Y Drindod Dewi Sant yn penodi staff newydd i ymuno â'r Academi Chwaraeon.


26.09.2022

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi penodi aelodau staff newydd i ymuno ag Academi Chwaraeon y Brifysgol.

Martyn Bowles, Jonathan Garcia, Geraint Forster, and Richard Thomas will be joining the Academy of Sport as a Strength & Conditioning Coordinator, a Football Coordinator, an Individual Sports Coordinator, and a Sports Therapy and Rehabilitation Coordinator.

Nod Academi Chwaraeon Y Drindod Dewi Sant yw cefnogi myfyrwyr sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon perfformiad uchel i gynnal a datblygu eu perfformiad. Bydd myfyrwyr yn gallu manteisio ar arbenigedd tîm chwaraeon, iechyd a ffitrwydd y Brifysgol a fydd yn darparu rhaglen o weithgareddau i'w cynorthwyo i gyrraedd eu nodau chwaraeon. Bydd y rhain yn cynnwys hyfforddi ar gyfer hyfforddiant technegol a sgiliau, cryfder a chyflyru, maeth a diet, therapi chwaraeon yn ogystal â rheoli ffordd o fyw.

Bydd Martyn Bowles, Jonathan Garcia, Geraint Forster a Richard Thomas yn ymuno â’r Academi Chwaraeon fel Cydlynydd Cryfder a Chyflyru, Cydlynydd Pêl-droed, Cydlynydd Chwaraeon Unigol, a Chydlynydd Therapi Chwaraeon ac Adfer.

Bydd Martyn Bowles yn arwain y ddarpariaeth Cryfder a Chyflyru ar gyfer yr holl athletwyr o fyfyrwyr. Graddiodd â gradd Hyfforddi a Pherfformio Chwaraeon o’r Drindod Dewi Sant a MSc o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd. Mae ganddo 15 mlynedd o brofiad ym myd chwaraeon fel chwaraewr a hyfforddwr.

Yn ddiweddar, ochr yn ochr â'i gyflawniadau academaidd lle mae'n Ddarlithydd yng Ngholeg Sir Gâr ac ar Radd Hyfforddi a Pherfformio Chwaraeon Y Drindod Dewi Sant, enillodd Drwydded A Cymdeithas Bêl-droed Cymru/UEFA / Trwydded Ieuenctid Elît mewn Hyfforddiant Pêl-droed, gan amlygu ei awydd i gyrraedd y brig ym mhob disgyblaeth.

Meddai: "Rwy'n hynod gyffrous wrth feddwl am fod yn Gydlynydd Cryfder a Chyflyru ar gyfer Academi Chwaraeon newydd Y Drindod Dewi Sant. Roedd gweledigaeth y brifysgol i wneud chwaraeon elît yn eu darpariaeth yn cyfateb i’m huchelgeisiau, ac roedd ymgeisio am y rôl hon yn gam naturiol i mi ddatblygu fy ngyrfa. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at drosglwyddo fy ngwybodaeth o amgylcheddau rhyngwladol, proffesiynol, lled-broffesiynol ac addysgol. Mae gweld chwaraewyr yn rhagori yn eu disgyblaethau chwaraeon yn ysgogiad enfawr i mi ac yn her rwy'n edrych ymlaen at eu helpu nhw fynd i’r afael â hi."

Mae gan Jonathan Garcia wybodaeth helaeth o hyfforddi chwaraeon amlddisgyblaethol dros y rhan orau o 25 mlynedd. Pêl-droed yw ei brif ffocws, ac mae’n hyfforddwr Trwydded A UEFA, bu'n Gyfarwyddwr Pêl-droed yng Ngholeg Sir Gâr ers 16 mlynedd, yn Gyfarwyddwr Academi yng Nghlwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin ac ar hyn o bryd ef yw Cyfarwyddwr Pêl-droed yng Nghlwb Pêl-droed Tref Llanelli yn ogystal a bod yn Rheolwr Cynorthwyol timau rhyngwladol Ysgolion Cymru’r FA dan 18 / Colegau Cymru’r FA dan19.

Nid hyfforddi yw'r unig sgil y bydd Jonathan yn gallu ei darparu i Academi Chwaraeon Y Drindod Dewi Sant. Mae ei rôl bresennol yng Ngholeg Sir Gâr fel Rheolwr Perfformiad, yn pwysleisio ei alluoedd wrth reoli sefydliadau llwyddiannus a/neu bersonél.

Mae wedi bod yn ddarlithydd ar Radd Hyfforddi Chwaraeon a Pherfformio Coleg Sir Gâr / Y Drindod Dewi Sant ers 2013 gan drosglwyddo ei wybodaeth hyfforddi i ddarpar athletwyr sy’n fyfyrwyr ifanc ers blynyddoedd bellach.

Meddai Jonathan: "Pan gafodd y rôl hon ei hysbysebu roeddwn yn teimlo fod angen i mi ymgeisio. Rydw i wedi bod yn rhan o bêl-droed yn yr ardal ers 25 mlynedd, gan hyfforddi ar bob lefel a gyda phob grŵp oedran posib. Roedd hi’n ymddangos yn gam naturiol i mi yn fy ngyrfa i fod o fudd i'r athletwyr addysg uwch hynny sydd am berfformio mewn cystadlaethau BUCS elît. Dwi methu aros i ddechrau!"

Gyda phrofiad sylweddol o gystadlu a hyfforddi chwaraeon unigol yn bersonol ers degawdau, bydd Geraint Forster yn dod â phrofiad sylweddol i'w swydd fel Cydlynydd Chwaraeon Unigol. Yn gyntaf, mae yntau wedi cystadlu hyd at lefel ryngwladol, ac yn gallu rhannu o’i brofiadau ag athletwyr sy'n datblygu. Mae ei brofiad dros y blynyddoedd wedi bod ym maes chwaraeon unigol yn bennaf - mae wedi hyfforddi chwaraeon awyr agored megis canŵio, caiacio a dringo creigiau, chwaraeon beicio gan gynnwys beicio ffordd a beicio mynydd, ynghyd â nofio, dŵr agored ac mewn pwll. Mae hefyd wedi bod yn ymwneud ag addysg hyfforddwyr ar gyfer British Cycling ac Undeb Canŵio Prydain.

Yn ddarlithydd cyfredol ac yn gyfarwyddwr rhaglen yn Y Drindod Dewi Sant ar hyn o bryd, mae ei wybodaeth a'i ddiddordebau academaidd yn gorwedd mewn Ffisioleg Ymarfer Corff, hyfforddi a hyfforddiant ar gyfer chwaraeon. Mae ganddo wybodaeth gyfredol iawn am ymchwil ym meysydd maeth chwaraeon, rhaglennu ymarfer corff, monitro llwyth, dadansoddi technegau, profi perfformiad a strategaethau ergogenig. Felly, bydd y Brifysgol mewn sefyllfa gref i gynghori ac addysgu athletwyr o fyfyrwyr ar y gwahanol strategaethau sydd ar gael iddynt i wella eu perfformiadau.

Mae Geraint hefyd yn arbenigwr cryfder a chyflyru ardystiedig ac yn gymwys i gefnogi'r myfyrwyr-athletwyr gyda rhaglennu CaCh yn benodol ar gyfer eu chwaraeon os bydd angen. Bydd hefyd yn gallu rhoi cymorth maeth i athletwyr ar ôl cwblhau’r elfen a addysgir yn ei MSc ar ddiwedd blwyddyn academaidd 2022-23.

Mae Richard Thomas yn arbenigwr Therapi Chwaraeon ac Adfer Ymarfer Corff, yn aelod o'r SST sydd â phrofiad eang o gefnogi myfyrwyr mewn chwaraeon megis Pêl-droed, Rygbi, Pêl-rwyd, Hoci a Lacrosse a hynny’n helaeth yng nghynghreiriau BUCS.

Ac yntau’n un o raddedigion Y Drindod Dewi Sant, bellach mae’n dechrau ar y cam nesaf yn ei yrfa a'i fryd ar ddarparu gwasanaethau anafiadau ac adfer i fyfyrwyr Academi Chwaraeon Y Drindod Dewi Sant. Bydd Richard yn cyfuno'r rôl hon â'r gwaith addysgu a wneir ganddo ar y radd Therapi Chwaraeon hon yn Y Drindod Dewi Sant.

Meddai Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon Y Drindod Dewi Sant : "Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu sicrhau staff o'r safon hon i Academi Chwaraeon Y Drindod Dewi Sant. Bydd swm y profiad ym maes chwaraeon a'u rhinweddau hyfforddi rhagorol yn cynnig gwasanaeth ac amgylchedd gwych i'n hathletwyr uchelgeisiol wrth iddyn nhw astudio yn Y Drindod Dewi Sant."

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk