Y Drindod Dewi Sant yn dathlu degawd o gydweithio â Phartneriaeth Porth Agored.


07.06.2022

Mae Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol (ACAPYC) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu 10 mlynedd o gydweithio â Phartneriaeth Porth Agored.

The Wales Academy for Professional Practice and Applied Research (WAPPAR) at the University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) is celebrating 10 years of collaboration with the Porth Agored Partnership.

Mae partneriaeth Porth Agored yn rhaglen gydweithredol rhwng y Drindod Dewi Sant a grŵp o 12 o Awdurdodau Lleol o bob rhan o Gymru.  Mae rhaglen y Dystysgrif Raddedig mewn Cadarnhau Ymarfer Gwaith Cymdeithasol wedi'i hanelu at Weithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso (NQSW) o fewn Awdurdodau Lleol a darparwyr gwaith cymdeithasol eraill.  Mae'r cymhwyster yn cael ei reoleiddio a'i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC), ac fe'i dyfernir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Lluniwyd y rhaglen hon i gydnabod y profiad proffesiynol y mae Gweithwyr Cymdeithasol yn ei ddatblygu tra maent yn eu blwyddyn gyntaf o ymarfer. Mae’n darparu cyfleoedd helaeth i unigolyn adfyfyrio ar ei arfer personol seiliedig ar waith a chydweddu hynny â Deilliannau Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus (CPEL) Gofal Cymdeithasol Cymru.

Datblygwyd y fframwaith Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus i roi mynediad i weithwyr cymdeithasol at ddysgu o ansawdd uchel drwy gydol eu gyrfa. Mae'n rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau datblygedig i weithwyr cymdeithasol sydd eu hangen arnynt i ymgymryd â gwaith mwy cymhleth a rolau newydd. Y bwriad yw gwella hyder proffesiynol drwy gynyddu gwybodaeth, a chyflwyno offer ac ymyriadau newydd ar gyfer ymarfer.

Mae'r rhaglen yn gwrs seiliedig ar waith, sy'n defnyddio'r dysgu a'r wybodaeth a ddatblygir gan weithwyr cymdeithasol yn eu gwaith o ddydd i ddydd i ddangos tystiolaeth o ddeilliannau y mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n teimlo sydd eu hangen ar weithwyr newydd gymhwyso.  Fe'i cyflwynir gan Weithwyr Cymdeithasol cymwysedig sy'n arwain ar weithgareddau hyfforddi a datblygu yn ardaloedd eu Hawdurdod Unedol priodol. Mae ganddynt brofiad helaeth ym maes gwaith cymdeithasol er mwyn cefnogi dysgwyr yn effeithiol i ddatblygu eu harferion seiliedig ar waith. Tra maent yn astudio, mae dysgwyr hefyd yn cael mentor yn y gweithle sy'n darparu cymorth parhaus drwy gydol eu hastudiaethau. Mae Cydgysylltwyr Hyfforddiant Awdurdodau Unedol hefyd yn ffynhonnell gymorth i ddysgwyr yn ystod y cyfnod hwn.

Mae sesiynau gweithdy wedi'u cynllunio mewn ffordd sy'n rhoi cyfleoedd helaeth i ddysgwyr ddysgu gydag eraill drwy drafodaeth grŵp a galluogi cyfleoedd i adfyfyrio'n bersonol. Mae'r gweithdai hyn yn galluogi dysgwyr i gyfarfod â chydweithwyr sy'n gweithredu mewn ystod o feysydd arbenigol mewn gwaith cymdeithasol a thrwy rannu profiadau unigol mae hyn yn cyfoethogi’r profiad dysgu i bawb.  

Mae Ruth Griffiths yn gweithio fel gweithiwr cymdeithasol gyda Chyngor Sir Gwynedd ac yn ddiweddar mae wedi cwblhau ei thystysgrif raddedig gyda'r Drindod Dewi Sant. Meddai,

"Mae cwblhau'r rhaglen Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus wedi fy helpu i adfyfyrio ar ba mor bell rwyf wedi datblygu fy nysgu ar ôl cymhwyso ac wedi rhoi hyder i mi yn fy ymarfer yn y dyfodol.”

Meddai Carol Armstrong, Cadeirydd Porth Agored,

“Bûm yn ymwneud â'r rhaglen o'r dechrau a'i gweld yn tyfu ac yn datblygu i'r hyn ydyw nawr. Rwy'n falch o ddweud ei fod yn gwrs sydd, gyda chymorth a chefnogaeth y brifysgol, wedi addasu dros y blynyddoedd ac wedi ymateb i adborth a gafwyd gan ddysgwyr a'u gweithwyr. Mae hefyd wedi ymateb i newidiadau mewn arfer yn sgil dylanwadau allanol,  gyda phandemig Covid-19 yn enghraifft amlwg,  i'w wneud yn gwrs ystyrlon a buddiol i ymgymryd ag ef. Mae'n rhoi cyfle mewn amgylchedd prysur iawn i stopio, edrych a myfyrio ar sut mae ymarferwyr, unigolion wedi datblygu eu sgiliau a'u harbenigedd.

Mae'r cwrs yn cael ei adolygu a'i addasu'n gyson i sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn berthnasol i'r unigolion sy'n ymgymryd â'r dyfarniad. Mae'n anhygoel edrych ar faint sydd bellach wedi cofrestru ar y cwrs a faint sydd wedi ei gwblhau.”

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Sarah Loxdale, o ACAPYC:

“Cynlluniwyd y rhaglen bwrpasol hon gan y Drindod Dewi Sant a phartneriaeth Porth Agored i ymateb i fframwaith Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus (CPEL) Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'n enghraifft wych o ddarpariaeth gydweithredol sydd wedi'i theilwra i ddiwallu anghenion ein partneriaid. Eleni rydym yn dathlu 10 mlynedd ers i'r rhaglen gael ei dilysu a hyd yma, rydym wrth ein bodd bod dros 1,000 o ddysgwyr wedi ymgymryd â'r rhaglen.

Mae ymroddiad a brwdfrydedd y dysgwyr tuag at eu hastudiaethau, tra hefyd yn gweithio, i'w ganmol.”

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk