Canolfan Arloesi Cerebra PCYDDS yn helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddylunwyr
17.02.2023
Mae disgyblion o ysgol yn Abertawe wedi bod yn dysgu am anableddau a sut i ddylunio cynhyrchion i helpu i ddatrys heriau mewn gweithdy a drefnwyd gan Ganolfan Arloesi Cerebra (CIC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Abertawe.
Y pwnc y mae’r plant o Ysgol Gymunedol y Gors yn astudio’r tymor hwn yw ‘modelau rôl ac arwyr’. Yn ogystal, mae ganddynt ardd gaeedig yr hoffent ei datblygu’n ardd synhwyraidd ddiogel ar gyfer eu disgyblion Anghenion Addysgol Arbennig.
Sefydlwyd Canolfan Arloesi Cerebra (CIC) yn 2005 yn gydweithrediad rhwng PCYDDS ac elusen genedlaethol Cerebra. Mae CIC yn dylunio ac yn adeiladu cynhyrchion pwrpasol arloesol i helpu plant ag anableddau ddarganfod ac ymgysylltu â’r byd o’u cwmpas.
Meddai Dr Ross Head, Athro Cyswllt CIC a Rheolwr Canolfan Arloesi Cerebra: “Gofynnodd yr ysgol a fyddai CIC yn helpu trwy ddangos i’r disgyblion yr hyn rydyn ni’n ei wneud, sut rydyn ni’n ei wneud, sut rydyn ni’n meddwl am broblemau ac atebion, a thrwy hynny, gweithredu fel modelau rôl ar gyfer disgyblion blwyddyn 5 a 6.
“Roedd hi’n ddiwrnod anhygoel; roedd y plant yn llawn brwdfrydedd a syniadau gwych. Yn ogystal ag ymddwyn yn andros o dda, roedd gan y plant ddiddordeb mawr yn ein gwaith a’n prosiectau ac fe aethant ati i gwblhau eu tasgau’n dda iawn. Fe wnaeth y modelu empathi eu caniatáu i ddeall sut beth yw byw ag anabledd, a sut y gallai rhywun ddatrys cynhyrchion dylunio er mwyn helpu ag anabledd o’r fath.”
Dywedodd Dr Head fod Chris Jones, athro yn Ysgol Gynradd y Gors, wedi gofyn i’r tîm arwain y disgyblion i ddylunio gofod synhwyraidd awyr agored ar gyfer y “dosbarth heulwen”.
“Fe wnaethom groesawu’r plant i’n gweithdy yn Adeilad ALEX y Brifysgol i gicdanio eu prosiect,” ychwanegodd.
“Fe’u gwahoddwyd i’r ystafell ddarllen a rhoddwyd cyflwyniad iddynt ar rai o’n prosiectau, gan egluro ein dull o fynd at y problemau a’n ffordd o feddwl am y dyluniadau a’r atebion.”
Dywedodd y cafodd y plant eu rhannu’n grwpiau llai a chawsant edrych ar ymchwiliad manwl i rai o gynhyrchion a modelu empathi CIC (profi gweithred gyda gweithrediad/golwg cyfyngedig ac ati), lle gwnaethant dapio eu dwylo i efelychu anabledd a cheisio gwneud brechdan.
“Yna cawsom daith o’r gweithdai, ac wedyn buom yn dylunio/cynllunio’r ardd synhwyraidd a dychmygu’r holl bethau rhyfeddol y gallent eu creu,” ychwanegodd.
Meddai Chris Jones: “Roedd hi’n ddiwrnod gwych ac roedd y disgyblion wedi mwynhau ymweld â’r gweithdy a bod yn rhan o’r gwaith mewn dull mor ymarferol. Cafodd effaith gadarnhaol iawn arnynt.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Executive Press and Media Relations Officer / Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Corporate Communications and PR / Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Mobile: 07384 467071