Y Drindod Dewi Sant yn dathlu creadigrwydd ar gampws Caerfyrddin.
16.05.2022
Mae myfyrwyr o'r cyrsiau BA Actio, BA Drama Gymhwysol a BA Dawns o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen at eu cynyrchiadau diwedd blwyddyn sydd i’w cynnal ar Gampws Caerfyrddin.
Cynhelir perfformiadau mewn lleoliadau amrywiol o amgylch campws Caerfyrddin ar 19eg - 21ain o Fai, a bydd pob myfyriwr o bob blwyddyn yn cymryd rhan. Bydd yn gyfle i ddathlu'r arfer creadigol y mae myfyrwyr wedi'i ddatblygu yn ystod eu cyfnod yn fyfyrwyr yn y brifysgol.
Mae myfyrwyr ail flwyddyn BA Dawns a BA Actio, wedi'u mentora gan y dawnsiwr proffesiynol Osian Meilir, ac maen nhw wedi bod yn gweithio ar gynhyrchiad dwyieithog o'r enw ‘Un(o)/ Unit(e)’ gan greu deunydd sy'n ymwneud â syniad Diwylliant, gan archwilio strwythurau cymdeithasol, patrymau ymddygiadol a rhwydweithiau, yn ogystal â'r berthynas fythol ddiddorol rhwng Diwylliant a Natur, i greu darn newydd cyffrous o theatr gorfforol.
Meddai Osian Meilir,
"At ei gilydd, mae'r myfyrwyr wedi ymateb gyda brwdfrydedd a chwilfrydedd i'r her newydd o archwilio Theatr Gorfforol. Maen nhw wedi bod yn agored iawn i weithio mewn arddull anghyfarwydd gydag agwedd gadarnhaol o ddiddordeb."
Bydd y perfformiad hwn yn digwydd yn yr awyr agored, y tu allan i'r llyfrgell.
Hefyd, bydd myfyrwyr trydedd flwyddyn BA Dawns yn perfformio ‘Homebody’ wedi'u mentora gan Zosia Dowmunt yn y Stiwdio Fach yn Yr Egin. Disgrifiodd Zosia y perfformiad fel hyn:
"Mae cast o ferched yn archwilio'r corff fel cartref, y corff gartref, a'r corff yn y cartref. Bwriwch allan hen gythreuliaid llesg y cyfnod clo, mwynhewch gysur y corff, dathlwch y ffaith fod maes a fu’n un 'benywaidd' hyd yn hyn yn cael ei daflu ar agor, wylwch y cyfle sydd wedi’i golli wrth i’r llechen lân a gafodd ei haddo gael ei baeddu â’r geiriau 'yn ôl i'r arfer', a chondemnio pa mor chwerthinllyd yw pethau. "
Bydd blwyddyn gyntaf BA Actio a BA Drama Gymhwysol yn perfformio ‘It’s never bleak in Burnwood’ yn Theatr Halliwell. Er mwyn paratoi ar gyfer y perfformiad hwn, mae myfyrwyr wedi bod yn archwilio sut i adeiladu cymeriad a byd drwy waith byrfyfyr. Maent wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd i greu tref Burnwood a'r cymeriadau sy'n byw yno, ac wedi cydweithio ar naratif sy'n cydblethu eu straeon ac sy’n archwilio’r agweddau golau a thywyll ar y lle arbennig hwn.
Bydd myfyrwyr trydedd flwyddyn BA Actio yn perfformio 'Pomona' gan Alistair McDowall yn Theatr Parry. Mae'r modwl stiwdio hwn yn cynnig cyfle i'r actorion roi o’u hunain i broses ymarfer sy'n un heriol o safbwynt corfforol ac emosiynol.
Meddai'r cyfarwyddwr gwadd Seren Vickers.
"Mae'r myfyrwyr wedi herio'r hyn roedden nhw'n meddwl y gallen nhw ei wneud. Maen nhw wedi creu darn pwerus o theatr. Fy ngobaith i yw y bydd 'POMONA' yn ddathliad ffyrnig o'u hamser yn Y Drindod Dewi Sant, ac yn lansio eu gyrfaoedd creadigol."
Mae'r rhaglen BA Actio yn darparu hyfforddiant ymarferol, galwedigaethol i'r rhai sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa actio neu berfformio yn y diwydiannau creadigol. Meddai rheolwr y rhaglen, Lynne Seymour.
"Mae hon yn wythnos brysur o asesiadau ar gyfer y tri grŵp blwyddyn ac mae'n adeg wych o'r flwyddyn lle rydym yn dathlu datblygiad ymarferol y myfyrwyr ar draws sawl maes perfformio. Mae'n gyfle gwych i weld gwaith caled y myfyrwyr ar waith ac mae hefyd yn rhoi cyfle i bob grŵp blwyddyn weld beth mae eu cyfoedion wedi bod yn ei wneud.
"Ar ôl dwy flynedd o gyfyngiadau ar berfformiadau wyneb yn wyneb a chadw pellter, rydyn ni’n falch iawn o weld perfformiadau wyneb yn wyneb, a hynny ar y campws!"
Caiff yr holl gynyrchiadau eu perfformio mewn lleoliadau amrywiol o amgylch campws Caerfyrddin. Mae tocynnau ar gael gan Stacey-Jo Atkinson s.atkinson@uwtsd.ac.uk
Nodyn i'r Golygydd
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476