Amodau posibilrwydd - a gobaith? Cylch ymchwil yn adeiladu cymuned, democratiaeth a deialog
18.07.2023
Mae'r Drindod Dewi Sant yn aelod o UALL (Cymdeithas Dysgu Gydol Oes y Prifysgolion). Rhwng 26 a 28 Mehefin eleni, gwnaeth Dr Iain Jones, Uwch Ddarlithydd mewn Addysg yn Yr Athrofa: Canolfan Addysg, fynychu’r gynhadledd flynyddol a drefnwyd ar y cyd â SCUTREA (Cynhadledd Sefydlog ar Addysgu ac Ymchwil Prifysgol mewn Addysg Oedolion).
Mae'r ddau sefydliad yn cyfuno ymrwymiad a diddordeb mewn polisïau, arfer ac ymchwil cenedlaethol - ar draws sectorau amrywiol addysg uwch, addysg bellach ac addysg oedolion y DU - a gwahanol ffurfiau rhyngwladol ar ddysgu gydol oes ac addysg oedolion hefyd.
Yn y gynhadledd eleni, ymunodd Iain â 100 o addysgwyr oedolion eraill o'r DU, Awstralia, Canada, De Affrica a'r Unol Daleithiau a gyfarfu i gyflwyno a chyfnewid ymchwil ac arfer.
Ers ymuno â'r Drindod Dewi Sant ym mis Hydref 2021, mae Iain wedi cyd-drefnu cylch ymchwil ar ‘Adeiladu cymuned, democratiaeth a deialog’ – gyda Dr Sharon Clancy, Prifysgol Nottingham, a grŵp o addysgwyr oedolion eraill sy'n gweithio ym maes addysg uwch ac addysg oedolion. Mae Addysg Oedolion Cymru a Sefydliad Raymond Williams wedi cyfrannu at ddigwyddiadau cynharach y cylch ymchwil (https://centenarycommission.org/celebrating-resources-of-hope-community-democracy-dialogue-through-adult-lifelong-education).
Meddai Iain: “Roedd cynhadledd UALL-SCUTREA eleni yn ddelfrydol fel ffordd o arddangos y cylch ymchwil. Ond roedd hefyd yn ffordd wych o ddysgu am ddatblygiadau mewn gwahanol wledydd yn y DU - a deall arferion dysgu gydol oes yn rhyngwladol. Dyma obeithio y gallwn adeiladu ar hyn – a gwneud cysylltiadau ar gyfer eraill yn y Drindod Dewi Sant hefyd."
Lluniwyd gweithdy diweddaraf y cylch ymchwil, yng nghynhadledd UALL-SCUTREA, gyda chyfranogwyr o'r DU a Chanada, i ymgysylltu'n feirniadol â datblygiad y cylch ymchwil - fel un enghraifft o ddysgu gydol oes a dysgu ledled bywyd. Yn gyntaf darparodd grynodeb a chyd-destun ar gyfer y gwaith hwn. Dechreuodd o sefyllfa benodol: ymdeimlad bod y prif ffurfiau o ddysgu gydol oes yn ymateb gwan i argyfyngau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Yna cynlluniwyd y gweithdy i agor cyfleoedd i gyfranogwyr adolygu eu harferion eu hunain trwy ddeialog ar ddemocratiaeth, dinasyddiaeth a gwahanol ffurfiau o addysg oedolion. Gwahoddwyd pob unigolyn i fyfyrio ar eu profiadau eu hunain ac archwilio sut roedd cwestiynau, a ofynnwyd mewn digwyddiadau cylch ymchwil cynharach, yn berthnasol i'w cyd-destun eu hunain:
Pam mae angen ail-lunio addysg gydol oes i oedolion yn radical, yn enwedig yn ystod oes Covid, a sut?
Sut mae addysg oedolion yn cysylltu â'n democratiaeth ac yn ei meithrin?
Ymunodd Dr Nicola Dickson, o Brifysgol Glasgow, sy'n Ysgrifennydd SCUTREA â'r gweithdy. Meddai:
“Am ychydig ddyddiau gwych, mae'n teimlo fel bod y cyfan mor llawn gobaith eto. Dymuniadau gorau i'r cyfarfod nesaf ac rwyf mor falch fy mod yn gallu cyfrannu at waith y cylch ymchwil.
Cyfarfu'r cylch ymchwil am y tro cyntaf ym mis Medi 2020. O fis Mai 2021 i fis Mai 2023, mae digwyddiadau wedi cael eu hysbrydoli gan siaradwyr a chyfranogwyr sy'n gweithio mewn ystod eang o sefydliadau gwirfoddol a chymunedol ac mewn addysg oedolion, addysg bellach ac uwch. Mae pob digwyddiad wedi'i gynllunio i greu posibiliadau yn wyneb democratiaethau mewn argyfwng – ac wedi gofyn sut y gallai'r rhain fod yn berthnasol i brofiadau cyfranogwyr eraill.
Mae digwyddiad nesaf y cylch ymchwil wedi'i gynllunio ar gyfer mis Hydref. Os hoffech wybod mwy am yr ymchwil ac ymuno â'r rhestr bostio - cysylltwch ag Iain ar i.jones@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR
Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office
Ffôn | Phone: 07384 467071
E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk