Anelu at Ragoriaeth 2023


08.06.2023

Croesawodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod Dewi Sant) Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, AS, i gyflwyno prif anerchiad ei 10fed Cynhadledd Anelu at Ragoriaeth yn Neuadd Brangwyn Abertawe ar 26 Mai. 

The University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) welcomed Education and Welsh Language Minister Jeremy Miles, MS, to deliver a keynote speech at its 10th Aiming for Excellence Conference at Swansea’s Brangwyn Hall on May 26.

Trefnir y gynhadledd, y mwyaf o’i math yng Nghymru ac un o’r mwyaf yn y DU, bob blwyddyn gan Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol Yr Athrofa (PDPA) ac mae’n dod â darpar athrawon BA Addysg, TAR Cynradd a TAR Uwchradd at ei gilydd i rannu arfer da wrth iddynt baratoi ar gyfer gyrfa ym myd addysg. 

Yr Athrofa yw’r Ganolfan Addysg yn Y Drindod Dewi Sant. Daw â rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon a chymwysterau proffesiynol eraill ar gyfer addysgwyr ym mhob sector o’r system addysg at ei gilydd; cyfleoedd a rhaglenni dysgu proffesiynol gydol-gyrfa, a gynlluniwyd drwy ddefnyddio ymchwil a chydweithio agos gydag ysgolion partner; arbenigedd ymchwil addysg, prosiectau, ac arbenigedd; a Chanolfan Polisi, Adolygu a Dadansoddi Addysg (CEPRA) y Brifysgol.

Gwnaeth y gynhadledd ddarparu cyfle i glywed gan y Gweinidog Addysg ar ei agenda diwygio ac fe ymatebodd i gwestiynau gan ddarpar athrawon yn ystod sesiwn Cwestiwn ac Ateb fyw.

Dywedodd Jeremy Miles: "Roedd yn wych cael y cyfle i gyfarfod a gwrando ar gynifer o bobl dalentog a llawn cymhelliant sy’n ymuno â’r proffesiwn addysgu.

“Mae’n rhoi cymaint o obaith i mi ar gyfer dyfodol ein proffesiwn ac rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi ein gweithlu nawr ac yn y dyfodol.”

Ymhlith y siaradwyr gwadd eraill roedd yr Athro Graham Donaldson, sylfaenydd fframwaith cwricwlwm newydd arloesol Cymru; yr awdur, ymchwilydd ac athro Darren Chetty, a Phil Beadle, arbenigwr yn nhri maes llythrennedd/addysg Saesneg, rheolaeth ymddygiad a chreadigrwydd.

Ar hyn o bryd mae’r Athro Donaldson yn gynghorydd ar ddiwygio addysgol i Lywodraeth Cymru ac yn aelod o Gyngor Rhyngwladol Ymgynghorwyr Addysg Prif Weinidog Yr Alban. Gwnaed Graham yn Gydymaith Urdd y Baddon gan y Frenhines yn 2009 am wasanaethau i addysg a derbyniodd Wobr Robert Owen fel addysgwr ysbrydoledig gan Lywodraeth Yr Alban yn 2015. Hefyd, mae wedi derbyn Doethuriaethau Anrhydeddus gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow.

Meddai’r Athro Donaldson: “Mae’n bleser bob tro cwrdd â chymaint o athrawon ac arweinwyr addysgol y dyfodol Cymru. Mae eu brwdfrydedd yn fy llenwi â hyder y bydd y diwygiadau uchelgeisiol yng Nghymru yn cael eu cynnal a’u cyfoethogi yn y blynyddoedd i ddod.”

Cafwyd cyflwyniadau gan Ffion Osmyndsen, Amber Prosser a Nia Loren, a roddodd mewnolwg unigryw i’r cynllunio gwersi arloesol sy’n cael ei wneud a’i gyflwyno mewn ysgolion gan ddarpar athrawon Y Drindod Dewi Sant.

Mae’r brifysgol yn gweithio’n agos gyda rhwydwaith o dros 100 o ysgolion partner ar draws de Cymru, o Sir Benfro i Sir Fynwy. Roedd cynrychiolwyr o lawer ohonynt hefyd yn bresennol yn y gynhadledd.

Meddai’r Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-Ganghellor: “Mae mynychu’r gynhadledd flynyddol hon yn rhoi boddhad mawr i mi bob tro.  Mae brwdfrydedd a chreadigrwydd ein hathrawon newydd yn galonogol iawn ac yn rhywbeth i fod yn falch iawn ohono.”

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR

Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office

Ffôn | Phone: 07384 467071

E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk