Cydweithio ar gyfer Lles


18.05.2023

Mae myfyrwyr a staff Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cydweithio â Phrifysgol De Cymru (PDC) ac elusen Bronwen’s Wish ar brosiect a fydd wedi’i leoli yn Ysgol Uwchradd Caerdydd.

Ym mis Ebrill, fe wnaeth myfyrwyr Pensaernïaeth ac Ian Standen, y Cyfarwyddwr Pensaernïaeth yn Y Drindod Dewi Sant, groesawu myfyrwyr Cyfathrebu Graffig PDC i’r Adeilad IQ ar Gampws SA1 Glannau Abertawe’r Brifysgol.

Cafodd y ddau grŵp o fyfyrwyr sesiwn friffio ac aethant ati i wneud ymarferion meithrin tîm. Byddant yn cydweithio ar brosiect i ddylunio gofod lles awyr agored a phod yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, yn ogystal â chynnal yr ymgyrch gyhoeddusrwydd ar gyfer y ganolfan.

Mae briff y prosiect yn deillio o genhadaeth elusen Bronwen’s Wish, a sefydlwyd yn 2020 er cof am nyrs iechyd meddwl dan hyfforddiant yng Nghaerdydd a fu farw, yn drist iawn, trwy hunanladdiad.

Mae’r elusen yn cefnogi plant a phobl ifanc trwy roi lle iddynt deimlo’n ddigynnwrf, yn ddiogel, a’u bod yn cael cefnogaeth, ar ffurf podiau neu lochesi cuddio wedi’u gosod mewn safleoedd ysgol, sydd wedi’u neilltuo’n llwyr ar gyfer lles emosiynol disgyblion.

Bydd y myfyrwyr yn Y Drindod Dewi Sant a PDC yn dylunio a hyrwyddo’r podiau hyn yn rhan o’u haseiniadau.

Meddai Ian Standen, Cyfarwyddwr Pensaernïaeth yn Y Drindod Dewi Sant: “Rhoddodd y prosiect gyfle gwych i fyfyrwyr yn eu disgyblaethau perthnasol gydweithio, wrth wynebu her cleient, briff a safle go iawn.

“O ystyried y cyd-destun, ymrwymiad a phwysigrwydd Bronwen’s Wish i les plant ysgol, cynhyrchwyd digonedd o syniadau dylunio gwych ganddynt y gall yr elusen eu defnyddio ar gyfer prosiectau i’r dyfodol.”

Cyflwynodd Ian Standen a Dr Rachel Grainger, Uwch Ddarlithydd mewn Hanes Dylunio yn PDC, bapur ar y prosiect yng Nghynhadledd AMPS: Cymhwyso Addysg mewn Byd Cymhleth yn Toronto ym mis Ebrill, o’r enw: Bronwen's Wish: An Interdisciplinary Project to Build and Promote Wellness Centres.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk

Ffôn | Phone : 07384467078