Y Drindod Dewi Sant i gyd-gynnal Cynhadledd STC Ffederasiwn Ewropeaidd Gwybodeg Meddygol 2022
05.09.2022
Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cyd-gynnal Cynhadledd Pwnc Arbennig (STC) Ffederasiwn Gwybodeg Feddygol Ewrop (EFMI) 2022 ar 7 ac 8 Medi.
EFMI yw’r prif sefydliad mewn gwybodeg feddygol yn Ewrop ac mae’n cynrychioli 32 o wledydd. Yn sefydliad di-elw, mae’n ymwneud â theori ac arfer Gwyddor Gwybodaeth a Thechnoleg o fewn Iechyd a Gwyddor Iechyd mewn cyd-destun Ewropeaidd.
Bydd Cynhadledd Pwnc Arbennig EFMI 2022 yn cael ei gynnal gan y BCS, cymdeithas sy’n aelod cenedlaethol o EFMI, mewn cydweithrediad â’r Drindod Dewi Sant a Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI).
Mae iechyd a gofal digidol yn dod yn norm ledled y byd, ond mae taer angen i ymestyn y gweithlu proffesiynol medrus i ddarparu gwasanaethau gofal a alluogir gan dechnoleg. Mae thema’r gynhadledd yn amlygu pwysigrwydd hanfodol addysg gwybodeg ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae technoleg – a’r bobl sy’n ei defnyddio – yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
“Bydd y gynhadledd EFMI yn canolbwyntio ar ddatblygu ein gweithlu digidol, gan helpu i ddenu, datblygu a chadw talent.”
Meddai Dr Philip Scott, Cadeirydd y Gweithgor Iechyd a Gofal yn BCS, y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG, a Chyfarwyddwr Rhaglen ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Mae iechyd digidol yn sector sy’n ehangu sydd angen gweithlu proffesiynol, moesegol a chymwys i sicrhau deilliannau cyraeddadwy.
“Bydd y gynhadledd hon yn rhoi cyfle i drafod sut i gefnogi a chynyddu nifer y weithwyr proffesiynol medrus a rhannu arferion gorau o’r DU ac Ewrop. Gyda Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru’n agor y gynhadledd, Prif Swyddog Gweithredol Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Llywydd EFMI yn bresennol, a phrif araith gan Brif Swyddog Gweithredol Sefydliad Iechyd Digidol Awstralasia – mae hyn yn argoeli bod yn ddigwyddiad bywiog ac addysgiadol.”
Meddai’r Athro Wendy Dearing, Deon Athrofa Rheolaeth ac Iechyd Y Drindod Dewi Sant: “Mae’n bleser gennym allu cefnogi cynhadledd mor bwysig.
“Ein nod, trwy gydweithio â phartneriaid, yw cynhyrchu cenhedlaeth o drawsnewidwyr digidol, entrepreneuriaid, ac arweinwyr ar gyfer y sector gofal iechyd yng Nghymru. Ni fu erioed yn fwy pwysig i’r sector gofal iechyd harneisio technoleg arloesol i helpu datrys problemau byd go iawn.”
Mae’r Gynhadledd yn cael ei chynnal yn stadiwm pêl-droed Dinas Caerdydd ac fe fydd yn cynnwys anerchiad wedi’i gyflwyno gan y prif siaradwr, Dr Louise Schapper, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Iechyd Digidol Awstralasia, dan y teitl: “Adeiladu capasiti gweithlu iechyd digidol yn genedlaethol a byd-eang”.
Mae Dr Louise Schaper yn eiriolwr brwdfrydig dros drawsnewid gofal iechyd, wedi’i alluogi gan dechnoleg ac mae wedi ymroi ei gyrfa i adeiladu cymuned a chyfleoedd er mwyn datblygu’r sector.
Gyda thros 20 mlynedd o brofiad ym maes iechyd digidol, mae gan Louise wybodaeth ddofn am y maes a rhwydweithiau helaeth ar draws Awstralia ac yn rhyngwladol.
* Ymhlith pynciau’r gynhadledd mae:
* Addysg mewn gwybodeg iechyd a gofal
* Cydnabyddiaeth ac ardystio proffesiynol
* Datblygiad proffesiynol parhaus
* Datblygu cwricwlwm a deilliannau dysgu
* Argymhellion rhyngwladol a chymhwysiad lleol
* Sgiliau a medrau gwybodeg
* Gwybodeg iechyd a gofal rhyngddisgyblaethol
* Angen byd-eang mewn proffesiynoldeb gwybodeg
* Dysgu o bell a chyfunol
Ceir rhagor o fanylion yma: https://www.stc2022.org/
Nodyn i'r Golygydd
Dr Louise Schaper
Yn uwch aelod o gymuned iechyd digidol Awstralia, mae Dr Louise Schaper wedi treulio 10+ mlynedd yn arwain prif gorff iechyd digidol Awstralia, sef Sefydliad Iechyd Digidol Awstralasia, ac mae’n un o bartneriaid sefydlu Healthcare Ventures, cronfa cyfalaf menter iechyd digidol Awstralia.
Daw Louise â chlinigwyr, ymchwilwyr, arloeswyr, a sefydliadau o’r radd flaenaf at ei gilydd o’r sbectrwm biofeddygol, iechyd a thechnoleg sy’n ymrwymo i wella deilliannau iechyd a alluogir trwy ddefnyddiau arloesol o dechnoleg a gwybodaeth. Mae’n hwylusydd, yn arloeswr ac yn asiant dros newid sy’n archwilio a dylanwadu ar gydgyfeiriad pobl, systemau a thechnolegau yn nhrawsnewidiad a dyfodol iechyd a meddygaeth.
Yr Athro Wendy Dearing
Gyda chefndir nyrsio, mae’r Athro Wendy Dearing yn meddu ar MSc mewn Newid ac Arloesi, Cadair Athro er Anrhydedd gan Y Drindod Dewi Sant a chadair athro mewn Arfer Cymhwysol i gydnabod ei harbenigedd a’i gwybodaeth wrth hyrwyddo proffesiynoldeb mewn technoleg a gwybodaeth.
Cyn ei rôl yn Y Drindod Dewi Sant, roedd yr Athro Dearing yn Bennaeth y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, gan oruchwylio strategaeth y gweithlu; cynllunio’r gweithlu; recriwtio a chadw; cydnabyddiaeth broffesiynol a chofrestru; addysg a hyfforddiant; llwybrau gyrfa a DPP.
Yn Gyd-gyfarwyddwr WIDI, mae hi wedi creu a gweithredu Prentisiaethau Gwybodeg Iechyd.
Mae'r Athro Dearing yn Arweinydd Proffesiynoldeb ar Fwrdd Gweithredol Iechyd a Gofal BCS ledled y DU ac mae'n aelod o fwrdd Fed-IP. Mae ganddi angerdd dros ddatblygu "y genhedlaeth nesaf" o reolwyr iechyd a gofal.
Dr Philip Scott
Cadeirydd Iechyd a Gofal BCS - Dr Philip Scott, CITP FBCS
Bu Dr Scott yn gweithio i’r GIG rhwng 1994-2009, ac ers hynny ym maes gwybodeg iechyd a gofal academaidd. Mae’n Gyfarwyddwr Rhaglen yr MSc mewn Sgiliau Digidol ar gyfer y Proffesiynau Iechyd a Gofal ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae Dr Scott hefyd yn Ddirprwy Olygydd BMJ Health & Care Informatics, ac yn gynrychiolydd cenedlaethol y Gymdeithas Gwybodeg Feddygol Ryngwladol (IMIA) a Ffederasiwn Gwybodeg Feddygol Ewrop (EFMI). Mae’n gwasanaethu ar Fwrdd HL7 UK ac yn cyd-gadeirio gweithgor BCS-FCI ar wybodaeth biofeddygol gyfrifadwy.