Cymrodoriaeth er Anrhydedd i gyn uwch was sifil
12.07.2023
Dyfarnwyd cymrodoriaeth er anrhydedd i Margaret Evans, cyn uwch was sifil a fu’n gweithio i John Major a Michael Portillo. Bu Margaret Evans hefyd yn aelod hirsefydlog o Gynghorau Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Cyflwynwyd Margaret Evans i’r cynulliad gan Arwel Ellis Owen, sydd hefyd yn aelod o’r Cyngor ac yn gyn Brif Weithredwr S4C.
Yn enedigol o Dreorci, cafodd Margaret Evans ei magu yng Nghwmafan ac ardal Port Talbot ar adeg pan oedd gwaith dur y dref yn gwneud cyfraniad sylweddol i economi a ffordd o fyw yr ardal.
Treuliodd Margaret ei blynyddoedd ffurfiannol yn Ysgol Glanafan a Chapel Dyffryn ac mae’n talu teyrnged i’w hathrawon yn yr ysgol a’r ysgol Sul am eu dylanwad arni. Arwydd cynnar o’i chyfraniad i fywyd Cymraeg ei bro oedd ei dewis yn Ferch y Fro yn Eisteddfod Aberafan, ac iddi gyfarch Dic Jones pan enillodd y gadair am ei awdl i’r Cynhaeaf.
Astudiodd Margaret Evans Hanes yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) gyda’r canoloeswr nodedig Rees Davies, AJP Taylor a CV Wedgewood, gyda’r olaf yn defnyddio’r blaenlythrennau CV i guddio ei rhyw, cymaint oedd y rhagfarn yn erbyn haneswyr benywaidd ar y pryd, ac mae Margaret yn cofio ei sioc ei hun ar gyfarfod Wedgewood am y tro cyntaf, ar ôl tybio ar gam ei bod yn ddyn. Gwers a ddysgodd a nododd ar y pryd.
Ymunodd â’r gwasanaeth sifil, ac aeth i’r Swyddfa Gymreig newydd yn Whitehall ar ôl graddio, cyn symud ymlaen i weithio gyda John Major a Michael Portillo. Ar ôl ugain mlynedd o fyw yn Llundain, bu datblygiadau gwleidyddol yng Nghymru yn atyniad anorchfygol iddi hi a’i gŵr Howard, academydd ymchwil meddygol rhyngwladol o fri a wahoddwyd i arwain tîm arbenigol yn Sefydliad Ymchwil y Galon Cymru Syr Geraint Evans yng Nghaerdydd.
Cafodd Margaret ei gwahodd i ymuno ag Ymddiriedolaeth y Tywysog, elusen sy’n helpu pobl ifanc ddi-waith a difreintiedig, profiad a ddysgodd fwy iddi am realiti heriau bywyd nag unrhyw un o’i safleoedd pŵer eraill.
Gyda sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ymunodd Margaret â’r Adran dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, a bu’n cynorthwyo’r weinyddiaeth newydd i ddrafftio strategaeth ddiwylliant am y tro cyntaf yn hanes Cymru. Bu’n gweithio’n agos gyda’r Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, yn cynorthwyo i gyflwyno strategaeth ar gyfer y Gymraeg a bathiad y term Iaith Pawb.
Yn ei anerchiad i’r cynulliad graddio, dywedodd Arwel Ellis Owen, cyd-aelod o Gynghorau’r Brifysgol: “Tybed oedd profiad bod yn Ferch y Fro i Dic Jones a’i gwpled ‘yr hen iaith Yn nillad gwaith ei hafiath cartrefol’ wedi dylanwadu ar ddychymyg y gwas sifil flynyddoedd wedyn wrth iddi ymbyfalu am arwyddair neu gipair crafog tebyg i Iaith Pawb?
Aeth yn ei flaen: “Y dyfnder profiad hwn a wnaeth Margaret yn un o aelodau mwyaf dylanwadol ac uchel ei pharch ar Gyngor Prifysgol Cymru ac yn ddiweddarach y sefydliad hwn. Roedd ei meddwl strategol yn eang ac yn heriol. Mae ei sylw i fanylion yn anhygoel."
Wrth dderbyn ei Chymrodoriaeth er Anrhydedd, dywedodd Margaret Evans: “Mae’n anrhydedd fawr i mi heddiw dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Brifysgol, ac am yr holl gyfleoedd dros fwy na degawd i gyfrannu at ei llwyddiant.
“Fy niolch cynhesaf i’r Cadeirydd a’r Is-Ganghellor a hefyd i Sarah Clark a’r tîm am eu holl waith caled, cyfeillgarwch a chefnogaeth.
“I’r graddedigion heddiw, rwy’n edrych dros Fae Abertawe i fy nhref enedigol, Port Talbot. Mae fy nhaith oddi yno i’r brifysgol, gyrfa yn Llundain a Chymru a theithio’r byd gyda swydd fy ngŵr yn dangos pwysigrwydd cyfleoedd, gwaith caled a her i bob un ohonom. Rwy’n siŵr eich y byddwch chi’n profi’r rhain i gyd yn eich dyfodol disglair. Llongyfarchiadau mawr a dymuniadau gorau i chi gyd!”.