Academydd blaenllaw yn PCYDDS wedi’i ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru


28.04.2023

Mae’r Athro Lisa Isherwood o’r Drindod Dewi Sant wedi’i hethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Professor Lisa Isherwood elected as fellow of the Learned Society of Wales

Mae Lisa Isherwood yn Athro Ymarfer mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac yn Athro Emerita o Ddiwinyddiaethau Rhyddhad Ffeministaidd, Prifysgol Caerwynt. Mae hi wedi cael effaith sylweddol ar ddiwinyddiaeth, yn enwedig wrth hyrwyddo astudiaethau ffeministaidd a queer.

Mae ei hymchwil, sydd wedi’i gyfieithu’n helaeth, wedi arwain at gynnwys y safbwyntiau hyn mewn diwinyddiaeth gonfensiynol ac wedi newid y ffordd y caiff diwinyddiaeth ei haddysgu a’i thrafod yn rhyngwladol. Mae’r Athro Isherwood wedi dal swyddi arwain mewn amrywiol sefydliadau academaidd a phroffesiynol ac mae’n cydweithio â chydweithwyr ledled y byd.

Mae ethol i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth, yn cael ei gystadlu’n frwd, ac yn digwydd yn dilyn archwiliad trylwyr o gyflawniadau pob enwebai yn eu maes perthnasol. Wrth glywed y newyddion, dywedodd yr Athro Lisa Isherwood:

“Mae’n fraint cael fy ethol yn Gymrawd cymdeithas mor fawreddog ac edrychaf ymlaen at gyfrannu at eu gwaith ar amrywiaeth a llawer o brosiectau eraill.

“Fel Cymraes falch, mae’r teimlad o gael fy nghydnabod am fy ngwaith academaidd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn y modd hwn ochr yn ochr â’r wefr a deimlais pan gefais fy newis i gynrychioli tîm golff cenedlaethol Cymru yn rhyngwladol. Rwy’n hapus dros ben ac yn edrych ymlaen at gwrdd â chydweithwyr a chymryd rhan mewn sgyrsiau ffrwythlon.”

Eleni, mae 41 o Gymrodyr newydd wedi’u hethol i Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae'r Cymrodyr newydd yn cynnwys academyddion o bob rhan o brifysgolion Cymru a'r DU, awduron, ymchwilwyr ac arweinwyr o fyd addysg uwch, yn ogystal â'r gyfraith, meddygaeth a'r cyfryngau.

Yn y flwyddyn lle lansiodd y Gymdeithas ei hymrwymiad Amrywiaeth, Ecwiti a Chynhwysiant newydd, mae dros 50% o'r Cymrodyr newydd yn fenywod.

"Rwyf wrth fy modd gydag ehangder yr arbenigedd o safon fyd-eang ymhlith ein Cymrodyr newydd," meddai'r Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

"Mae'r ystod o arbenigeddau'n hynod ddiddorol, ac mae ansawdd yr ymchwil yn eithriadol. Mae'n dangos faint o bobl arbennig y gall Cymru frolio, sy’n cyfrannu eu syniadau, eu hangerdd a'u harbenigedd, ac sy’n dyfnhau ecosystem ein hymchwil ac sydd o fudd i'r gymdeithas yng Nghymru a thu hwnt.

"Nid yw Cymdeithas Ddysgedig Cymru fawr mwy na deg oed, ond rydym yn chwarae rhan gynyddol mewn creu amgylchedd cynhyrchiol a chefnogol ar gyfer ymchwil o'r radd flaenaf yng Nghymru, tra'n darparu llais gwybodus mewn trafodaethau polisi.

"Rwy'n falch iawn o groesawu ein Cymrodyr newydd i'r Gymdeithas, ac yn edrych ymlaen at eu cysylltiad gweithgar â ni yn y blynyddoedd i ddod."

Mae'r Cymrodyr newydd yn dod â maint y Gymrodoriaeth i 687.

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076