Cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i gyn-Gyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr
03.07.2023
Heddiw, yn y Seremoni Raddio a gynhaliwyd ar gampws Caerfyrddin y Brifysgol dyfarnwyd cymrodoriaeth er anrhydedd i Mr Dai Rogers i gydnabod ei wasanaethau eithriadol i’r Brifysgol ac, yn arbennig, wrth gefnogi myfyrwyr.
Dai Rogers yw cyn-Gyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol a fu’n gyfrifol am gefnogi myfyrwyr ar draws campysau’r Brifysgol yng Nghymru ac yn Llundain a Birmingham.
Wedi’i eni yn Noc Penfro a’i fagu a’i addysg yn Llandysul ac Aberhonddu, graddiodd Dai mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth, gan arbenigo mewn daearyddiaeth gymdeithasol ac, yn arbennig, daearyddiaeth yr iaith Gymraeg.
Dechreuodd cysylltiad Dai â’r Brifysgol pan gafodd ei benodi i ddysgu Daearyddiaeth yn 1989 yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, fel yr oedd ar y pryd. Dechreuodd hyn yrfa a oedd yn ymestyn dros 28 mlynedd o’r 31 mlynedd nesaf mewn amrywiaeth o swyddi nes iddo ymddeol yn 2020.
Wrth gyflwyno Dai i’r gynulleidfa dywedodd Rhys Dart, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr: “Mae Dai yn rhywun sydd nid yn unig yn gweithio mewn lle, mae’n buddsoddi ei amser a’i egni a’i ymrwymiad. Mae’n cofleidio rôl gymunedol ehangach y Brifysgol yn arbennig. Anaml iawn, hyd yn oed yn ei ymddeoliad, yw mynd i ddigwyddiad prifysgol a pheidio â gweld Dai yno, yn dathlu ac yn cefnogi’r rôl y mae’r Brifysgol hon yn ei chwarae wrth ddod â phobl ynghyd ac adeiladu cymunedau cryfach, mwy cadarn a rhyng-gysylltiedig”.
“Mae cymuned wastad wedi bod yn bwysig i Dai sydd wedi defnyddio ei angerdd dros Orllewin a Chanolbarth Cymru wledig i helpu i adnabod y cyfleusterau yr oedd pobl mewn pentrefi, fel Llandysul, eisiau eu gweld yn cael eu darparu gan lywodraeth leol. Nid yn unig roedd hwn yn gyfle iddo ddefnyddio ei sgiliau arbenigol i roi yn ôl i’w gymuned ond hefyd yn gyfle gwych i’w fyfyrwyr”.
Penodwyd Dai Rogers i arwain Adran Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin yn ystod rhai o’r blynyddoedd mwyaf trawsnewidiol yn hanes diweddaraf y Brifysgol. Ar ei ymddeoliad roedd yn arwain tîm amlddisgyblaethol yn gweithio ar draws nifer o leoliadau daearyddol ac yn cefnogi dros 20,000 o fyfyrwyr ac roedd wedi rhoi ystod o systemau a phrosesau cymorth ar waith.
Aeth Rhys Dart ymlaen, “Roedd y twf yng nghyfrifoldebau Dai dros y blynyddoedd yn syfrdanol, ond yr hyn oedd yn gyson oedd ei agwedd ofalgar a’i allu i wneud amser i bobl. Mae gan fyfyrwyr heddiw fynediad i linell gymorth myfyrwyr 24/7. Nid gor-ddweud yw hi mai Dai oedd am flynyddoedd lawer y person a fyddai'n derbyn y galwadau ffôn gan bobl oedd angen cymorth a beth bynnag yr awr byddai'n gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn ddiogel, bod staff yn cael eu cefnogi, a bod teulu a ffrindiau yn dawel eu meddwl. I brifysgol sy’n ymfalchïo mewn bod yn deulu, roedd Dai bob amser yn ganolog i’n dull myfyriwr-ganolog.
“Rwyf am achub ar y cyfle hwn i ddiolch yn bersonol i Dai am yr amynedd, y gefnogaeth a’r arweiniad a roddodd i mi ac eraill yn yr adran gwasanaethau myfyrwyr yn ystod misoedd cynnar 2020 pan oedd ef ei hun yn dod i delerau â diagnosis o glefyd Parkinson. Roedd bryd hynny, ac mae yn awr, yn berson oedd ar gael â’i gyngor, yn feddylgar, yn ystyriol, yn gefnogol ac yn anad dim, yn ddoeth”.