Artistiaid dawnus sy’n graddio yn cipio gwobrau
01.06.2023
Yn eu sioe graddio diwedd blwyddyn, fe wnaeth myfyrwyr o Goleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ennill sawl gwobr mewn cydnabyddiaeth o’u doniau a’u gwaith caled.
Bob blwyddyn, mae arddangosfa’r Sioe Haf yn cyflwyno penllanw gwaith gradd gan fyfyrwyr sy’n graddio. Gwelir eu darnau terfynol gan staff a gweithwyr proffesiynol sy’n chwilio am ddoniau hynod.
Roedd manylebau rhoddwyr gwobrau eleni’n amrywiol, o chwilio am waith â photensial manwerthu i wobrwyo myfyrwyr sydd wedi cyflawni gwaith rhagorol wrth brofi adfyd yn ystod eu hastudiaethau.
Cynhaliwyd y seremoni yn iard Dinefwr yn Y Drindod Dewi Sant ar noson agoriadol y sioe ar 19eg Mai, a daeth cannoedd ynghyd i glywed y canlyniadau ac araith gan Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Medwin Hughes.
Wrth annerch y myfyrwyr, meddai: “Gallwch fynd i unrhyw le, gallwch freuddwydio’r breuddwydion, gallwch greu unrhyw beth rydych chi ei eisiau oherwydd mae gennych gred yng ngwerth celf, lliw, darlun, gwead. Gallwch ddehongli’r byd er lles eraill.
“Rydyn ni i gyd yn falch iawn. Wrth i chi raddio eleni, dyna’i gyd y gallaf ei ddweud wrthych yw: ewch amdani! Gwnewch wahaniaeth, crëwch effaith, oherwydd os byddwch chi’n credu ynoch chi’ch hun, bydd eich creadigrwydd nid yn unig yn adrodd eich stori chi, ond bydd yn newid y byd.”
Mae manylion yr enillwyr isod:
Artist Benevolent Scholarship £10,000, cyflwynwyd gan Sue Williams
Enillydd: Adam Charlton, Celf Gain
Gwobr Peintio a Lluniadu Haydn John James Layton £1000 yr un, cyflwynwyd gan Holly Slingsby
Enillydd: Angelika Mika, Celf Gain
Enillydd: Katie Griffiths, Darlunio
Gwobr Celf Sefydliad Josef Herman er Cof am Carolyn Davies £500, cyflwynwyd gan Jackie Hankins
Enillydd: Hannah Henson, Celf Gain
Gwobr yr Old Dyvorian £375 yr un, cyflwynwyd gan David Taylor
Enillydd: Dafydd Wilson, Dylunio Graffig
Enillydd: Safiyyah Altaf, Dylunio Patrymau Arwyneb
Enillydd: Dawson Edwards, Celf Gain
Enillydd: Niam ODobhainn, Celf Gain
Gwobr Elizabeth Jeffries £200, cyflwynwyd gan Georgia McKie
Enillydd: Lucy Ralph, Patrymau Arwyneb a Thecstilau
Gwobr Rhys Bevan Jones £200, cyflwynwyd gan Gwen Beynon
Enillydd: Arianne Nicholas, Darlunio
Gwobr Grefftau Oriel Mission, cyflwynwyd gan Rhian Jones, Oriel Mission
Enillydd: Nia Gray, Patrymau Arwyneb a Thecstilau
Canmoliaeth Uchel: Hannah Sharpe, Crefftau Dylunio
Gwobrau Inspire Y Drindod Dewi Sant £200 yr un, cyflwynwyd gan Chris Holtom
Corey McComb, Dylunio Graffig
Caleb Morris, Technoleg Cerddoriaeth Greadigol
Joshua Rees, Ffotograffiaeth
Hannah Evans, Dylunio Cynnyrch
Zachery Dunlop, Crefftau Dylunio
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn | Phone : 07384467078