Coleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnal ‘Residuum’: Cynhadledd Academaidd sy’n Archwilio’r Croestoriad rhwng Celf, Dylunio a Diwylliant
16.06.2023
Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnal cynhadledd academaidd ‘Residuum’ rhwng 17 a 21 Gorffennaf yng Nghanolfan Ddylunio Alex yn Abertawe. Mae’r gynhadledd eleni, a drefnir gan y rhaglen Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio yn Abertawe, yn argoeli i fod yn ddigwyddiad diddorol sy’n ysgogi’r meddwl, gan ddod ag ysgolheigion, ac ymarferwyr celf a dylunio at ei gilydd o bob rhan o’r byd.
Bydd cynhadledd ‘Residuum’ yn para pum diwrnod, gan ddarparu llwyfan cynhwysfawr i gyfranogwyr ymchwilio i drafodaethau beirniadol a syniadau arloesol sy’n canolbwyntio ar y themâu a’r arferion a luniodd y gorffennol a’r presennol ac a fydd yn pennu ein dyfodol. Fel cydnabyddiaeth o gyrhaeddiad byd-eang y digwyddiad, cynhelir pob panel yn Saesneg a Mandarin, gan sicrhau amgylchedd amrywiol a chynhwysol ar gyfer cyfnewid deallusol.
Bydd pob diwrnod o’r gynhadledd yn canolbwyntio ar thema benodol, a fydd wedi’i churadu i archwilio agweddau gwahanol ar y dirwedd celf a dylunio. Mae’r themâu’n cynnwys:
- Hiraeth: Gorffennol Colledig neu Ddyfodol Colledig
- Dychymyg Ymdrochol
- Deall Treftadaeth fel Symbol o’r Dyfodol
- Cyfathrebu mewn Byd Cyfoes
- Methodolegau Arloesol
- Diffinio eich Arfer fel Arwain Newid
- Dyfodol Diwydiannau Creadigol Tsieineaidd
Bydd y themâu hyn yn sbardun ar gyfer trafodaethau rhyngddisgyblaethol, gan alluogi cyfranogwyr i rannu eu hymchwil, eu mewnwelediadau a’u harferion gyda chynulleidfa ehangach. Trwy archwilio’r pynciau hyn trwy lensys celf, dylunio a diwylliant, ceisia cynhadledd ‘Residuum’ feithrin cydweithrediadau ystyrlon a chreu syniadau arloesol a all lunio dyfodol y meysydd hyn.
Cynhelir y gynhadledd hon yng Nghanolfan Dylunio Alex, sy’n cynnig amgylchedd ysgogol ar gyfer archwilio deallusol a rhwydweithio. Er mwyn bod yn hygyrch i gynulleidfa fyd-eang, bydd y digwyddiad yn cael ei ffrydio ar-lein, gan ddarparu cyfle cynhwysol i gymryd rhan a lledaenu gwybodaeth.
Meddai Timi O’Neill, Rheolwr Rhaglen y Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio: “Mae Residuum yn llwyfan eithriadol sy’n dod ag ysgolheigion ac ymarferwyr at ei gilydd i gymryd rhan mewn deialogau creadigol, herio paradeimau presennol, ac archwilio gorwelion newydd o fewn arferion celf a dylunio. Mae’r gynhadledd eleni yn addo bod yn brofiad cyfoethog i’r holl fynychwyr, gan gyfuno safbwyntiau a syniadau amrywiol o bob cwr o’r byd.”
Disgwylir i gynhadledd ‘Residuum’ ddenu cyfranogwyr o sefydliadau academaidd, sefydliadau ymchwil, gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant a selogion creadigol. Bydd mynychwyr yn cael cyfle i gysylltu ag arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd, cael mewnwelediad o ymchwil arloesol, a chyfrannu at y drafodaeth barhaus ar gelf, dylunio a diwylliant.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR
Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office
Ffôn | Phone: 07384 467071
E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk