Cyfarwyddwr Rhaglen y Drindod Dewi Sant ar fin rhedeg Marathon Llundain ar gyfer Mind


20.04.2023

Ddydd Sul, (Ebrill 23) bydd Lara Hopkinson, Cyfarwyddwr rhaglen yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn ymuno â thua 50,000 o redwyr sy’n cymryd rhan ym Marathon Llundain – pellter o 26.2 milltir.

Lara is raising funds for the charity Mind, which provides advice and support to empower anyone experiencing a mental health problem whilst also campaigning to improve services, raise awareness and promote understanding.

Mae Lara yn codi arian ar gyfer yr elusen Mind, sy'n darparu cyngor a chefnogaeth i rymuso unrhyw un sy'n profi problem iechyd meddwl tra hefyd yn ymgyrchu i wella gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a hybu dealltwriaeth.

Dywedodd Lara: “Rwy’n rhedeg dros Mind oherwydd, yn syml iawn, mae #iechydmeddwlynbwysig! Rhedeg yw fy therapi ac mae'n fy helpu i gadw fy nghythreuliaid fy hun yn rhydd. Rwy’n gobeithio, trwy gefnogi’r elusen hon, y bydd eraill yn elwa o gefnogaeth hefyd. Rwy’n gwybod pa mor hanfodol yw eu gwaith.”

Nid dyma’r tro cyntaf i Lara ymgymryd â her chwaraeon mor anhygoel. Cyn hynny bu’n rhedeg Marathon Llundain yn 2005 ac ychydig dros bythefnos yn ôl cwblhaodd Marathon Brighton hefyd.

Ychwanegodd Lara: “Rydw i wedi bod yn hyfforddi pan alla i, naill ai peth cyntaf yn y bore neu ddiwedd y dydd ar ôl dysgu fy myfyrwyr.

“Dwi methu aros i gymryd rhan yn nigwyddiad ddydd Sul gan fy mod yn gwybod pa mor anhygoel yw’r awyrgylch a pha mor gefnogol yw’r holl bobl fydd ar y strydoedd yn cefnogi ac yn codi’ch calon wrth i ni redeg heibio.

“Mae’r rhan fwyaf o bobl yn aros adref ac yn gwella ar ôl marathon, ond ar ôl cwblhau marathon Brighton ar Ebrill 2, fe wnes i ganiatáu diwrnod neu ddau o orffwys i mi fy hun, cyn mynd yn ôl i hyfforddi.”

Dywedodd Lara ei bod am ddiolch i’w ffrindiau, teulu, a’i chydweithwyr yn y Drindod Dewi Sant am eu cefnogaeth.

Ychwanegodd:

“Rydw i mor ddiolchgar i bawb sydd wedi fy nghefnogi ac wedi cyfrannu at achos mor deilwng,”

Gallwch gyfrannu yma: https://2023tcslondonmarathon.enthuse.com/pf/lara-hopkinson

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Executive Press and Media Relations Officer / Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Corporate Communications and PR / Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Mobile: 07384 467071