Y Drindod Dewi Sant yn cyrraedd rhestr fer Rownd Derfynol Gwobr Prifysgol Entrepreneuraidd y Flwyddyn
14.06.2022
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cyrraedd rhestr fer Rownd Derfynol Prifysgol Entrepreneuraidd y Flwyddyn yng Ngwobrau Ewropeaidd Triple E.
Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd a chreadigol ei myfyrwyr a’i graddedigion fel egwyddor gynllunio allweddol ac mae sgiliau o’r fath wedi’u hymgorffori yn ein rhaglenni.
Mae’r Gwobrau Triple E yn gydnabyddiaeth fyd-eang o ymdrechion tuag at yr ymgais am entrepreneuriaeth ac ymgysylltiad ym maes addysg uwch. A hwythau’n cael eu gweithredu’n rhanbarthol, mae Gwobrau Triple E yn ceisio meithrin newid mewn prifysgolion gan bwysleisio eu rôl yn eu cymunedau a’u hecosystemau.
Mae’r Wobr Prifysgol Entrepreneuraidd y Flwyddyn yn cydnabod sefydliad sydd wedi dylunio a chyflawni dull eithriadol o ran ymgorffori entrepreneuriaeth ar draws y brifysgol. Mae’r sefydliad wedi datblygu’i ddealltwriaeth unigryw ei hun o’r hyn mae’n ei feddwl i fod yn entrepreneuraidd, gan gydweddu i’r amgylchedd y mae’n gweithredu o’i fewn. Mae entrepreneuriaeth wrth wraidd y sefydliad ac nid yn cael ei meithrin ymhlith y staff a’r myfyrwyr yn unig, yn hytrach mae’r Brifysgol ei hun hefyd yn gweithredu’n entrepreneuraidd ac yn effeithio’n gadarnhaol ar ystod eang o randdeiliaid.
Meddai Dr Kathryn Penaluna, Athro Cysylltiol mewn Addysg Fenter yn y Drindod Dewi Sant: “Cymeron ni ran yn y gystadleuaeth yn rhan o ddathliadau ein daucanmlwyddiant, am fod ein sylfaenwyr yn amlwg yn entrepreneuraidd. Mae ein hanes o ran busnesau newydd gan raddedigion yn gyson ymhlith yr ystadegau uchaf yn y DU, ac mae eu gallu i oroesi’n fwy na 3 blynedd, ar y brig yn y DU ar hyn o bryd.
“I gefnogi hyn, mae ein hymchwil ym maes addysg sy’n datblygu meddylwyr arloesol a chreadigol newydd gael ei ddathlu drwy ein canlyniadau REF, ac mae ein cyrhaeddiad rhyngwladol drwy brosiectau a arweinir gan yr Athrofa Ryngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol (IICED) wedi arwain at gydnabyddiaeth ryngwladol sylweddol. O ganlyniad mae’r Drindod Dewi Sant yn cwmpasu holl elfennau meini prawf y wobr, felly am amser i ddathlu.”
Meddai Dr Mirjam Plantinga, Pro Is-Ganghellor ar gyfer Profiadau Academaidd: “Rydym ni wrth ein boddau i gyrraedd y rhestr fer fel Prifysgol Entrepreneuraidd y Flwyddyn. Teimlwn fod hyn yn cydnabod ein harlwy o raglenni addysgol sy’n datblygu sgiliau entrepreneuraidd a chreadigol, gan alluogi dysgwyr i gael y cyfleoedd gorau i gael swydd a chyfrannu i ffyniant eu cymunedau.”
Yn ôl yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) roedd safle’r Drindod Dewi Sant yn 2019-2020 fel y ganlyn:
1af yn y DU am fusnesau newydd sy’n dal i weithredu ar ôl 3 blynedd.
2il yn y DU am gyfanswm y cwmnïau gweithredol.
9fed yn y DU am gyfanswm y rheini a gyflogir mewn busnesau newydd gan raddedigion.
Mae tîm Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi, Ymchwil a Menter (INSPIRE) y Brifysgol y tu ôl i lawer o’r llwyddiant. Maent yn cynnig amrywiaeth o gymorth i fusnesau newydd, gyda’r rhan fwyaf o’r busnesau wedi’u hysbrydoli gan y cyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd hyn ac wedi’u cynllunio ar y cyd â nhw. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a’u menter Syniadau Mawr Cymru, mae’n gymysgedd pwerus.
O fewn INSPIRE, mae’r Athrofa Ryngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol (IICED) yn arweinydd byd cydnabyddedig o ran datblygu mathau o addysg sy’n paratoi ar gyfer y dyfodol ac sy’n helpu dysgwyr i lwyddo.
Gan roi sylwadau ar y cyhoeddiad, meddai’r Athro David A Kirby, sylfaenydd Cwmni Deillio’r Brifysgol, Harmonious Entrepreneurship Ltd: “Mae hon yn gydnabyddiaeth amserol iawn a haeddiannol iawn i’r Brifysgol. Dros y deugain mlynedd ddiwethaf neu fwy, drwy’i thri champws mae wedi arloesi o ran entrepreneuriaeth, nid yn unig yng Nghymru, ond yn rhyngwladol. Mae wedi gwneud hynny’n dawel ac yn effeithiol ac mae’n parhau i wneud hynny nid yn unig drwy gefnogi cynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru am lesiant cenedlaethau dyfodol y wlad, ond drwy ymchwilio’n barhaus a chyflwyno mentrau newydd sy’n arwain datblygiad y pwnc yn rhyngwladol.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk