Artist a myfyriwr graddedig o’r Drindod Dewi Sant yn dychwelyd i gyflwyno Gwobrau a Darlith Flynyddol Gŵyl Ddewi
03.04.2023
Dychwelodd Owen Griffiths, a raddiodd o gwrs Celf a Dylunio Sylfaen Coleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, i’r Brifysgol i gyflwyno darlith greadigol Gŵyl Ddewi a chyflwyno gwobrau i’r myfyrwyr presennol.
Ffotograffydd: Emily Sullivan, myfyrwraig MA Hysbysebu
Mae’r digwyddiad blynyddol a gynhelir gan Goleg Celf Abertawe yn gwobrwyo unigolion am eu hymrwymiad i’r Gymraeg. Cynhaliwyd y digwyddiad eleni am y chweched gwaith, a gwahoddwyd yr artist a’r cyn-fyfyriwr llwyddiannus Owen Griffiths i gyflwyno’r gwobrau.
Mae Owen sy’n gyn-fyfyriwr Celf a Dylunio Sylfaen bellach yn artist a churadur llwyddiannus, yn ogystal â bod yn Sylfaenydd a Chyfarwyddwr y fenter gymdeithasol, Ways of Working, prosiect celfyddydol a newid cymdeithasol sy’n gweithio ar agendâu dyfodol teg, hinsawdd, cyfiawnder a grymuso.
Derbyniwyd y gwobrau gan fyfyrwyr trydedd flwyddyn sy’n astudio eu cyrsiau creadigol trwy gyfwng y Gymraeg a dderbyniodd y gwobrau. Mae’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn amlwg yn bwysig i’r myfyrwyr hyn ac mae hwn yn cael ei adlewyrchu yn eu gwaith celf.
Dywedodd Cara Edwards, myfyriwr Dylunio Graffig ac un o’r enillwyr:
“Mae siarad Cymraeg yn rhan o fy hunaniaeth ac felly rwy’n hynod falch fy mod i wedi cael y cyfle i weithio yn ddwyieithog ar fy nghwrs gradd Dylunio Graffeg . Credaf ei bod hi’n bwysig nid yn unig i ddefnyddio’r iaith, ond hefyd i greu gwaith dwyieithog i annog pobl eraill i’w dysgu a’i defnyddio hefyd.”
Gwaith Cara Edwards, myfyrwraig trydedd blwyddyn BA Dylunio Graffig
Eleni, gwobrwywyd hefyd ddarlithwyr a chyfarwyddwyr rhaglenni am eu cefnogaeth a’u hanogaeth i fyfyrwyr sy’n astudio yn y Gymraeg. Katherine Clewett, Cyfarwyddwr Rhaglen TYST AU Celf a Dylunio Sylfaen oedd un o’r enillwyr. Roedd y seremoni eleni yn arbennig iddi gan fod Owen, a gyflwynodd y wobr iddi, yn un o’i chyn-fyfyrwyr. Dywedodd:
“Astudiodd Owen gyda ni yma ar y rhaglen Sylfaen gyda’i wraig Fern. Rwyf wedi dilyn ei addysg, ei brosiectau creadigol a’i fywyd teuluol yn agos, ac yn hynod o falch fy mod wedi bod yn rhan o’i daith. Mae’n braf bob amser ei groesawu yn ôl i Goleg Celf Abertawe. Roedd yr ymweliad hwn yn arbennig iawn gan ei fod wedi cyflwyno fy ngwobr i mi.”
Yn ogystal ag astudio’r cwrs Celf a Dylunio Sylfaen, treuliodd Owen ychydig amser yn addysgu arno. Mae’n cofio’i amser yma fel cyfnod hapus iawn, a dywedodd:
“Cafodd y flwyddyn a dreuliais yn astudio’r cwrs Sylfaen effaith ddramatig ar fy mywyd – rhoddodd gyfleoedd i mi a’m paratodd ar gyfer nifer o bethau yn y dyfodol ac a helpodd i’m harwain lle ydw i heddiw. Fe alluogodd i mi hefyd ddatblygu’n bersonol, yn broffesiynol ac yn artistig.”
Fel rhan o’r seremoni, cyflwynodd Owen ddarlith ar y gwaith y mae wedi’i wneud ers gadael y Brifysgol.
Wedi’i leoli yn Abertawe, mae’n disgrifio’i hun fel artist cymunedol sy’n gweithio dros newid cymdeithasol. Mae ei waith wedi’i wreiddio’n lleaol ac yn fyd-eang. Gan weithio gyda chymunedau, amgueddfeydd ac orielau, mae ei brosiectau amrywiol yn archwilio themâu fel argyfwng hinsawdd, systemau bwyd, a chyfiawnder cymdeithasol a radical. Mae’r prosiectau’n cynnwys proses a chanlyniad creadigol a allai fod ar ffurf celf gyhoeddus, gerddi cymunedol, arddangosfeydd ffenestr siop, neu drawsnewid amgueddfa.
Mae’r Gymraeg yn chwarae rhan bwerus i Owen yn y ffordd y mae’n edrych ar ei brosiectau a’r modd y mae’n mynegi ei hun o ddydd i ddydd.
Dywedodd Gwenllian Beynon, cydlynydd Cymraeg Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru a drefnodd y digwyddiad, bod cyflwyno ein myfyrwyr presennol i artistiaid proffesiynol sy’n siarad Cymraeg fel Owen, yn eu hannog i barhau i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Ychwanegodd:
“Rydym yn gwahodd pobl broffesiynol o’r diwydiannau creadigol atom i ysbrydoli ein myfyrwyr. Nod y seremoni yw dathlu Cymreictod. Mae’n arwydd o ymrwymiad i’r iaith Gymraeg ac yn rhoi llais iddi. Mae’n bwysig bod yn dathliadau hyn yn bodoli er mwyn cefnogi’r iaith a’i ddiwylliant.”
Os hoffech rhagor o wybodaeth am Wobrau a Darlith Flynyddol Gŵyl Ddewi, cysylltwch a’r trefnydd, Gwenllian Beynon, Cyfarwyddwr Academaidd Cynorthwyol Celf a’r Cyfryngau a Chydlynydd Cymraeg Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru.