Cynhadledd Cyfrifiadura Ryngwladol yn llwyddiant
23.08.2023
Gwnaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gynnal y 6ed Gynhadledd Ryngwladol ar Gyfrifiadura, Peirianneg Electroneg a Chyfathrebu (iCCECE 23), yn adeilad IQ y Brifysgol yn Abertawe rhwng Awst 14 a 16.
Daeth y gynhadledd tri diwrnod, a drefnwyd gan y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Addysgwyr ac Ymchwilwyr (IAER) ag ymchwilwyr o fyd academia a diwydiant ar ei gilydd trwy anerchiadau, sesiynau technegol a phoster, gweithdai a thiwtorialau.
Mae IAER yn gweithredu fel platfform cyffredin i hyrwyddo addysg ac ymchwil cynhwysol cryf, cynaliadwy a chynhwysol yn sosio-economaidd.
Cyflwynwyd anerchiad croeso gan gadeiryddion y gynhadledd, Dr Maaruf Ali a Dr Carlene Campbell, Uwch Ddarlithydd ac Athro Cysylltiol mewn Cyfrifiadura PCYDDS. Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Andy Penaluna, Athro Emeritws PCYDDS, Heba Kurdi, Athro Deallusrwydd Artiffisial Dosbarthedig ym Mhrifysgol King Saud, a’r Athro Richard Morgan, Deon Cynorthwyol a Phennaeth Arloesi ac Ymgysylltu yn PCYDDS.
Hefyd, roedd yn bleser gan y Brifysgol groesawu Mrs Louise Fleet, Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Gorllewin Morgannwg, Capten Brian Thorne, Dirprwy Raglaw, Alan Brayley, Uwch Siryf Gorllewin Morgannwg a Mr Paxton Hood-Williams, Dirprwy Arglwydd Faer Abertawe.
Meddai Dr Carlene Campbell: “Bu’n fraint cynnal iCCECE 23 3 diwrnod yma yn PCYDDS. Cwmpasodd y gynhadledd lawer o agweddau ar Gyfrifiadura, Peirianneg Electroneg a Chyfathrebu ac fe fu’n llwyddiant enfawr, gyda chyflwynwyr yn rhannu eu harbenigedd, profiad a gwybodaeth o bob cwr o’r byd, gan gynnwys Gogledd America, y Caribî, Ewrop, Asia, yn ogystal â’r DU.
“Rwy’n ddiolchgar i bawb a chwaraeodd rôl hanfodol wrth wneud y gynhadledd hon yn llwyddiant: cyflwynwyr, cynulleidfa, noddwyr, a’r tîm cynllunio diwyd fu’n ymdrechu mor galed yn y cefndir.
“Yn seiliedig ar y digwyddiad llwyddiannus hwn, rwy’n gobeithio’n fawr y byddwn yn gallu cydweithio gyda phrifysgolion, diwydiannau a busnesau i rannu meysydd arbenigedd allweddol a gweithio gyda’n gilydd fel tîm.
“Diolch yn fawr i bawb!”
Mae PCYDDS yn cynnig ystod eang o gyrsiau ym maes Cyfrifiadura a phynciau cysylltiedig, sydd ar gael ar lefel Israddedig, Ôl-raddedig a Phrentisiaeth yn ogystal â chyrsiau byr a chyfleoedd Doethuriaeth. Ewch i’r wefan, www.uwtsd.ac.uk i archwilio’r campysau a dysgu rhagor.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn | Phone : 07384467078