Y Ganolfan Geltaidd yn chwarae rhan allweddol mewn prosiect newydd rhyngwladol
26.01.2022
Bydd yr Athro John Koch o’r Ganolfan Uchwefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn arwain elfen ieithyddol prosiect amlddisgyblaethol ‘Cyfrangau arforol: gwrthbwynt i brif naratif daearol cynhanes Ewrop’ wedi ei ariannu gan fanc canolog Sweden.
Dyfarnwyd grant o 47 miliwn krona (tua 3.9 miliwn o bunnoedd) gan Riksbankens Jubileumsfond ar gyfer prosiect arloesol: ‘Cyfrangau arforol: gwrthbwynt i brif naratif daearol cynhanes Ewrop’. Bydd 17 arbenigwr o feysydd archeoleg, ieithyddiaeth hanesyddol, geneteg, eigioneg ac anthropoleg wedi eu lleoli mewn 8 gwlad yn cydweithio'n agos rhwng 2022–2028. Johan Ling, arbenigwr ar Oes yr Efydd ym Mhrifysgol Gothenburg, sy'n arwain y tîm.
Mae'r fenter uchelgeisiol hon wedi'i hysbrydoli gan y chwyldro diweddar mewn dilyniant genom llawn o hen DNA. Mae'r canfyddiad arloesol hwn wedi dod â mudo yn ôl i esboniadau archeolegol. Erbyn hyn, mae ffurfio poblogaethau, diwylliannau ac ieithoedd Ewrop yn cael eu hystyried i raddau helaeth fel canlyniadau tri ymfudiad cynhanesyddol mawr: helwyr-gasglwyr yn ail-boblogi’r dirwedd ôl-rewlifol, ac yna ffermwyr yn ymledu o Anatolia, ac yna bugeilwyr Indo-Ewropeaidd o’r Stepdir. Teimlir bwlch sylweddol yn y model hwn yn enwedig yn Sgandinafia ac Ynysoedd Prydain. Sut wnaeth y grwpiau hyn gyrraedd ynysoedd a phenrhynau Môr Iwerydd Ewrop? Pa fathau o gychod a ddefnyddiwyd? I ba raddau y cyfrannodd pobloedd brodorol yr arfordir draddodiadau a gwybodaeth a drawsnewidiodd ddiwylliannau ac ieithoedd y mewnfudwyr yn eu hamgylcheddau newydd?
Bydd y tîm traws ddisgyblaethol rhyngwladol hwn yn adrodd stori fanylach am sut y gwnaeth cymdeithasau cynhanesyddol wireddu mordeithiau agos a phell, trefnu cyfnewid o bell, a’i ffordd o fyw ger y môr yn y cyfnod cynhanesyddol. Bydd ‘Cyfrangau arforol’ yn creu gwrthbwynt i brif naratif daearol cynhanes Ewrop.
Meddai John Koch: ‘Mae hyn yn gyffrous iawn i faes ieithyddiaeth hanesyddol - yn taflu goleuni i gyfeiriad newydd. Mae'r prif ffocws wedi bod ar ail-greu Proto-Indo-Ewropeg ac yna astudio'r ieithoedd ardystiedig. Nid yw’r hyn sydd yn y canol wedi cael ei ymchwilio’n ddigonol, sef yr “Oesoedd Tywyll Indo-Ewropeaidd”. Rydym yn disgwyl i ‘Cyfrangau arforol’ ddod â dealltwriaethau newydd am y Celtiaid a'r Germaniaid cynharaf ar gyrion gogledd-orllewinol Ewrasia - sut y gwnaeth lleoliadau morwrol a phobloedd frodorol ail-lunio ieithoedd a ffyrdd o fyw mewnfudwyr Indo-Ewropeaidd. Mae Cymru’n bwysig mewn dwy ffordd allweddol: fel cartref iaith â gwreiddiau cynhanesyddol yn y rhanbarth ac fel ffynhonnell copr a fasnachwyd ar draws y môr i Sgandinafia rhwng 2000 a 1400 CC. ’
Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan:
‘Rydym yn ymfalchïo yn llwyddiant yr Athro Koch a’r tîm o ymchwilwyr rhyngwladol a fu’n datblygu’r cais o dan arweiniad yr Athro Johan Ling o Brifysgol Gothenburg. Dyma brosiect hynod arloesol a fydd o ddiddordeb mawr i ysgolheigion ar draws disgyblaethau ac i’r gymdeithas yn ehangach am ein cynhanes fel pobl, yn y lleoliadau penodol a thu hwnt iddynt.’
Nodyn i'r Golygydd
Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk
1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.
2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk
3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021: https://www.geiriadur.ac.uk/
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076