Cyhoeddi enillydd Gwobr Goffa Norah Isaac 2023.


03.07.2023

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi mai enillydd Gwobr Goffa Norah Isaac 2023 yw Ffion Anderson, myfyrwraig BA Addysg Gynradd gyda SAC o Gwm Gwendraeth 

Enillydd Gwobr Goffa Norah Isaac 2023

Dyfernir Gwobr Goffa Norah Isaac i’r myfyriwr a gyfrannodd fwyaf, yn nhyb y Brifysgol, at fywyd Cymraeg y sefydliad yn ystod y flwyddyn academaidd. 

Bu Norah Isaac yn Brif Ddarlithydd Drama a’r Gymraeg yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin am flynyddoedd lawer lle ysbrydolodd genedlaethau o fyfyrwyr. Magodd do ar ôl to o fyfyrwyr i fod, yn eu tro, yn athrawon medrus, a hwythau'n diolch am y cyfle a gawsant i fod wrth draed meistr.        

Gyda chefnogaeth a thrwy haelioni Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin, trefnwyd bod Ffion yn derbyn ei gwobr mewn derbyniad ar gampws Caerfyrddin yn ystod y seremonïau graddio.  

Bu angerdd a brwdfrydedd Ffion, myfyrwraig ar y cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC,  dros bopeth Cymraeg a Chymreig yn ysbrydoliaeth i’w chyfoedion ar draws y Brifysgol dros y tair blynedd ddiwethaf.   

Fel Llywydd y Gymdeithas Gymraeg bu’n llysgennad penigamp wrth hybu’r Gymraeg a Chymreictod, ac mae wedi gweithio’n ddiwyd i sicrhau parhad i’r Gymdeithas ac yn cydnabod y pwysigrwydd o’i fodolaeth i’r Brifysgol. Gwnaeth annog myfyrwyr i ymuno yn yr amryw o weithgareddau a gyniga’r Brifysgol, ac i fanteisio ar bob cyfle posib. 

Gweithiodd yn ddiwyd hefyd i drefnu sesiynau hyfforddi a gweithgareddau cymdeithasol yn enw’r Gymdeithas a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.  Dangosodd sgiliau trefnu ardderchog pan drefnodd taith i’r Alban ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, a chydweithiodd yn ddiflino gyda’i chyd-fyfyrwyr a gydag aelodau o staff i sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod Ryng-golegol a gynhaliwyd ar gampws Llambed yn gynharach eleni.   

Cyfrannodd hefyd i lu o gyfweliadau ar y cyfryngau yn ystod y flwyddyn gan leisio barn ar bynciau llosg y dydd megis costau byw myfyrwyr a’r gostyngiad ymhlith siaradwyr Cymraeg ifanc yn sir Gâr yn dilyn canlyniadau cyfrifiad 2021.   

Hyrwyddodd defnydd y Gymraeg hefyd fel aelod brwd o dîm pêl-rwyd Academi Chwaraeon y Brifysgol.  

Fel aelod o’r Urdd, cefnogodd a chyfrannodd tuag at nifer o weithgareddau codi arian i Eisteddfod Sir Gaerfyrddin a drefnwyd gan y Brifysgol.  Yn ogystal, cymerodd ran yng ngweithgareddau Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan gynnwys penwythnos y glas, dathliadau Gwŷl Ddewi a chanu yng nghôr y Gangen mewn gwasanaethau.  

Yn ystod ei phrofiad addysgu proffesiynol llwyddiannus, ymdrechodd i godi safonau iaith y dysgwyr ifanc dan ei gofal trwy gynnal gweithgareddau megis y Cynllun Clonc  i ysgogi datblygiad llafaredd. Yn dilyn hynny fe’i penodwyd i swydd athrawes Cyfnod Allweddol Dau ar gyfer Medi 2023 yn yr union ysgol, fel y gall barhau i fod yn llysgennad gwych i genedlaethau’r dyfodol.  Yn ychwanegol at ofynion ei chwrs, astudiodd ar gyfer arholiad Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

Meddai Ffion:  

“Dwi wrth fy modd fy mod wedi ennill Gwobr Norah Isaac. Mae’r Gymraeg a fy Nghymreictod yn bwysig iawn i mi, felly mae ennill y wobr hon yn anrhydedd fawr. Roedd dewis prifysgol â diwylliant Cymreig yn gwbl bwysig i mi, felly ble gwell na chanol tref Caerfyrddin? 

“Mae’r Brifysgol yn sicr wedi darparu cwrs BA Addysg Gynradd arbennig i mi trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda darlithwyr profiadol a chefnogol yn arwain y cwrs. Mae hyn wedi gosod y seiliau cadarn i mi fel athrawes, a braint bydd y cyfle i drosglwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymreig i ddisgyblion y dyfodol. 

“Gan y dechreuais fy mhrofiad dan gwmwl cofid, roeddwn yn benderfynol o ail-gydio ym mywyd Cymreig y Brifysgol a sicrhau bod y Gym Gym dal i redeg. Cefais y fraint yn rhan o dîm arbennig wrth drefnu’r Eisteddfod Ryng-golegol yn Llambed. Teimlais falchder fel Llywydd y Gym Gym wrth wisgo bathodyn PCYDDS a gweld y myfyrwyr yn cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod.” 

Ychwanegodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths o Gymdeithas Ddinesig Caerfyrddin,  

“ Mae Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin yn llongyfarch Ffion Anderson yn gynnes iawn ar ennill Gwobr Goffa Norah Isaac eleni ac a gyflwynir yn flynyddol gan y Gymdeithas.   Mae gweld person ifanc yn hyrwyddo’r Gymraeg a Chymreictod yn ystod ei chyfnod yn y coleg yn rhywbeth i’w ymfalchïo ynddo, ac yn un o flaenoriaethau Norah Isaac pan oedd hi yn ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod.” 

Nododd Nanna Ryder, Uwch Ddarlithydd Addysg y Brifysgol: 

"Bu'n bleser i gefnogi Ffion ar y cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC ar hyd y dair mlynedd. Mae ei hangerdd a'i brwdfrydedd dros yr iaith Gymraeg yn heintus ac mae'n llawn haeddu'r wobr nodedig hon am ei chyfraniad sylweddol i fywyd Cymreig y Brifysgol. Llongyfarchiadau calonnog iddi ar dderbyn yr anrhydedd a phob dymuniad da iddi wrth ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol yn ei swydd gyntaf fel athrawes yn Ysgol Lon Las ym mis Medi." 

Gwobr Goffa Norah Isaac 2023

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk