Y Drindod Dewi Sant i gynnal Cynhadledd Caethwasiaeth Fodern ar 26 Mai, 2022


03.03.2022

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnal Cynhadledd Caethwasiaeth Fodern i ddod â’r sector addysg a’i sefydliadau amlasiantaethol rheng flaen at ei gilydd i gydweithio i adnabod mwy o ddioddefwyr, dod â nhw i ddiogelwch, darparu cymorth, a – phan fo’n bosibl – dod â’r sawl sy’n cyflawni’r drosedd gerbron llys.

The University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) is hosting a Modern Slavery Conference to bring together the education sector and its front-line multi-agency organisations to collaborate to identify more victims, bring them to safety, provide support, and – where possible – bring their perpetrators to justice.

Mae’r gynhadledd yn cael ei threfnu’n rhan o gyfraniad yr Academi Golau Glas at anerchiadau a digwyddiadau blwyddyn Daucanmlwyddiant y Brifysgol. Mae’r Academi yn ddisgyblaeth academaidd o fewn yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd.  Ei nod yw cyflwyno rhaglenni a chynnal ymchwil sy’n datblygu a chyfoethogi gallu unigolion a sefydliadau i wella effeithiolrwydd y gwasanaeth a ddarperir ar gyfer y cyhoedd. Mae datblygiad yr academi wedi’i seilio ar yr ‘ethos un gwasanaeth cyhoeddus’ a nodau ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’.

Mae ‘caethwasiaeth fodern’ yn derm cyffredinol am bryd bydd unigolyn yn cael neu’n cadw unigolyn mewn gwasanaeth gorfodol, at ddibenion ei ecsbloetio.  Enghreifftiau o gaethwasiaeth yw pryd caiff unigolion eu gorfodi i weithio drwy eu bygwth yn feddyliol neu’n gorfforol, pryd cânt eu perchenogi neu eu rheoli gan ‘gyflogwr’ – fel arfer drwy eu cam-drin neu fygwth eu cam-drin yn feddyliol neu’n gorfforol – a’u dad-ddyneiddio.  Cânt eu trin fel nwyddau, eu prynu a’u gwerthu fel ‘eiddo’, a’u cyfyngu’n gorfforol, neu gosodir cyfyngiadau ar eu rhyddid.  Mae ecsbloetio’n digwydd i ddynion, menywod a phlant.

Mae’r Academi Golau Glas wedi penodi dau Athro Ymarfer, Julian Williams QPM, a Kim Ann Williamson MBE, sydd wedi helpu i drefnu’r gynhadledd hon.  Yr Athro Williams fydd yn llywyddu’r gynhadledd gyda’r Athro Williamson yn Brif Siaradwr.

Treuliodd yr Athro Julian Williams QPM 30 mlynedd yng ngwasanaeth yr heddlu gan weithio o fewn rolau iwnifform a ditectif, gan esgyn ymhen amser i fod yn Gomander Rhanbarthol Rhanbarth y Gorllewin, gyda chyfrifoldeb am Abertawe a Chastell-nedd / Port Talbot. Fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol gyda Heddlu De Cymru, bu’n arwain y portffolio gweithrediadau arbenigol ac ym mis Mehefin 2014 trosglwyddodd i Heddlu Gwent yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol.  Yn ddiweddarach daeth yn Ddirprwy Brif Gwnstabl ac yn 2017 daeth yn Brif Gwnstabl Heddlu Gwent.  Ymddeolodd Julian o wasanaeth yr heddlu yn 2019. Ef oedd heddwas arweiniol Cymru ar fasnachu pobl/caethwasiaeth fodern o 2014 i 2019 ac yn arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar foeseg ac aflonyddu rhywiol rhwng 2017 a 2019.  Tra fu’n Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, sefydlodd dîm caethwasiaeth fodern i gefnogi dioddefwyr a mynd i’r afael â’r sawl a gyflawnai’r drosedd, a chychwynnodd Grŵp Bygythiad Cymru ar gyfer Caethwasiaeth Fodern, er mwyn sicrhau bod yr ymateb cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn cael eu cydlynu ac yn cael yr effaith fwyaf posibl.

Bu’r Athro Kim Ann Williamson MBE yn fodel rôl dylanwadol ym maes caethwasiaeth fodern ers blynyddoedd lawer. Cyd-sefydlodd Grŵp Arwain Atal Caethwasiaeth Cymru yn 2012, ac ar hyn o bryd mae’n cadeirio Grŵp Cyflwyno Hyfforddiant Caethwasiaeth Fodern y DU.  Mae Kim Ann wedi bod yn ganolog o ran darparu gweledigaeth glir a arweiniodd at hyfforddiant amlasiantaethol, y mae’i lwyddiant wedi sicrhau cydnabyddiaeth yn lleol ac ar draws y DU.  Ar y cyd ag Adran Hyfforddi Heddlu De Cymru, cyd-weithredodd gwrs tridiau Caethwasiaeth Fodern Troseddu Cyfundrefnol Hydra ar gyfer Swyddogion Gorfodi’r Gyfraith ac Erlynwyr Gwasanaeth Erlyn y Goron ac Eiriolwyr y Goron. Y cwrs hwn oedd y cyntaf o’i fath yng Nghymru a’r DU.

Bydd siaradwyr y gynhadledd hefyd yn cynnwys Caroline Haughey OBE QC, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru Dave Thorne, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent Jeff Cuthbert a Joanne Hopkins o Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Bydd cynrychiolwyr sefydliadau allweddol sy’n gweithio i ddynodi a dileu’r drosedd ffiaidd hon hefyd yn bresennol.

Meddai Bronwen Williams, Cyfarwyddwr Academaidd yr Academi Golau Glas:  “Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd sy’n effeithio ar yr hyn a amcangyfrifir yn 45 miliwn o bobl ar draws y byd. Ein nod yn y Drindod Dewi Sant yw darparu cyfres o raglenni a fydd yn cyfuno’r sgiliau, y pwerau a’r profiad iawn i fodloni gofynion heriol atal caethwasiaeth.

“Wrth i rôl y gweithlu atal caethwasiaeth gael ei hymgorffori ymhellach yn sefydliadau’r sectorau cyhoeddus a phreifat, mae angen sicrhau bod datblygiad proffesiynol parhaus ar gael sy’n cael ei achredu’n academaidd ac sy’n cydnabod y sgiliau a’r adnabyddiaeth o bobl sydd eu hangen ar y rôl. Mae’r portffolio o raglenni MA yn darparu’r llwybr DPP achrededig hwn.

“Mae’r rhaglenni wedi’u datblygu mewn cysylltiad agos a chyson ag aelodau Grŵp Arwain Atal Caethwasiaeth Cymru.”

Mae’r daucanmlwyddiant yn dathlu sefydlu Coleg Dewi Sant, Llambed ar 12 Awst 1822 drwy osod y garreg sylfaen sy’n nodi man geni addysg uwch yng Nghymru. O’r hadau a heuwyd yn Llambed dros ddwy ganrif yn ôl a datblygiad ein campysau, rydym wedi tyfu i fod yn Brifysgol sector deuol, aml-gampws gan ddarparu rhaglenni sy’n berthnasol yn alwedigaethol mewn partneriaeth â chyflogwyr.

Nodyn i'r Golygydd

Mae’r Athro Williamson wedi bod yn was sifil ers dros 37 blynedd ac mae wedi cael profiad ac arbenigedd sylweddol yn yr amgylchedd cyfiawnder troseddol, gan ei bod wedi gweithio ar draws portffolios plismona ac erlyn.

Roedd yr Athro Williamson yn ganolog wrth ddylunio, gweithredu a chyflwyno Llwybr Gofal Dioddefwyr Cymru a Chynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg Caethwasiaeth Fodern (MARAC) sef y rhai cyntaf yn y DU. Sefydlodd Grŵp Hyfforddiant Atal Caethwasiaeth Cymru i gyflwyno amrywiaeth o becynnau hyfforddi’n llwyddiannus gan arwain at hyfforddi miloedd mewn ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern, a sefydlodd Grŵp Adolygu Gwaith Achos Atal Caethwasiaeth Cymru, a oedd y grŵp cyntaf o’i fath yn y DU.

Ar lefel y DU, mae’r Athro Williamson yn cadeirio Grŵp Cyflwyno Hyfforddiant Caethwasiaeth Fodern y DU y mae Caroline Haughey OBE QC yn noddwr iddo.  Mae’r grwpiau’n adrodd yn uniongyrchol wrth y Bwrdd 3P Cenedlaethol sef Grŵp Llywodraethu Strategol y DU ar gyfer Elfennau Atal, Diogelu a Pharatoi y Strategaeth Caethwasiaeth Fodern, a gaiff ei gadeirio gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) a’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS). Sefydlodd y grŵp hwn yn 2018 ac nawr mae’n gyfrifol am oruchwylio nifer o Grwpiau Gorchwyl a Gorffen Hyfforddiant sy'n berthnasol i sectorau dylanwadol allweddol.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk