Y Drindod Dewi Sant yn dathlu HQ Urban Kitchen gyda lansiad arbennig
18.05.2022
Mae HQ Urban Kitchen yn lle coffi, cegin, bar a man digwyddiadau newydd sbon sydd wedi'i leoli yng nghanol Ardal Greadigol Abertawe. Fe'i lleolir wrth ymyl Adeilad Alex ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac mae eisoes yn boblogaidd gyda myfyrwyr a staff.
Cynhaliwyd y digwyddiad lansio gyda Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd ac Aelod o'r Senedd ar gyfer Gorllewin Abertawe, ynghyd â'r Athro Ian Walsh, Profost campysau Abertawe a Chaerdydd y Drindod Dewi Sant, yn agor y lleoliad yn swyddogol.
Mae HQ Urban Kitchen ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac mae’n cynnig byrbrydau a phrydau o safon, gan gynnwys opsiynau figan a heb glwten, i fwyta i mewn neu i fynd allan. Mae ganddo weithfannau pwrpasol, band eang cyflym a socedi sy'n ei wneud yn ddewis amgen delfrydol i weithio gartref. Gan ei fod yn lle mawr, mae'n berffaith ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd. Hefyd, mae cwrt mawr ar gyfer bwyta y tu allan.
Y lleoliad hwn yw'r prosiect diweddaraf gan Urban Foundry. Nhw yw BCorp achrededig cyntaf Abertawe a chwmni a ysgogir gan ddiben, sy'n ceisio newid y byd er gwell drwy wella bywydau pobl, creu lleoedd gwych, ac adeiladu busnesau sydd â phwrpas. Nhw yw'r cwmni y tu ôl i Farchnad Uplands, PopUp Wales, a Swansea Library of Things.
Dywedodd Dr Ben Reynolds, Cyfarwyddwr Urban Foundry: “Rydyn ni mor gyffrous am HQ Urban Kitchen. Mae'r tîm cyfan yn angerddol am gynaliadwyedd, ac rydym wedi ymgorffori hynny ym mhob agwedd ar y lleoliad. Yn ogystal â bod yn fenter gymdeithasol ac yn gyflogwr Cyflog Byw, rydyn ni wedi ymrwymo i'n cymuned ac yn ceisio sicrhau bod popeth a gynhyrchwn yn defnyddio cynhwysion lleol ac yn wastraff isel. Mae'r prosiect yn rhan o'n menter PopUpWales ehangach, sy'n cael ei hariannu gan gyllid Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a ddarperir drwy Gyngor Abertawe; mae'n ceisio dod â bywyd i fannau gwag. Rydym yn falch iawn o'r ffordd y mae'r gweithgarwch yn ystod y dydd yn cynyddu ac rwy'n gyffrous i gyhoeddi y byddwn yn agor gyda'r nos o ddydd Mercher 18 Mai, gyda nifer o ddigwyddiadau arbennig wedi'u cynllunio. Rwy’n ddiolchgar i'r Drindod Dewi Sant am gydweithio â ni ac edrychaf ymlaen at weld sut y gallwn weithio gyda’n gilydd a chynnig cyfleoedd i'r myfyrwyr.”
Meddai Julie James , "Mae HQ Urban Kitchen yn brosiect gwych arall a sefydlwyd gan Urban Foundry ac mae'n lleoliad diogel a chynhwysol sy'n cynnig bwyd blasus gan ddefnyddio cynhwysion ffres a lleol. Dymunaf y gorau i Ben Reynolds a'i dîm ar brosiect anhygoel arall sy'n cefnogi ein cymunedau.”
Meddai'r Athro Ian Walsh , "Mae HQ Urban Kitchen yn ychwanegiad gwych i gampws y Drindod Dewi Sant yn Abertawe. Mae'n berffaith i fyfyrwyr a staff, ac mae'n cynnig lle croesawgar ar gyfer gweithio neu gymdeithasu. Mae'r hyn mae Ben a'r tîm wedi’i gyflawni wedi creu argraff fawr arnaf. Rydych yn sicr o gael croeso cynnes pan fyddwch yn ymweld, ac edrychaf ymlaen at brynu fy nghinio yno'n rheolaidd!”
Meddai Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford: “Mae hwn yn fwy na lle newydd i bobl ddod i gwrdd â'i gilydd ac i gael tamaid i'w fwyta yn Abertawe. Mae'n lle a fydd yn cynnig swyddi a hyfforddiant i bobl. Mae gan brosiectau Urban Foundry uchelgais i wella bywydau pobl, creu lleoedd gwych ac adeiladu busnesau sydd â phwrpas. Gobeithio y cewch ddiwrnod gwych a dymunaf y gorau ichi ar gyfer dyfodol llwyddiannus.”
Mae HQ Urban Kitchen wedi'i leoli yn Llys Glas (Hen Orsaf yr Heddlu), Stryd y Berllan, Abertawe SA1 5AJ.
Dilynwch ar Instagram a Facebook @HQurbankitchen
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk