Ymchwilwyr yng Nghymru a Llydaw yn cydweithio ar brosiect archifau Llydaweg
02.12.2022
Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth archif Lydewig bwysig. Mae ymchwilwyr yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, ynghyd â’u cyd-weithwyr yn y Centre de Recherche Bretonne et Celtique yn Brest, wedi derbyn cyllid gan CollEx-Persée i weithio ar y casgliad arbennig hwn.
Mewn partneriaeth gyda’u cyd-weithwyr yn Llydaw bydd ymchwilwyr yn cyd-destunoli, dadansoddi, ac yn digido detholiad o’r testunau, trwy gyfrwng teithiau ymchwil a gweithdai yn Brest ac Aberystwyth.
Nod y prosiect yw cyfoethogi, digido, ac ehangu mynediad i rai o ddogfennau’r casgliadau sydd yn yr archifau Llydewig yng Nghymru, dogfennau sydd yn eu tro yn cysylltu â rhai o’r dogfennau sydd mewn archifdai yn Llydaw ac yn Ffrainc. Bydd hyn yn rhoi darlun llawnach inni o’r berthynas rhwng Cymru a Llydaw dros y ddwy ganrif ddiwethaf.
Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan:
Dyma brosiect ymchwil pwysig iawn sy’n tystio i’r cydweithio strategol cryf rhwng y tri phartner: y CRBC yn Llydaw, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, gyda phob un yn dod â’i arbenigedd unigryw i’r gwaith er budd ysgolheigion, y sector treftadaeth a chymunedau yng Nghymru, Llydaw ac yn rhyngwladol.
Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: ‘Bydd yn hwyluso ac ehangu mynediad i ddefnyddwyr a chynulleidfaoedd y tu hwnt i’r rhai a fyddai’n medru cyrchu’r cynnwys yn lleol yn y casgliadau, yn ei ffurf bresennol.’
Dywedodd Ronan Calvez, Cyfarwyddwr y Centre de Recherche Bretonne et Celtique ym Mhrifysgol Brest: ‘Mae ymchwilwyr y CRBC wrth eu boddau gyda’r cyfle hwn i weithio ar archifau Llydewig yng Nghymru. Mae yma ddeunydd cyffrous sy’n sicr yn haeddu sylw, a bydd y gwaith academaidd yn cryfhau cysylltiadau rhwng ymchwilwyr yng Nghymru a Llydaw.’
"Les chercheuses et les chercheurs du CRBC se réjouissent de travailler sur les archives bretonnes du pays de Galles, qui n'ont pour l'heure pas fait l'objet d'études et qui méritent grandement d'être valorisées. Ce projet scientifique permettra de renforcer les liens entre chercheurs, de part et d'autre de la Manche."

Nodyn i'r Golygydd
Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk
1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.
2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk
3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru: https://www.geiriadur.ac.uk/
4. ‘Centre de Recherche Bretonne et Celtique’ [Canolfan Ymchwil Llydewig a Cheltaidd], Prifysgol Brest, Llydaw, Ffrainc https://www.univ-brest.fr/crbc/. Canolfan ymchwil sydd wedi gweithio yn agos gyda’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd dros gyfnod o flynyddoedd.
5. Dyfarnwyd y grant gan CollEx-Persée https://www.collexpersee.eu/a-propos/who-are-we/ a gyllidir gan Lywodraeth Ffrainc.
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076