Canolfan S4C Yr Egin ar restr fer Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru.


14.11.2023

Mae Canolfan S4C Yr Egin wedi cyrraedd rhestr fer yng Ngwobrau Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru. 

Hyrwyddwr Gorau'r Gymraeg yn y Gweithle - Enwebiad Yr Egin

Mae’r Egin wedi cael ei henwebu i’r categori ‘Hyrwyddwr Gorau’r Gymraeg yn y gweithle’ oherwydd y gwaith y maen nhw’n ei wneud i ddarparu cymorth gyrfaoedd i ddisgyblion mewn ysgolion lleol drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal a dangos ei bwriad  fel hwb i fusnesau creadigol a digidol i gydnabod gwerth y Gymraeg fel sgil ar gyfer y gweithle ac  i gymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n hybu pwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle.  

Mae’r seremoni wobrwyo hon yn gyfle i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau sydd wedi gweithio gyda nhw yn ystod y flwyddyn mewn digwyddiad arbennig. Mae’r gwobrau’n cael eu noddi gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething, a byddant yn cael eu cynnal ar Dachwedd 22ain   

Dywedodd Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru:  

“Llongyfarchiadau i Ganolfan S4C Yr Egin am gyrraedd rhestr fer Gwobr Partneriaid Gwerthfawr 2023.  

“Mae gweithio gydag ysgolion i ddarparu cymorth gyrfaoedd gwerthfawr yn helpu i ysbrydoli ac ysgogi cenhedlaeth iau, sef gweithlu’r dyfodol yng Nghymru. 

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Yr Egin i’r seremoni wobrwyo arbennig yn adeilad y Pierhead eleni ac yn dymuno pob lwc i bawb.” 

Gweithdy cwmni Moilin yn Yr Egin

Mae’r Egin, sy’n gartref i dros 16 o fusnesau wedi bod yn cynnal nifer o ddiwrnodau agored gyda ysgolion Sir Gaerfyrddin er mwyn iddynt fedru cael mewnwelediad i’r hyn sydd gan y diwydiannau creadigol i'w gynnig a llwybrau gyrfa posibl. Un o’r ysgolion hynny yw Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. Dywedodd Eirlys Thomas, Pennaeth Cynorthwyol yr ysgol:  

“Rydym ni yma yn ysgol Bro Myrddin yn ddiolchgar iawn o'r profiadau tu hwnt o werthfawr a gafwyd gan ein disgyblion Blwyddyn 9 a Blwyddyn 12 ar eu hymweliadau i'r Egin. Roedd arlwy llawn o weithgareddau wedi eu trefnu ar eu cyfer megis sgriptio a chyfieithu ar y pryd yn ogystal a chyflwyniadau gan gynrychiolwyr o S4C, Afanti a chyn-ddisgyblion sydd bellach yn rhan o'r tîm yn yr Egin. Roedd yn gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth o'r mathau gwahanol o yrfau a ellir eu gwneud drwy gyfrwng y Gymraeg yma yng Nghaerfyrddin.” 

Bwriad y seremoni yw i ddathlu’r gwaith y mae cyflogwyr wedi’i wneud i helpu ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith. Mae partneriaethau rhwng busnesau ac ysgolion yn rhoi ysbrydoliaeth a chymhelliant i bobl ifanc. Mae gwybodaeth a phrofiadau gwerthfawr sy'n gysylltiedig â gwaith yn helpu pobl ifanc i gysylltu'r hyn y maent yn ei ddysgu yn yr ysgol â’r byd gwaith. 

Meddai Llinos Jones, Swyddog Ymgysylltu Yr Egin:  

“Rydym wrth ein boddau  o gael ein henwebu am wobr Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru. Un o brif amcanion Yr Egin yw i feithrin talent y dyfodol, drwy gynnal digwyddiadau a hyrwyddo gyrfaoedd mae modd codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc o’r holl gyfleon sydd ar gael iddynt yn y diwydiannau creadigol, yn Sir Gâr, a hynny yn y Gymraeg.  

“Diolch o galon i bawb rydym wedi  cydweithio â hwy,  rydym wedi  datblygu partneriaethau gyda  â Gyrfa Cymru, Tîm Ehangu Mynediad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac amryw o gwmnïau creadigol a digidol sydd wedi eu lleoli yma yn Yr Egin er budd disgyblion ysgol ac effeithio’n gadarnhaol ar y Gymraeg."

Gwyliwch y fidio yma i gael rhagflas o'r ddarpariaeth mae'r Egin yn ei gynnig i  ysgolion https://www.facebook.com/YrEgin/videos/960721151914218

Pobol ifanc yn Yr Egin

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk