Y Drindod Dewi Sant yn croesawu Prif Weinidog St Vincent a’r Grenadines i Gymru


03.10.2022

Roedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch iawn o groesawu’r Anrhydeddus Ddr Ralph Gonsalves, Prif Weinidog St Vincent a’r Grenadines i’w champws yn Llanbedr Pont Steffan.

Professor Medwin Hughes presents honorary doctorate to Dr Ralph Gonsalves

 

Yn ystod ei ymweliad, dyfarnwyd Doethur er Anrhydedd yn y Gyfraith i Dr Gonsalves mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd ddydd Mawrth, 27 Medi.

Cyfarfu Dr Gonsalves â myfyrwyr o ynysoedd y Caribî sydd wedi derbyn ysgoloriaeth i astudio yn y Brifysgol. Cytunwyd ar y cynllun ysgoloriaethau gan Dr Ralph Gonsalves a’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant yn sgil trafodaethau gyda’i Fawrhydi’r Brenin (Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ar y pryd, Noddwr Brenhinol y Brifysgol), yn dilyn ffrwydrad y llosgfynydd ar St Vincent ym mis Ebrill 2021.

Mae'r tri deg saith o fyfyrwyr wedi'u lleoli ar gampws Llambed ac yn astudio ystod o raglenni a nodwyd gan eu llywodraeth fel rhai sydd o fudd i ddatblygiad eu gwlad yn y dyfodol. Mae'r rhain yn cynnwys Hanes, Datblygiad Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth Fyd-eang yn ogystal ag Addysg Plentyndod Cynnar, Mesur Meintiau a Pheirianneg Sifil.

Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL: “Mae’n bleser mawr gennyf groesawu’r Dr Ralph Gonsalves, Prif Weinidog St Vincent a’r Grenadines, i’r Brifysgol i’w gyflwyno â Doethur er Anrhydedd yn y Gyfraith.

“Dyma ei ymweliad cyntaf â’r Brifysgol ers i ni lansio’r cynllun ysgoloriaethau sy’n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr astudio rhaglenni a fydd yn helpu i adeiladu capasiti ac isadeiledd yn yr ynysoedd yn dilyn ffrwydrad y llosgfynydd yn 2021. Mae Dr Gonsalves yn arweinydd â gweledigaeth ac yn gryf ei lais dros ei wlad ar lwyfan byd-eang. Mae’n eiriolwr angerddol dros ddatblygu cynaliadwy, ffyniant, heddwch a diogelwch. Mae’n anrhydedd i ni ei groesawu i’r Brifysgol ac i Gymru.”

Yn ei anerchiad i’r gynulleidfa, dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Profost campysau Llambed a Chaerfyrddin: “Mae’n anrhydedd ac yn fraint i mi gyflwyno Dr Ralph Gonsalves, i dderbyn y radd  Doethur yn y Gyfraith.

“Mae hon wedi bod yn dipyn o wythnos i Dr Gonsalves. Ddydd Sadwrn bu’n annerch 77ain Sesiwn Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd a heddiw, mae yma yn Llanbedr Pont Steffan, yng nghanolbarth Cymru.

Yn ystod ei anerchiad i’r Gymanfa Gyffredinol, pwysleisiodd Dr Gonsalves fod St Vincent a’r Grenadines wedi ymrwymo i adnewyddu’r naratifau traddodiadol ynghylch diogelwch trwy ddod â gwendidau penodol Ynys-wladwriaethau Bach Datblygol i’r amlwg. Fel y cyfryw, mae St Vincent a'r Grenadines yn parhau i weithio'n ddiflino tuag at fynd i'r afael â chyflwr unigryw gwladwriaethau o'r fath, yn enwedig gan ei bod yn ymwneud â'r heriau amrywiol a digynsail a achosir gan newid yn yr hinsawdd.

Gorffennodd ei anerchiad drwy bwysleisio pwysigrwydd partneriaeth barhaus rhwng yr holl genhedloedd i ‘ofalu am dreftadaeth ddoe, darparu ar gyfer a mynd i’r afael yn rhesymol â buddiannau heddiw a dilyn, mewn heddwch a diogelwch, obeithion yfory.”

Students from St Vincent and the Grenadines with Dr Ralph Gonsalves, Prime Minister at UWTSD

Wrth dderbyn ei ddyfarniad meddai Dr Gonsalves: “Rwyf am ddiolch i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’r Brenin Charles am eu caredigrwydd a’u haelioni. Y math uchaf o undod yw ef neu hi sy'n rhoi o'r ychydig sydd ganddynt, ac rydych chi, o'ch prifysgol, wedi rhoi llawer iawn o'r ychydig sydd gennych”.

“O’r holl adroddiadau mae’r myfyrwyr i gyd yn gwneud yn dda iawn, ac rydw i’n falch iawn ohonyn nhw. Mae gennyf hyder ynddynt, ac rwy’n falch eu bod yn llysgenhadon rhagorol i St Vincent a’r Grenadines. Bydd y myfyrwyr hyn yn dychwelyd i St Vincent a’r Grenadines ar ddiwedd eu hastudiaethau, ac yn cyfrannu ymhellach at ddatblygiad y wlad.

“Mae hon yn foment deimladwy iawn i mi, ond nid yw hyn yn ymwneud â Ralph yn unig, oherwydd beth bynnag yr wyf wedi'i gyflawni, mae wedi'i gyflawni mewn partneriaeth â'n pobl, ac mae'r anrhydedd hon yn perthyn iddyn nhw – cyfrwng eu cyflawniadau rhyfeddol hwythau yn unig ydwyf i, yn enwedig ym maes addysg.”

Cyn ymadael â Chymru ymwelodd Dr Gonsalves â Senedd Cymru lle cyfarfu â Julie James, AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd a Vaughan Gething, AS, Gweinidog yr Economi.

Dr Ralph Gonsalves with group at UWTSD Lampeter

Nodyn i'r Golygydd

Ganwyd Ralph Everad Gonsalves ar 8 Awst 1946 yn Colonarie, pentref gwledig yn Saint Vincent a'r Grenadines, yn fab i Alban Gonsalves a Theresa Francis.  Mae'n briod ag Eloise Gonsalves,  Harris gynt, ac mae ganddynt dri mab (Camillo, Adam a Storm), a dwy ferch (Isis a Soleil).

Addysgwyd Dr Gonsalves yn St Vincent a’r Grenadines yn Ysgol Gatholig Colonarie ac yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn Saint Vincent.  Yn ddiweddarach cwblhaodd Radd Baglor mewn Economeg ym Mhrifysgol India'r Gorllewin, gan gael sawl gwobr nodedig, gan gynnwys Llywydd y Gymdeithas Ddadlau a Llywydd Urdd  yr Israddedigion.  Yn 1971 enillodd radd Meistr mewn Llywodraeth o Brifysgol India'r Gorllewin. Ym 1974 a 1981 enillodd PhD mewn Llywodraeth a Gradd Bargyfreithiwr Allanol ym Mhrifysgol Manceinion, Lloegr a Gray's Inn, Llundain, yn y drefn honno.

Daeth Dr Gonsalves yn Ddirprwy Arweinydd Gwleidyddol Plaid Lafur Undod (ULP) yn 1994.  Ffurfiwyd yr ULP o ganlyniad i uno Plaid Lafur St Vincent a’r Grenadines a'r Mudiad dros Undod Cenedlaethol (MNU), plaid wleidyddol yr oedd Dr Gonsalves yn arweinydd arni adeg yr uno. Enillodd yr ULP Etholiad Cyffredinol St Vincent a’r Grenadines a gynhaliwyd ar 28 Mawrth, 2001.  Adeg yr etholiadau roedd Dr Gonsalves wedi’i ethol yn Arweinydd Gwleidyddol yr ULP ac felly daeth yn Brif Weinidog St Vincent a'r Grenadines ar yr un dyddiad, 28 Mawrth, 2001.  Mae wedi parhau'n Brif Weinidog ar St Vincent a'r Grenadines byth oddi ar hynny, gan ennill yr etholiadau eto ym mis Rhagfyr 2005, 2010, 2015 a 2020.

Ar yr un pryd â dilyn ei yrfa wleidyddol, a chyn iddo ddod yn Brif Weinidog St Vincent a'r Grenadines, bu Dr Gonsalves yn ymarfer y gyfraith yn helaeth ac yn llwyddiannus gerbron Goruchaf Lys Dwyrain y Caribî. Bu’n gweithio mewn ystod eang o feysydd, ond yn enwedig ym meysydd cyfraith gyfansoddiadol, cyfraith weinyddol, cyfraith briodasol, cyfraith eiddo tiriog, cyfraith tort yn gyffredinol a chyfraith contract.

Mae Dr Gonsalves wedi ymchwilio, ysgrifennu a chyhoeddi'n helaeth ar ystod o faterion yn ymwneud ag undebaeth lafur Garibiaidd, Affricanaidd, economi wleidyddol gymharol, a materion datblygiadol yn gyffredinol.  Ymhlith ei gyhoeddiadau diweddaraf mae:  History and the Future:  A Caribbean Perspective (Quik Print, St Vincent, 1994), The Politics of Our Caribbean Civilisation – Essays and Speeches (Great Works Depot, St Vincent, 2001), The Making of the Comrade: The Political Journey of Ralph Gonsalves (SFI Books 2010); Diary of a Prime Minister: Ten Days Among Benedictine Monks (SFI Books 2010); The Case for Caribbean Reparatory Justice (2014); Our Caribbean and Global Insecurity (2017); The Making of a National Hero: Law and Practice in St Vincent and the Grenadines (SFI Books 2018); The Political Economy of the Labour Movement in St Vincent and the Grenadines (SFI Books 2019); The Trial of George McIntosh and the 1935 Uprising in St Vincent and the Grenadines (SFI Books 2020); The Atomised Individual, The Social Individual and the Covid Vaccine (SFI Books, 2021); The Idea of Barbados (SFI Books, 2021)

 

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhan o Grŵp Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sy’n gonffederasiwn o nifer o sefydliadau yn cynnwys Prifysgol Cymru, yn ogystal â Choleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn golegau cyfansoddol. Mae’r Grŵp yn cynnig continwwm o addysg bellach i addysg uwch er budd dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau.

Gweledigaeth Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yw bod yn Brifysgol sydd ag ymrwymiad i lesiant a threftadaeth y genedl wrth galon ei holl weithgareddau. Rhan ganolog y weledigaeth hon yw hyrwyddo a gwreiddio system addysg sector deuol sy’n addysgu dysgwyr o bob oed a chefndir, gan sbarduno datblygiad economaidd yn y rhanbarth, ar draws Cymru a thu hwnt.

Sefydlwyd y Brifysgol yn 1822 a mae’n ei daucanmlwyddiant yn 2022. Ei Siarter Brenhinol a ddyfarnwyd yn 1928 yw’r hynaf o blith holl brifysgolion Cymru. Mae campysau’r Brifysgol yn Abertawe, Caerfyrddin, Llambed, Caerdydd a Llundain, ac mae ganddi Ganolfan Ddysgu yn Birmingham. 

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ymrwymo i osod myfyrwyr yng nghanol ei chenhadaeth drwy ddarparu cwricwlwm dwyieithog perthnasol ac ysbrydoledig, ynghyd ag amgylchedd dysgu cefnogol, buddsoddi yn ei champysau a’i chyfleusterau a sicrhau bod myfyrwyr o bob cefndir yn cael cyfle i gyflawni eu potensial.