Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn arddangos mewn Sioe Ddylunio flaenllaw


10.07.2023

Gwnaeth myfyrwyr blwyddyn olaf Coleg Celf Abertawe ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant arddangos eu gwaith ym mhrif arddangosfa ddylunio y DU i raddedigion, New Designers, yn Llundain yn ddiweddar.

Surface Pattern and Design Crafts students at New Designers Week 1, 2023

Mae sioe y New Designers yn ddigwyddiad hollbwysig yn y sector Dylunio mewn Addysg Uwch (AU), ac wedi'i rannu dros bythefnos yn ystod Mehefin a Gorffennaf bob blwyddyn. Mae'n cynnig cyfle i fyfyrwyr sy'n graddio arddangos eu gwaith yn y Ganolfan Dylunio Busnes yn Islington ymhlith talentau blaenllaw eraill o brifysgolion ledled y wlad.

Roedd cynrychiolwyr o'r radd  BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau a’r radd  BA Crefftau Dylunio  yn y Drindod Dewi Sant yn bresennol yn wythnos gyntaf y sioe New Designers. Roedd ganddynt stondinau yn y brif Neuadd Decstilau a'r Parth Celf Cymhwysol, gyda lle i'r myfyrwyr arddangos gwaith ac i staff gynnal gweithdai ar gyfer ysgolion a cholegau oedd yn ymweld.

Mae'r digwyddiad, sydd wedi'i fynychu gan y Drindod Dewi Sant ers blynyddoedd lawer, yn denu sbectrwm eang o fynychwyr, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant Dylunio, y Wasg, a darpar fyfyrwyr prifysgol a fydd yn ffurfio’r genhedlaeth nesaf o ddylunwyr Prydeinig. Mae'r drefn hon yn cynnig cyfleoedd digyffelyb i arddangoswyr rwydweithio gyda phob sector o'r farchnad, gan ddarparu cyfle hanfodol i ehangu eu cynulleidfa.

Daeth myfyrwyr Patrymau Arwyneb a Thecstilau i gysylltiad ag enwau cyfarwydd megis Liberty a'r Amgueddfa Brydeinig, yn ogystal â brandiau nad oeddent yn hysbys o'r blaen, a chyfarfod â dylunwyr uchel eu parch fel Emma Shipley. Sicrhaodd rhai o'r myfyrwyr adolygiadau portffolio a lleoedd cyfyngedig ar sesiynau mentora gyda noddwyr swyddogol y  digwyddiad gan gynnwys Habitat, Hallmark ac awdur ac arweinydd cynaliadwyedd, Katie Tregidden.

Surface Pattern and Design Crafts New Designers Week 1, 2023, Hannah Sharpe Ceramics

Dywedodd Safiyyah Altaf, myfyriwr Patrymau Arwyneb a Thecstilau ar ei thrydedd flwyddyn yn y Drindod Dewi Sant: “Roedd yn agoriad llygad bod mewn amgylchedd mor wahanol i'r stiwdio. Roedd cael y cyfle i fagu hyder a bod yn agored i rannu fy syniadau drwy sgyrsiau gyda'r diwydiant yn werthfawr iawn. 

“Trwy ymgysylltu â'r cyhoedd gallwn glywed am yr hyn mae pobl yn chwilio amdano wrth addurno eu cartrefi â chynhyrchion mewnol, oherwydd yn y pen draw, dyma'r bobl a fydd yn cefnogi'ch gwaith fwyaf.” 

Ar y stondin Crefftau Dylunio, bu’r myfyrwyr yn siarad ag amrywiaeth o orielau crefftau mawreddog sydd â diddordeb mewn arddangos eu gwaith, a chael tagiau ‘We Love This’ gan gwmnïau fel Stephen Webster Jewellery a Ceramic Review. Gwnaeth staff y Brifysgol adeiladu ar gysylltiadau â sefydliadau eraill fel Goldsmiths, y Cyngor Crefftau a'r Gymdeithas Gemwaith Cyfoes, a fu’n gweithio’n ddiweddar gyda'r Drindod Dewi Sant ar gystadleuaeth briff byw. 

Dywedodd Anna Lewis, Darlithydd BA mewn Crefftau Dylunio yn y Drindod Dewi Sant: “Roedd gwaith ein myfyrwyr yn edrych yn hynod broffesiynol a chafwyd sylwadau ei bod yn arddangosfa ragorol. Roedd amrywiaeth o waith yn cael ei arddangos mewn cerameg, gwydr a gemwaith a oedd yn amrywio o ran graddfa, techneg a chysyniad. Mae sioe y New Designers yn gam pwysig iawn, a dysgodd y myfyrwyr yn gyflym sut i fynegi eu gwaith i gynulleidfa allanol a gwneud llawer o gysylltiadau defnyddiol i'w dilyn."

Yn ogystal ag arddangos gwaith ar y stondinau, dros y tair blynedd ddiwethaf mae staff o'r cwrs Patrymau Arwyneb a Thecstilau wedi cynnal gweithdai ar gyfer ymwelwyr o oedran ysgol a choleg. Mae'r rhain yn weithgareddau ymarferol a gynhelir mewn mannau cyhoeddus yn arddangosfa’r New Designers. Y gweithdy eleni oedd “Off the Wall”, gweithdy papur wal 2D a 3D cydweithredol, gyda dros 120 o bobl ifanc wedi cymryd rhan.

Dywedodd Claire Savage, Darlithydd Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn y Drindod Dewi Sant a Llysgennad  INSPIRE : “Mae cynnal sesiynau ymarferol yn sioe y New Designers yn ein galluogi i ymgysylltu ag ysgolion a cholegau mewn gweithdai creadigol a siarad â nhw am yrfaoedd yn y celfyddydau. Rydym yn eu cyflwyno i'r rhaglenni a'r cyfleusterau stiwdio gwych sydd ar gael yng Ngholeg Celf Abertawe, a’r drysau y bydd ein cyrsiau yn eu hagor iddynt yn y dyfodol.”

schoolgirls at Surface Pattern and Design Crafts workshops, New Designers Week 1, 2023

Nodyn i'r Golygydd

Ynglŷn â New Designers:

Mae New Designers wedi bod yn arddangos gwaith egin dalent dylunio ers dros 35 mlynedd. Wedi'i sefydlu yn 1985, y digwyddiad hwn bellach yw arddangosfa mwyaf blaenllaw'r DU ar gyfer dylunwyr newydd, gan ddarparu llwyfan i filoedd o raddedigion arddangos eu gwaith a chysylltu â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Dros y blynyddoedd, mae New Designers wedi helpu i lansio gyrfaoedd llawer o ddylunwyr llwyddiannus, ac wedi sefydlu ei hun fel digwyddiad y mae'n rhaid ei fynychu ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol dylunio.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk

Ffôn | Phone : 07384467078