Y Drindod Dewi Sant i groesawu teuluoedd Cerebra yn ystod Gorymdaith Nadolig Abertawe
17.11.2022
Bydd Canolfan Arloesi Cerebra Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn croesawu teuluoedd y mae arnynt angen lle tawel i wylio Gorymdaith Nadolig Abertawe yng Nghanolfan Dylan Thomas y Brifysgol yng nghanol y ddinas ddydd Sul, 20 Tachwedd.
Mae gan y Brifysgol fflôt yn yr orymdaith sydd wedi'i chynllunio a'i hadeiladu gan fyfyrwyr a staff a llusernau hudol, a wnaed yn ystod gweithdai teuluol a gaiff eu cynnal ar y cyd â Choleg Celf Abertawe, Y Drindod Dewi Sant a Dinas Noddfa Abertawe, hefyd yn rhan o orymdaith yr ŵyl.
Mae'r gweithdai wedi eu hariannu gan Bartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De Cymru ac fe'u cyflwynwyd gan Izzy Coombs, myfyriwr darlunio o'r Drindod Dewi Sant, a Shelly Hopkins, sydd wedi graddio mewn ffotograffiaeth.
Bydd côr, a stondinau gyda siocled poeth a mins peis hefyd ar gael yng Nghanolfan Dylan Thomas, cyn ac yn ystod yr orymdaith, sy'n dechrau am 5p.m.
Meddai'r Athro Ian Walsh, Profost campysau Abertawe a Chaerdydd Y Drindod Dewi Sant: "Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o orymdaith Nadolig ysblennydd eleni yn Abertawe. Mae'r Nadolig yn achlysur ar gyfer heddwch, gobaith a llawenydd ac eleni mae'n ymddangos yn fwy hanfodol nag erioed fod y Brifysgol yn ymuno â holl bobl Abertawe i ddathlu ein gwerthoedd a'n gobeithion cyffredin am ddyfodol mwy disglair."
Sefydlwyd Canolfan Arloesi Cerebra (CIC) yn 2005 yn gydweithrediad rhwng Y Drindod Dewi Sant a'r elusen genedlaethol Cerebra. Dr Ross Head (Athro Cyswllt a Rheolwr Dylunio) sydd wedi arwain y ganolfan ers ei sefydlu. Wedi'i alinio â strategaeth ymchwil genedlaethol Cerebra, mae ymchwil darganfod CIC yn cwmpasu gwerthuso profiad defnyddwyr a datblygiad sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, o ddyfeisiau a chynhyrchion cynorthwyol i helpu plant sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol i ddarganfod y byd o'u cwmpas.
Meddai Dr Ross Head, Athro Cysylltiol yn Y Drindod Dewi Sant: "Mae fy nhîm o Ganolfan Arloesi Cerebra wedi defnyddio ei hud a lledrith i greu fflôt prydferth eleni. Mae wedi bod yn waith hynod hwyliog, caled, ond yn rhoi boddhad mawr i wybod y bydd llwyth o blant wrth eu boddau o weld ein hymdrechion! Ac ar ben hynny, mae llawer o deuluoedd Cerebra yn cael eu croesawu mewn adeilad sy’n ystyriol o awtistiaeth yn Y Drindod Dewi Sant lle gallan nhw wylio'r orymdaith yn y gwres a'r tawelwch. Dwi'n caru fy swydd!"
Meddai Amanda Roberts, Uwch Swyddog Cyswllt Addysg Y Drindod Dewi Sant: "Pleser a braint oedd cynnal gweithdy teuluol cynhwysol ar gyfer Coleg Celf Abertawe, Y Drindod Dewi Sant a Dinas Noddfa Abertawe, gan wneud llusernau hudolus a phropiau i'w harddangos yng ngorymdaith Nadolig Abertawe. Roedd y gweithdy poblogaidd yn hwyl ac yn Nadoligaidd gyda chanlyniadau hyfryd yr ydym yn gyffrous i'w rhannu yng ngorymdaith dydd Sul. Gwelwn ni chi yno!"
Ychwanegodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau: "Coleg Celf yng nghanol y Ddinas yw Coleg Celf Canol y Ddinas ac mae wedi'i wreiddio yn y cymunedau sydd o'n cwmpas ar draws y ddinas. Mae'n bleser mawr ymuno â'r cymunedau hyn yn aelodau Dinas Noddfa Abertawe i gymryd rhan yng ngorymdaith y Nadolig eleni. Cawsom gymaint o hwyl yn gwneud addurniadau ar gyfer yr orymdaith, ac rwy'n gobeithio y bydd modd gweld y croeso rydyn ni’n ei ddarparu i bob aelod o'n cymuned ar lawenydd y wynebau pawb sy'n cymryd rhan yn yr orymdaith."
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk