Academydd PCYDDS yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad mawr yn y DU i addysg uwchradd
16.06.2023
Mae academydd o'r Drindod Dewi Sant wedi rhoi tystiolaeth i ymchwiliad pwysig yn y DU i addysg uwchradd. Gwahoddwyd Gareth Evans, Cyfarwyddwr Polisi Addysg yn Yr Athrofa: Canolfan Addysg o fewn y brifysgol, i roi tystiolaeth i Bwyllgor Tŷ'r Arglwyddi ar Addysg ar gyfer Plant 11-16 oed mewn gwrandawiad ddydd Iau (Mehefin 15).
Ef oedd yr unig gynrychiolydd o Gymru mewn sesiwn yn canolbwyntio ar ddiwygio addysg yn y gwledydd datganoledig.
Mae Pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi ar Addysg ar gyfer Plant 11-16 oed yn archwilio pa mor dda y mae'r system addysg uwchradd yn Lloegr yn darparu’r sgiliau angenrheidiol i bobl ifanc ar gyfer y cyfleoedd gwaith fydd ar gael mewn economi ddigidol a gwyrdd yn y dyfodol ac mae'n ystyried cynigion ar gyfer diwygio sylweddol.
Mae'r pwyllgor yn cael ei gadeirio gan gyn-Weinidog Prifysgolion y DU, Jo Johnson, ac mae'n rhestru ymhlith ei aelodau yr Arglwydd Kenneth Baker, sy'n fwyaf adnabyddus am gyflwyno'r Cwricwlwm Cenedlaethol, a chymwysterau TGAU yn ei sgil, pan oedd yn Ysgrifennydd Addysg y DU.
Yn ystod y sesiwn, disgrifiodd Gareth yr heriau a'r cyfleoedd a gyflwynir gan agenda uchelgeisiol Cymru i ddiwygio addysg, ac ymatebodd i amrywiaeth o gwestiynau ar atebolrwydd, y proffesiwn addysgu a newid cwricwlwm.
Ymunodd yr Athro Graham Donaldson, o Brifysgol Glasgow, ag ef ar y panel ddydd Iau, ynghyd â Gordon Stobart, Athro Emeritws Addysg yng Ngholeg Prifysgol Llundain.
Mae Gareth wedi ysgrifennu'n helaeth ar addysg yng Nghymru ers datganoli ac mae'n cyfrannu'n rheolaidd at gyfryngau print a darlledu cenedlaethol.
Mae’n aelod o’r Rhwydwaith Asesu Addysgol Rhyngwladol (IEAN) ac yn arwain y rhan mae’r brifysgol yn ei chwarae yn y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (NPEP), sy'n ceisio datblygu athrawon fel ymchwilwyr.
Mae ei bapur diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, yn archwilio esblygiad atebolrwydd yng Nghymru: https://journals.sagepub.com/doi/10.1177/08920206231160646
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR
Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office
Ffôn | Phone: 07384 467071
E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk