Cynhadledd Residuum yn dod ag ysgolheigion ac ymarferwyr celf a dylunio o bob cwr o’r byd at ei gilydd i ymgysylltu, dadansoddi a rhannu arloesi


11.08.2023

Cynhaliodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gynhadledd academaidd ‘Residuum’ rhwng 8 a 11 Awst ar-lein ac yng Nghanolfan Ddylunio Alex yn Abertawe. Trefnwyd y gynhadledd gan y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio yn Abertawe fel digwyddiad diddorol sy’n ysgogi’r meddwl, gan ddod ag ysgolheigion, ac ymarferwyr celf a dylunio at ei gilydd o bob rhan o’r byd. 

The 'Residuum' academic conference was hosted by the University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) from August 8 to 11, both online and at the Alex Design Centre in Swansea. The conference was organised by the Swansea Professional Doctorate in Art and Design programme as an engaging and thought-provoking event that brought together scholars, art, and design practitioners from around the world.

Dros 3 diwrnod darparai cynhadledd ‘Residuum’ lwyfan cynhwysfawr i gyfranogwyr ymchwilio i drafodaethau beirniadol a syniadau arloesol a oedd yn canolbwyntio ar y themâu a’r arferion a luniodd y gorffennol a’r presennol ac a fydd yn pennu ein dyfodol. Gan gydnabod cyrhaeddiad byd-eang y digwyddiad, roedd pob panel wedi’i gynnal yn Saesneg a Mandarin, gan sicrhau amgylchedd o amrywiaeth a chynwysoldeb ar gyfer cyfnewid deallusol.  

Bu’r anerchiadau’n sbardun ar gyfer trafodaethau rhyngddisgyblaethol, gan alluogi cyfranogwyr i rannu eu hymchwil, eu mewnwelediadau a’u harferion â chynulleidfa ehangach. Trwy lensys celf, dylunio, a diwylliant, ceisiai cynhadledd ‘Residuum’ feithrin cydweithrediadau ystyrlon a chreu syniadau arloesol, sydd â’r potensial i lunio’r meysydd hyn. 

Mae Yueyao Hu yn addysgu’r cwrs a gwnaeth natur yr ymchwil gan y myfyrwyr argraff dda arno. Meddai: “Fel ymchwilydd Tsieineaidd fy hun, rwy’n gwybod yn union pa mor anodd mae hi i’ch mynegi eich hun mewn Saesneg, yn enwedig pan fyddwch yn defnyddio syniadau ac iaith gymhleth.  Mae’r myfyrwyr wedi gwneud eu rhan yn dda ac mae’n fy ngwneud i’n hapus ac yn falch i’w gweld nhw’n datblygu gymaint gydol y cwrs.”

Meddai Timi O’Neill, Rheolwr Rhaglen y Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio: “Eleni, cawsom yr anrhydedd o glywed anerchiadau gan ysgolheigion yn Academi’r Celfyddydau Cain Guangzhou, Prifysgol y Celfyddydau Nanjing, Prifysgol Fujian Jiangxia, ac Athrofa’r Celfyddydau Cain Hubei.  Mae cael nifer o Athrawon o fri o Tsieina yn golygu bod Residuum yn troi i fod yr hyn roeddem yn dymuno iddi fod, sef platfform a ddaeth ag ysgolheigion ac ymarferwyr at ei gilydd i gymryd rhan mewn deialogau creadigol, gan herio paradeimau cyfredol, ac archwilio gorwelion newydd o fewn arferion celf a dylunio.” 

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR

Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office

E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk