefan whatuni.com. Golyga’r dull o gasglu adolygiadau o dan arweiniad myfyrwyr fod prifysgolion ar y rhestr fer yn cael eu cydnabod gan fyfyrwyr yn unig am ddarparu profiad eithriadol.
Meddai’r Athro Mirjam Plantinga, Pro Is-Ganghellor Cysylltiol dros Brofiad Academaidd yn y Drindod Dewi Sant: Rydym yn falch iawn o gael ein henwebu ar gyfer y categori 'darlithwyr ac ansawdd addysgu' a bod ein myfyrwyr fod wedi cydnabod y gefnogaeth a gânt gan eu tiwtoriaid. Mae profiad academaidd ein myfyrwyr yn bwysig iawn i ni, ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â'n myfyrwyr.”
Mae Gwobrau Whatuni Student Choice, a drefnir gan IDP Connect, yn ddigwyddiad blynyddol sy'n dathlu gwaith caled darparwyr addysg uwch ledled y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Simon Emmett, Prif Weithredwr IDP Connect:
“Mae cael eich dewis ar y rhestr fer ar gyfer un o Wobrau Whatuni Student Choice yn gamp eithriadol. Derbyn cydnabyddiaeth mor uchel gan eich myfyrwyr yw pinacl rhagoriaeth. Dylai sefydliadau fod yn falch eu bod wedi cyrraedd y cam hwn yn y broses a dylent ddathlu'r profiad y maent wedi'i ddarparu i'w myfyrwyr dros y 12 mis diwethaf.”
Gwobrau Whatuni Student Choice yw’r unig wobrau blynyddol sy’n seiliedig yn llwyr ar farn myfyrwyr go iawn sy’n astudio yn y Deyrnas Unedig ac maent yn caniatáu i fyfyrwyr gael gafael ar ddata gonest, diduedd i wneud y dewisiadau cywir am eu dyfodol ar blatfform Whatuni.
Bydd enillwyr Gwobrau Whatuni Student Choice yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth 24 Mai 2022, mewn cinio gwobrwyo sy’n achlysur gwisg ffurfiol yn East Wintergarden, Llundain.
Cyhoeddir yr enillwyr hefyd ar safle whatuni.com.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk