Y Drindod Dewi Sant yn croesawu ymwelwyr o Sebrae i amlygu arloesi entrepreneuraidd


28.09.2022

Yn ddiweddar, gwnaeth Andy a Kathryn Penaluna o Ganolfan Datblygu Entrepreneuraidd Creadigol y Brifysgol gynnal ymweliad ‘ffeindio ffeithiau’ Sebrae Brasil, mewn partneriaeth â Taime Souza o Ddesg Ewropeaidd InvestSP. Wedi’i leoli yn São Paulo ym Mrasil, roedd ar y tîm eisiau dysgu rhagor am Y Drindod Dewi Sant, a wnaeth ennill gwobr fawreddog Prifysgol Ewropeaidd y Flwyddyn 2022 TripleE yn Florence yn ddiweddar.

UWTSD’s International Institute for Creative Entrepreneurial Development’s (IICED) Andy and Kathryn Penaluna recently hosted a fact-finding visit by Brazil’s Sebrae, in partnership with Taiame Souza from the European Desk of InvestSP.

Cynllun cymorth menter Brasil yw Sebrae, a chanddo filiynau o gleientiaid bob blwyddyn. Nawr, maent yn dymuno datblygu systemau addysg sy’n cefnogi arloesi entrepreneuraidd. Roedd yr ymwelwyr yn awyddus i ddarganfod pam bod Y Drindod Dewi Sant ar flaen y gad o ran addysg entrepreneuraidd, a gan fod Ysgol Fusnes Sebrae wedi mabwysiadu’r fframwaith EntreComp Ewropeaidd y gwnaeth IICED helpu ei gychwyn a’i ddatblygu, roeddynt yn awyddus i ddarganfod rhagor am gefndir y Ganolfan.

Meddai’r Athro Emritus Andy Penaluna: “Mae IICED Y Drindod Dewi Sant yn felin drafod ryngwladol o’r radd flaenaf sy’n deall addysg entrepreneuraidd ar bob lefel, ac rydym yn cefnogi datblygiadau addysgol rhyngwladol. Gwnaethom hefyd wedi helpu i ddatblygu ac ysgrifennu peth o’r Cwricwlwm newydd i Gymru, ac ar hyn o bryd rydym yn cefnogi’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol i ddatblygu dulliau dysgu mwy arloesol.”

Cafodd yr ymweliad ei amseru i gyd-fynd â’r Gynhadledd Addysgwyr Entrepreneuraidd Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe. Andy Penaluna yw cyn Gadeirydd Enterprise Educators UK sy’n cynnal y digwyddiad, felly roedd yn gallu rhannu syniadau timau arbenigol SAU eraill ar draws y DU. Treuliodd y cynrychiolwyr amser gydag eiriolwyr addysg Y Drindod Dewi Sant, sy’n ymgorffori medrau mentrus mewn myfyrwyr ym mhob disgyblaeth. Hefyd, gwnaethant fynychu cyfarfod preifat gyda Maer Abertawe, Mike Day, sydd wedi bod yn eirioli ers cryn amser dros yr angen am greadigrwydd a menter ar bob lefel o addysg.  

Ar ôl y gynhadledd, aeth y grŵp draw i Technium 1 Abertawe ac adeilad IQ, lle cawsant eu croesawu gan Brofost Y Drindod Dewi Sant, yr Athro Ian Walsh, a gweld â’u llygaid eu hunain waith arloesol y Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol, Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru, Peirianneg Dylunio Uwch Gweithgynhyrchu, CBM Cymru a thîm Chwaraeon Moduro’r Brifysgol.

Dywedodd yr Athro Eduardo Vilas Boas a’r Athro Charles Bonani o Ysgol Fusnes Addysg Uwch Sebrae: “Roedd y profiad yn un anhygoel, roedd deall sut mae’r Drindod Dewi Sant yn llwyddo i gyfannu addysg entrepreneuraidd gyda dylunio a pheirianneg i greu prosiectau, cynhyrchion a busnesau wedi agor ein meddyliau i bosibiliadau.”

Dywedodd Taiame, y cynrychiolydd o Asiantaeth Hyrwyddo Buddsoddi Talaith São Paulo, ei bod wedi gwerthfawrogi’r cyfle i ddeall dulliau’r DU, yn enwedig y mentrau yng Nghymru ac Abertawe sydd wedi arwain at y llwyddiannau a nodwyd yn y Gynhadledd.  

Ychwanegodd: “Roedd yn brofiad cyfoethog iawn. Gan mai Abertawe yw un o ddinasoedd dysgu UNESCO, llwyddom i balu’n ddwfn i mewn i’r diwylliant entrepreneuraidd sy’n datblygu economi’r rhanbarth yn ogystal ag ymgysylltu â materion cynaliadwyedd. Drwy weithredu ffordd o feddwl entrepreneuraidd ym mhob agwedd, yn arbennig addysg, mae model Abertawe yn rhoi lle i entrepreneuriaid fod yn fwy creadigol ac arloesol – gan gynnig gwerth cymdeithasol, cynaliadwy ac economaidd i gymdeithas.”

 

 

The visitors were keen to find out why UWTSD were leading the field when it came to entrepreneurial education, and as Sebrae’s Business School has adopted the European EntreComp framework that IICED helped to initiate and develop, they were keen to find out the inside story.

Meddai’r Athro Cysylltiol Kathryn Penaluna: “Ym maes ymchwil ac addysg rhyngwladol, yr Ysgolion Busnes sy’n aml ar flaen y gad; fodd bynnag mae’r Drindod Dewi Sant yn meithrin agwedd ryngddisgyblaethol wedi’i seilio ar Addysg Ddylunio, lle mae bod yn greadigol i ddatrys problemau pobl eraill wedi bod yn nod ganolog o hyd. Ynghyd â chefnogaeth wych gan Lywodraeth Cymru, mae hyn yn sicr wedi rhoi i ni fantais yn hyn o beth.”

Drwy flaengynllunio, bwriad IICED Y Drindod Dewi Sant a’r tîm Sebrae / InvestSP yw adeiladu ar yr ymweliad, gydag IICED yn gwneud cyfraniadau i ddatblygiad cyrsiau newydd a strategaethau darparu, yn enwedig i fathau newydd o MBA wedi’u seilio ar ddulliau dysgu ac addysgu seiliedig ar entrepreneuriaeth. Daeth yr Athro Bonani a’r Athro Cilas Coas i’r casgliad bod, “addysg entrepreneuraidd sydd wedi’i seilio ar feddwl yn greadigol gan ddefnyddio dulliau addysg dylunio yn gallu cael eu cymhwyso’n glir i adeiladu ecosystem arloesol, un sy’n integreiddio llywodraeth, entrepreneuraidi, cymdeithas a’r sector prifat. Mae ymchwil ar y cyd a chyfnewidfeydd myfyrwyr yn rhywbeth yr hoffem eu datblygu.”

 

Nodyn i'r Golygydd

Ynglŷn â Sebrae:

Sefydliad ym Mrasil yw Sebrae a grëwyd 50 mlynedd yn ôl i helpu entrepreneuriaid a phobl oedd eisiau dod yn entrepreneuriaid. Mae’n cynnig ymgynghoriaeth a hyfforddiant i filiynau o entrepreneuriaid bob blwyddyn trwy ei 700 o ganolfannau. 4 mlynedd yn ôl, lansiwyd Ysgol Fusnes Sebrae i ategu’r rôl hon, a bellach maent yn dymuno ymestyn a chyfoethogi eu hyfforddiant ar gyfer athrawon, a gwella’r gwasanaeth a ddarperir i entrepreneuriaid. (https://www.sebrae.com.br/sites/PortalSebrae/canais_adicionais/sebrae_english)

Ynglŷn ag InvestSP:

Asiantaeth hyrwyddo buddsoddi yw InvestSP ar gyfer Llywodraeth Talaith São Paulo, Brasil. Eu cenhadaeth yw datblygu Talaith São Paulo trwy hyrwyddo buddsoddi, cynyddu allforion, a chymell arloesi ar draws yr amgylchedd busnes. Mae gan yr asiantaeth bedair swyddfa ryngwladol, yn Tsieina (Shanghai), y Dwyrain Canol (Dubai), Ewrop (Munich0 a Gogledd America (Efrog Newydd). (https://www.en.investe.sp.gov.br)

Ynglŷn ag IICED Y Drindod Dewi Sant:

Wedi’i llunio yn 2014 mewn cydweithrediad â 32 o wledydd eraill, mae IICED wedi sefydlu arbenigedd cenedlaethol, DU, Ewropeaidd a rhyngwladol. Mae Canolfan Ymchwil ar y Cyd yr UE a’r Cenhedloedd Unedig wedi ymgysylltu â’r tîm, i oruchwylio ymchwil a datblygu mathau newydd o addysg entrepreneuraidd. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, gwnaeth yr IICED gyfrannu i adroddiad y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar gyfer Entrepreneuriaid ar sut mae angen diwygio addysg i gefnogi dysgu entrepreneuraidd ar draws Cenhedloedd Prydain. Hefyd, mae’r OECD wedi dyfynnu eu hymchwil mewn cynigion polisi ar gyfer Gorllewin y Balcanau a Thwrci.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk