Arddangosfa ar draws y Ddinas i Agor ei Drysau
05.05.2023
Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brysur yn paratoi gweithiau celf ar gyfer sioe raddio haf flynyddol Coleg Celf Abertawe a gynhelir ar draws Abertawe ym mis Mai a Mehefin.
Gan agor ar 19 Mai, bydd gwaith gan fyfyrwyr gradd blwyddyn olaf o amrywiaeth o gyrsiau creadigol yn cael ei arddangos yn adeiladau Dinefwr ac ALEX y Drindod Dewi Sant, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Canolfan Dylan Thomas a HQ Urban Kitchen, gyda sioeau dethol hefyd yn arddangos yn Llundain yn ddiweddarach yn yr haf.
Bydd yr arddangosfeydd yn agor rhwng 6-9pm ar 19 Mai, ac yn parhau’n agored i’r cyhoedd yn ystod y dydd tan 16 Mehefin (ac eithrio dyddiau Sul, Gwyliau Banc a dydd Sadwrn 27 Mai).
Wrth edrych ymlaen at yr arddangosfeydd, dywedodd yr Athro Ian Walsh, Profost Campws Abertawe y Drindod Dewi Sant: “Mae’r Brifysgol wrth ei bodd ein bod unwaith eto’n gallu agor ein drysau i’r cyhoedd a chroesawu ymwelwyr i weld gwaith y myfyrwyr sy’n graddio eleni o Goleg Celf Abertawe.
“Fel un o brif ganolfannau’r DU ar gyfer celf, dylunio a’r cyfryngau, mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o lwyddiant ei myfyrwyr a’r safonau maent yn eu cyrraedd. Mae pwysigrwydd yr artist, y dylunydd, y gwneuthurwr ffilmiau, a’r meddwl creadigol wrth ddehongli ein cyfnod ac adrodd straeon pwysig yn hanfodol yn y cyfnod heriol hwn.”
Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd yng Ngholeg Celf Abertawe, y Drindod Dewi Sant: “Mae’r Sioe Raddio’n ddathliad ac yn benllanw astudiaeth israddedig ac ôl-raddedig y myfyrwyr, lle byddwch yn profi creadigrwydd gwych ar draws amrywiaeth eang o feysydd pwnc celf a dylunio. Mae colegau celf yn newid y byd – bydd ein myfyrwyr ni, y byddwch yn gweld eu gwaith pan fyddwch yn ymweld â’r sioe, yn mynd yn eu blaenau i newid y byd”.
Ceir manylion y cyrsiau sy’n arddangos ym mhob lleoliad isod:
Dinefwr: SA1 3EU
Celf Gain
Ffotograffiaeth **
Patrymau Arwyneb a Thecstilau *
MA Deialogau Cyfoes
ALEX: SA1 5DU
Celf a Dylunio Sylfaen
Crefftau Dylunio *
Dylunio Cynnyrch a Dodrefn *
MA Deialogau Cyfoes
HQ Urban Kitchen: SA1 5AJ
Technoleg Cerddoriaeth Greadigol (Perfformiadau byw 19 Mai, tapiau arddangos 20-26 Mai)
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: SA1 3RD
Darlunio (ar agor tan 18 Mehefin)
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Executive Press and Media Relations Officer / Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Corporate Communications and PR / Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Mobile: 07384 467071