“Bydded i chi fentro gwneud pethau gwych â’ch bywyd bob amser"


07.08.2023

Anerchiad Taya Gibbons, llywydd grŵp, Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant, i raddedigion Birmingham.

Group President, UWTSD Students' Union

“Llongyfarchiadau mawr i chi i gyd, rydych chi wedi’i gwneud hi o’r diwedd. Mae pobl wedi siarad o fy mlaen i, a byddant yn parhau ar fy ôl i, i’ch llongyfarch a dymuno’n dda i chi, ond roeddwn i am ofyn i chi i stopio am funud a sylwi ar yr holl ogoniant.

Cymrwch anadl ddofn, gafaelwch yn yr eiliad hon â’ch dwy law, dathlwch bob cyrhaeddiad unigol, rydych chi’n ei haeddu.

Nid y brifysgol yw diwedd eich taith, ond dechrau dyfodol yn llawn o obaith a llwyddiant disglair. Yn y byd sydd ohoni, allwch chi ddim â rheoli sut mae pobl eraill yn eich gweld chi, yn eich beirniadu chi, na’ch trin chi, ond trwy symud ymlaen heb ofn, dyna sut rydych chi wedi rheoli eich rhagoriaeth i fod yma heddiw.

Rwy’n andros o falch i sefyll yma o’ch blaen, carfan o lwyddiant drwyddi draw. Mae’r brifysgol yn gyfnod heriol o’ch bywyd, yn gorfforol ac yn emosiynol, ond gyda’r gwydnwch a’r penderfyniad a ddangoswyd gennych, rydych chi wedi cyrraedd y pwynt hwn. Onid yw hynny’n hynod bwerus?

Er bod heddiw er eich mwyn chi, mae’n rhaid llongyfarch a diolch yn fawr i’r bobl o’ch cwmpas. Mae’r empathi a’r caredigrwydd y mae’r bobl hyn wedi’i ddangos, mewn adegau o amheuaeth a gofid, yn rhywbeth y byddwch yn ei gofio am byth. Wrth gwrs gallwch chi ddiolch i’r holl bobl bwysig hyn, ond roeddwn i hefyd am sefyll yma a diolch iddyn nhw am eu hamynedd, a’u cryfder ewyllys am chwarae eu rhan yn eich llwyddiannau yma.

A group of about thirty graduates wave, laugh and smile as they leave the graduation ceremony. At the front of the group, the Dean of Birmingham Campus wearing blue and red robes holds out his hat and smiles.

Eich academyddion, darlithwyr, a rheolwyr rhaglen, Deoniaid, Penaethiaid Athrofeydd a’r Is-Ganghellor. Teulu a ffrindiau, eich anwyliaid agosaf, y bobl sydd yma heddiw ac sy’n gwylio drosom. Diolch yn fawr iddyn nhw i gyd, rwy’n siŵr y gallwch ymuno â mi i fynegi eich diolchgarwch iddyn nhw.

Yr un peth mawr y mae’r brifysgol wedi’i ddysgu i mi yw hyn: cyn i chi weithredu, gwrandewch; cyn i chi ymateb, meddyliwch; cyn i chi feirniadu, arhoswch; a chyn i chi roi’r gorau iddi, rhowch gynnig arni.

Mae heddiw er eich mwyn chi; pa bynnag ffordd rydych chi’n bwriadu dathlu eich llwyddiannau, gwnewch yn siŵr eich bod yn trysori pob un o’r eiliadau hyn a phob lwc ar gyfer ble bynnag y bydd eich bywyd yn mynd â chi.

Bydded i chi fentro gwneud pethau gwych â’ch bywyd bob amser.”

The graduation hall – a large, modern room lit up with blue light and white circular lamps.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR

Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office

E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk