Cyfarfod Cyffredinol INSPIRE yn Meithrin Cyfnewid Gwybodaeth yn PCYDDS
04.07.2023
Cynhaliodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) Gyfarfodydd Cyffredinol INSPIRE ar ei gampws yng Nghaerfyrddin ar Fehefin 22ain, 2023. Bu’r digwyddiad yn llwyfan dynamig i staff, uwch reolwyr a llysgenhadon INSPIRE ymgymryd â thrafodaethau ystyrlon ac ymdrechion cydweithredol, yn ogystal â rhannu’r diweddaraf ar gynnydd ar draws y mentrau amryfal a reolir gan Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi, Ymchwil a Menter y Brifysgol (INSPIRE).
Dechreuodd Cyfarfod Cyffredinol INSPIRE gyda Chinio Rhwydweithio lle rhoddwyd cyfle i fynychwyr gysylltu ag unigolion o’r un anian ac ystyried posibiliadau cyffrous ar gyfer cydweithredu. Mynychwyd y digwyddiad gan Barry Liles, Dirprwy Is-Ganghellor Sgiliau a Dysgu Gydol Oes, Iestyn Davies, Dirprwy Is-Ganghellor a Deon Addysg, Y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, Yr Athro Wendy Dearing, Deon yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd, Steve Baldwin, Cyfarwyddwr Adnoddau a Chynllunio Busnes ac Elena Rodriguez Falcon FREng PFHEA, Dirprwy Is-Ganghellor PCYDDS.
Cafwyd cyflwyniadau gan siaradwyr o fri a rannodd eu harbenigedd a’u mewnwelediadau mewn meysydd amrywiol. Rhoddodd pob siaradwr safbwyntiau gwerthfawr, yn amlinellu arwyddocâd eu meysydd priodol, ac yn cynnig mewnwelediadau newydd i’r datblygiadau a’r mentrau diweddaraf yn PCYDDS.
Y Dirprwy Is-Ganghellor Elena Rodriguez Falcon a ddaeth â’r digwyddiad i ben gyda’i sylwadau terfynol, gan bwysleisio pwysigrwydd cydweithredu a chyfnewid gwybodaeth wrth yrru arloesedd ac effaith. Roedd ei geiriau yn ysbrydoli ac yn cyseinio gyda’r mynychwyr, gan atgyfnerthu ymrwymiad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i feithrin cymuned ymchwil a dysgu bywiog.
Llwyddodd Cyfarfodydd Cyffredinol INSPIRE i ddod â grŵp o unigolion amrywiol at ei gilydd sy’n frwdfrydig dros greu newid cadarnhaol drwy gydweithredu. Drwy hwyluso cyfleoedd rhwydweithio a chyflwyniadau craff, creodd y digwyddiad amgylchedd a fu’n ffafriol i rannu gwybodaeth ac a ddeffrodd ffyrdd o lunio partneriaethau’r dyfodol.
Mae tîm INSPIRE PCYDDS yn garfan o unigolion ymroddgar a brwdfrydig sy’n ymroddedig i feithrin arloesedd, ymchwil ac ymrwymiad effeithiol. Yn rhannu gweledigaeth i ysbrydoli newid cadarnhaol, mae’r tîm yn gweithio’n ddiflino i greu amgylchedd sy’n annog cydweithredu, cyfnewid gwybodaeth ac anelu at ragoriaeth.
Yn cynnwys arbenigwyr o ddisgyblaethau gwahanol, mae’r tîm INSPIRE yn dod â safbwyntiau ac arbenigeddau amrywiol at ei gilydd, gan ganiatáu agweddau rhyngddisgyblaethol at ddatrys
problemau ac ymchwil. Dewisir aelodau o’r tîm oherwydd eu sgiliau eithriadol, eu profiad helaeth a’u dealltwriaeth ddofn o’u meysydd penodol.
Mae’r tîm INSPIRE yn chwarae rôl allweddol wrth hwyluso cysylltiadau ystyrlon rhwng ymchwilwyr, gweithwyr proffesiynol diwydiannau a’r gymuned ehangach. Drwy drefnu digwyddiadau, cyfarfodydd a gweithdai, maent yn creu llwyfannau ar gyfer rhwydweithio, rhannu syniadau, a hybu prosiectau cydweithredol sydd â’r potensial i wneud effaith arwyddocaol.
Ymhellach, mae’r tîm yn weithgar yn cynorthwyo ac yn arwain ymchwilwyr, gan gynnig mentoriaeth a chyfleoedd datblygu i’w helpu nhw i ffynnu yn eu meysydd penodol. Maent wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle gall unigolion ymestyn ffiniau gwybodaeth ac arloesedd.
Wedi eu hysgogi gan awch am ragoriaeth ymchwil ac effaith gymdeithasol, mae’r tîm INSPIRE yn ymdrechu i alluogi unigolion, sefydliadau a chymunedau i wireddu eu potensial llawn. Drwy eu hymroddiad, arbenigedd, ac ymrwymiad cadarn, maent yn parhau i ysbrydoli a thrawsnewid bywydau, gan wneud gwahaniaeth parhaol i’r dirwedd academaidd ac ymchwil.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR
Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office
Ffôn | Phone: 07384 467071
E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk